S4C

Navigation

Yn dilyn penwythnos allweddol ger y copa yn Uwch Gynghrair Cymru bydd y Seintiau Newydd yn awyddus i agor bwlch ar y brig unwaith yn rhagor, tra bydd y ddau isaf yn brwydro ar Gae-y-Castell nos Fawrth.

Nos Fawrth, 15 Rhagfyr

Aberystwyth v Caernarfon | Nos Fawrth – 19:45

Mae Aberystwyth wedi colli eu pedair gêm ddiwethaf ac yn stryffaglu tua’r gwaelodion ar ôl ennill dim ond dwy o’u 14 gêm y tymor hwn.

Yn dilyn colled drom yn erbyn Pen-y-bont rhyw 10 diwrnod yn ôl, mae Caernarfon wedi ymateb yn gadarn gan ennill dwy gêm yn olynol a dringo ‘nôl i’r Chwech Uchaf.

Dyw Aberystwyth heb ennill gartref yn erbyn Caernarfon ers 2008, ond bydd angen i dîm Gavin Allen ddechrau codi pwyntiau’n sydyn os am osgoi llithro i’r ddau isaf.

Record cynghrair diweddar:

Aberystwyth:  ➖❌❌❌❌

Caernarfon: ❌➖❌✅✅

 

Pen-y-bont v Met Caerdydd | Nos Fawrth – 19:45 (yn fyw arlein)

Ar ôl chwalu Caernarfon 6-0 yn eu gêm ddiwethaf bydd Pen-y-bont yn awyddus am driphwynt arall i atgyfnerthu eu lle yn yr hanner uchaf.

Dyw tîm Rhys Griffiths ond wedi colli yn erbyn y tri uchaf y tymor hwn (YSN, Cei Connah, Y Bala) a gyda sawl gêm wrth gefn mae Pen-y-bont mewn safle cryf i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf.

Met Caerdydd sydd â’r record sgorio salaf yn y gynghrair y tymor yma (13 gôl mewn 15 gêm), ond byddai buddugoliaeth nos Fawrth yn eu codi uwchben Pen-y-bont.

Ar ôl methu ac ennill dim un o’u naw gêm gyntaf yn erbyn Met Caerdydd, mae Pen-y-bont wedi ennill eu dwy ddiwethaf yn erbyn y myfyrwyr heb ildio gôl.

Record cynghrair diweddar:

Pen-y-bont: ❌✅❌➖✅

Met Caerdydd: ❌✅✅➖❌

 

Y Drenewydd v Y Seintiau Newydd | Nos Fawrth – 19:45

Bydd y Seintiau Newydd yn falch o’r cyfle i allu bownsio ‘nôl yn syth ar ôl colli dros y penwythnos am y tro cyntaf y tymor yma, ac hynny yn erbyn eu gelynion pennaf Cei Connah (2-0).

Honno oedd colled gyntaf y Seintiau yn y gynghrair ers mis Chwefror – y golled honno hefyd oddi cartref yn erbyn Cei Connah.

Ar ôl pythefnos heb chwarae, mae’r Drenewydd yn eistedd yn y 9fed safle, dim ond un pwynt oddi ar waelod y tabl.

Dyw’r Robiniaid heb ennill dim un o’u 11 gêm gartref ddiwethaf yn erbyn Y Seintiau Newydd, ers ennill 1-0 ar Barc Latham ar ddydd San Steffan yn 2013.

Record cynghrair diweddar:

Y Drenewydd: ❌✅➖❌❌

Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅❌

 

Y Fflint v Derwyddon Cefn | Nos Fawrth – 19:45

Gohirwyd gêm Y Fflint yn erbyn Pen-y-bont dros y penwythnos, felly mae Neil Gibson wedi gorfod disgwyl yn amyneddgar am ei gêm gyntaf fel rheolwr newydd y clwb, ac am gêm fydd hi rhwng y ddau sy’n hafal ar bwyntiau yn safleoedd y cwymp.

Mae’r Fflint wedi syrthio i waelod y tabl ar ôl colli 11 o’u 14 gêm gynghrair y tymor yma ond bydd Neil Gibson yn hyderus y gallai arwain y tîm allan o safleoedd y cwymp gan fod ganddo berthynas dda gyda rhan helaeth o’r garfan ers ei gyfnod gyda Phrestatyn a Chei Connah.

Bydd y gwynt yn hwyliau’r Derwyddon yn dilyn eu buddugoliaeth swmpus o 4-1 gartref yn erbyn Hwlffordd ddydd Sadwrn, eu buddugoliaeth gynghrair gyntaf ar y Graig yn 2020.

Y Fflint enillodd y gêm gyfatebol gyda Richie Foulkes a Mark Cadwallader yn sgorio ar y Graig ym mis Medi (Cefn 1-2 Fflint).

Record cynghrair diweddar:

Y Fflint: ❌✅❌❌❌

Derwyddon Cefn: ➖❌➖❌✅

Nos Fercher, 16 Rhagfyr

Hwlffordd v Y Barri | Nos Fercher – 19:45

Gyda dim ond un buddugoliaeth yn eu wyth gêm ddiwethaf tydi lle’r Barri yn y Chwech Uchaf yn sicr ddim yn ddiogel.

Ar ôl colli’n drwm yn erbyn y Derwyddon ddydd Sadwrn bydd Wayne Jones yn disgwyl ymateb gan ei chwaraewyr nos Fercher.

Dyw’r Barri heb ennill yn Nôl-y-Bont ers eu buddugoliaeth wedi amser ychwanegol yn ail rownd Cwpan Cymru ‘nôl yn 2011.

Ionawr 2003 oedd y tro diwethaf i’r Barri ennill gêm gynghrair oddi cartref yn erbyn Hwlffordd.

Record cynghrair diweddar:

Hwlffordd: ❌✅✅➖❌

Y Barri: ❌➖❌✅❌

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau i’w gweld ar Mwy o Sgorio nos Fercher.

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?