S4C

Navigation

Dim ond 10 gêm sydd i fynd tan yr hollt yn Uwch Gynghrair Cymru a gan mae pedwar pwynt yn unig sydd yn gwahanu’r saith clwb rhwng y 4ydd a’r 10fed safle mae’n gaddo i fod yn dipyn o ras i gyrraedd y Chwech Uchaf eleni.  

 

Nos Fawrth, 9 Tachwedd

Caernarfon (5ed) v Cei Connah (7fed) | Nos Fawrth – 19:45 

Ar ôl dechrau anisgwyliedig o wael i’r tymor, mae’n edrych fel bod Cei Connah wedi troi’r gornel yn dilyn tair buddugoliaeth o bedair i ddim yn olynol yn erbyn Treffynnon, Derwyddon Cefn a’r Bala. 

Roedd y Nomadiaid wedi syrthio i’r 10fed safle ar ôl rhediad o wyth gêm gynghrair heb fuddugoliaeth, ond wedi llond llaw o ganlyniadau cadarnhaol mae gan criw Craig Harrison gyfle i godi uwchben y Cofis nos Fawrth. 

Wedi pedair colled yn olynol roedd ‘na ryddhad i hogiau Huw Griffiths ddydd Sadwrn wrth i’r Caneris ennill 0-1 yn Met Caerdydd i ddringo ‘nôl i’r hanner uchaf. 

Ond fydd hi’n gêm galed i Gaernarfon sydd heb ennill dim un o’u wyth gêm ddiwethaf yn erbyn Cei Connah (colli 6, cyfartal 2).

Record cynghrair diweddar: 

Caernarfon: ✅❌❌❌✅ 

Cei Connah: ❌❌➖✅✅ 

 

Derwyddon Cefn (12fed) v Y Fflint (2il) | Nos Fawrth – 19:45 

Ar ôl sicrhau dim ond un pwynt o’u 21 gêm gynghrair ddiwethaf, mae Derwyddon Cefn yn un clwb sydd yn weddol saff o beidio a chyrraedd y Chwech Uchaf eleni. 

Roedd cadeirydd y Derwyddon, Des Williams yn feirniadol tu hwnt o’i chwaraewyr ar wefan y clwb yn dilyn colled Cefn yn erbyn Y Drenewydd nos Wener (Cefn 0-5 Dre). 

Mae’r Fflint ar y llaw arall, sef y clwb orffenodd yn y ddau isaf gyda’r Derwyddon y tymor diwethaf, yn cael tymor arbennig hyd yma ac yn parhau’n yr ail safle ar ôl pum gêm gynghrair heb golli. 

Yr ymwelwyr fydd y ffefrynnau amlwg gan fod Y Fflint wedi ennill eu tair gêm ddiwethaf yn erbyn y Derwyddon gan sgorio 15 o goliau (FFL 4-0 CEFN, CEFN 0-6 FFL, FFL 5-0 CEFN). 

Record cynghrair diweddar: 

Derwyddon Cefn: ➖❌❌❌❌ 

Y Fflint: ✅✅➖✅✅ 

 

Hwlffordd (10fed) v Y Barri (8fed) | Nos Fawrth – 19:45 

Bydd Hwlffordd yn awyddus i fownsio ‘nôl yn dilyn colled drom yng nghartref Y Seintiau Newydd ddydd Sadwrn (6-0). 

Dyw’r Barri heb golli dim un o’u pedair gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth a bydd Gavin Chesterfield yn benderfynol o ddringo’r tabl cyn yr hollt er mwyn cyrraedd y Chwech Uchaf am y pedwerydd tymor yn olynol. 

Gall y fantais o chwarae gartref fod yn arwyddocaol i Hwlffordd gan mae’r tîm cartref sydd wedi ennill y chwe gêm ddiwethaf rhwng y timau yma (Barri 4, Hwl 2). 

Record cynghrair diweddar: 

Hwlffordd: ✅❌✅✅❌ 

Y Barri: ❌❌➖✅➖ 

 

Pen-y-bont (4ydd) v Met Caerdydd (9fed) | Nos Fawrth – 19:45 

Mae Met Caerdydd wedi llithro i’r 9fed safle ar ôl ennill dim ond un o’u pum gêm gynghrair ddiwethaf gan sgorio dwy gôl yn unig yn ystod y rhediad hwnnw. 

Bydd Pen-y-bont angen gwell perfformiad yn dilyn eu colled yn erbyn Y Fflint ddydd Sadwrn (3-1). 

Gorffennodd hi’n 3-2 i Met Caerdydd yn y gêm gyfatebol ‘nôl ym mis Awst gyda Adam Roscrow, Eliot Evans ac Harry Owen yn rhwydo i’r myfyrwyr. 

Record cynghrair diweddar: 

Pen-y-bont: ❌✅✅✅❌ 

Met Caerdydd: ❌✅➖❌❌ 

 

Y Drenewydd (3ydd) v Y Bala (6ed) | Nos Fawrth – 19:45 

Mae’r Bala mewn perygl o golli eu lle yn yr hanner uchaf ar ôl mynd ar rediad o bum gêm gynghrair heb fuddugoliaeth am y tro cyntaf ers Ionawr-Mawrth 2019. 

Ond mae pethau tipyn gwell yng nghamp Y Drenewydd gan fod y Robiniaid wedi ennill pump o’u chwe gêm gynghrair ddiwethaf. 

Er hynny, mae’r Bala wedi ennill eu pum gêm ddiwethaf yn erbyn Y Drenewydd yn cynnwys eu buddugoliaeth o 3-1 yn rownd wyth olaf Cwpan Nathaniel MG bythefnos yn ôl. 

Record cynghrair diweddar: 

Y Drenewydd: ✅✅✅❌✅ 

Y Bala: ➖❌➖❌❌ 

 

Aberystwyth (11eg) v Y Seintiau Newydd (1af) | Nos Fawrth – 20:00 

Mae’r Seintiau Newydd saith pwynt yn glir ar y copa wedi rhediad rhagorol o 15 gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth (ennill 13, cyfartal 2). 

Mae hi wedi bod yn ddechrau rhwystredig i’r tymor i Aberystwyth sydd bedwar pwynt o dan diogelwch y 10fed safle ar ôl sgorio dim ond pum gôl yn eu 11 gêm gynghrair ddiwethaf. 

Dyw’r Seintiau Newydd ond wedi ennill un o’u tair gêm ddiwethaf oddi cartref yn erbyn Aberystwyth, ond roedd honno yn fuddugoliaeth gofiadwy ym mis Awst 2019 (Aber 1-10 YSN). 

Record cynghrair diweddar: 

Aberystwyth: ❌✅❌❌➖

Y Seintiau Newydd: ✅✅➖✅✅ 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio. 

Sgorio

Author Sgorio

More posts by Sgorio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?