Golwg ar y gemau canol wythnos yn Uwch Gynghrair Cymru.
Nos Fawrth, 8 Rhagfyr
Derwyddon Cefn v Caernarfon | Nos Fawrth – 19:45
Bydd y Derwyddon yn benderfynol o fachu ar y cyfle i ddringo oddi ar waelod y tabl am y tro cyntaf ers mis Medi pan fyddan nhw’n croesawu’r Cofis i’r Graig nos Fawrth.
Dyw tîm Bruno Lopes ond wedi ennill un gêm y tymor hwn, a daeth y fuddugoliaeth honno oddi cartref yn erbyn Caernarfon ym mis Hydref.
Mae Caernarfon ar rediad difrifol o saith gêm heb fuddugoliaeth, eu rhediad hiraf heb ennill ers degawd, a’u rhediad gwaethaf yn yr uwch gynghrair ers tymor 2008/09.
Collodd y Cofis o 6-0 ym Mhen-y-bont ddydd Sadwrn, eu canlyniad gwaethaf ers colli 6-0 yn erbyn Y Seintiau Newydd yn 2008.
Dyw’r Derwyddon heb golli gartref yn erbyn Caernarfon ers i’r Cofis ennill 0-7 ar y Graig ym mis Ebrill 2016 yng Nghynghrair y Gogledd.
Record cynghrair diweddar:
Derwyddon Cefn: ❌❌➖❌➖
Caernarfon: ➖❌❌➖❌
Hwlffordd v Y Barri | Nos Fawrth – 19:45
Roedd yna ryddhad i Gavin Chesterfield ddydd Sadwrn gan i’r Barri guro’r Fflint 6-3 i ddod a rhediad o chwe gêm heb ennill i ben.
Cyn y fuddugoliaeth yn erbyn Y Fflint, doedd Y Barri ond wedi sgorio 12 gôl mewn 12 gêm, sy’n golygu bod y Dreigiau wedi sgorio traean o’u goliau y tymor yma ddydd Sadwrn (6/18).
Ar ôl tair gêm heb golli mae Hwlffordd wedi codi i’r hanner uchaf ac mae’r Adar Gleision yn bygwth i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf y tymor hwn.
Dyw’r Barri heb ennill yn Nôl-y-Bont ers eu buddugoliaeth wedi amser ychwanegol yn ail rownd Cwpan Cymru ‘nôl yn 2011.
Ionawr 2003 oedd y tro diwethaf i’r Barri ennill gêm gynghrair oddi cartref yn erbyn Hwlffordd.
Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ➖❌✅✅➖
Y Barri: ➖❌➖❌✅
Nos Fercher, 9 Rhagfyr
Aberystwyth v Y Bala | Nos Fercher – 19:45
Mae’r Bala ar rediad o 10 gêm heb golli (ennill 6, cyfartal 4), ond ar ôl methu a churo Caernarfon a Met Caerdydd yn eu dwy gêm ddiwethaf mae tîm Colin Caton wedi syrthio naw pwynt y tu ôl i’r Seintiau yn y tabl.
Dyw Aberystwyth ond wedi ennill dwy gêm y tymor yma, a rheiny yn erbyn y ddau glwb isa’n y tabl, ac ar ôl colli eu tair gêm ddiwethaf yn olynol mae angen i griw Gavin Allen droi’r gornel yn sydyn os am osgoi tymor hir tua’r gwaelod.
Ar ôl sgorio 10 gôl yn eu dwy gêm ddiwethaf yn erbyn Aberystwyth, tîm Colin Caton yn sicr fydd y ffefrynnau nos Wener (Bala 5-2 Aber, Aber 0-5 Bala).
Record cynghrair diweddar:
Aberystwyth: ➖➖❌❌❌
Y Bala: ➖✅✅➖➖
Bydd uchafbwyntiau’r gemau i’w gweld ar Mwy o Sgorio nos Fercher am 22:10.