RHAGOLWG GEMAU CANOL WYTHNOS CYMRU PREMIER JD 2023/24
Hanner ffordd drwy’r tymor yn y Cymru Premier JD ac mae’n gaddo i fod yn ras gyffrous i gyrraedd y Chwech Uchaf eleni, ac yn frwydr ffyrnig i osgoi’r cwymp.
Mae’n sefyllfa gyfarwydd ar y copa gyda’r Seintiau Newydd naw pwynt yn glir, ond gyda chwe gêm i fynd tan yr hollt, dim ond pum pwynt sy’n gwahanu’r pum clwb rhwng y 4ydd a’r 8fed safle.
Ac ar waelod y tabl, pedwar pwynt yn unig sy’n gwahanu’r pedwar isaf, sef Y Barri, Bae Colwyn, Pontypridd ac Aberystwyth.
Nos Fawrth, 28 Tachwedd
Hwlffordd (8fed) v Met Caerdydd (4ydd) | Nos Fawrth – 19:45
Mae Hwlffordd yn gwrthod rhoi’r ffidil yn y to yn y ras i gyrraedd y Chwech Uchaf, ac ar ôl buddugoliaeth gampus oddi cartref yn erbyn Cei Connah dyw’r Adar Gleision bellach ond driphwynt y tu ôl i Gaernarfon yn y 6ed safle.
Dyw Hwlffordd ond wedi colli un o’u saith gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth (ennill 5, cyfartal 1) gan lwyddo i ennill oddi cartref yng Nghei Connah am y tro cyntaf ers 20 mlynedd.
Llwyddodd Met Caerdydd hefyd i guro Cei Connah yn eu gêm gynghrair ddiwethaf, ac mae’r myfyrwyr wedi ennill chwech o’u saith gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth.
Ar gyfartaledd, mae 31 pwynt wedi bod yn ddigon i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf, a gyda saith gêm i fynd tan yr hollt byddai dwy fuddugoliaeth arall yn golygu bod tîm Ryan Jenkins yn cyrraedd y targed hwnnw.
1-1 oedd hi’n y gêm gyfatebol yng Nghampws Cyncoed ym mis Medi gyda Lewis Rees yn unioni’r sgôr i Met Caerdydd wedi 88 munud, cyn methu cyfle i ennill y gêm yn yr eiliadauolaf wrth i Ifan Knott arbed ei gic o’r smotyn wedi 92 munud.
Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ✅✅➖❌✅
Met Caerdydd: ✅✅❌✅✅
Y Bala (5ed) v Caernarfon (6ed) | Nos Fawrth – 19:45
Chwe gêm i fynd tan yr hollt a dim ond un pwynt sy’n gwahanu’r Bala a Chaernarfon yn y frwydr i gyrraedd y Chwech Uchaf.
Mae hon felly yn gêm allweddol i’r ddau glwb wrth i’r Bala geisio hawlio eu lle yn y Chwech Uchaf am y 10fed tymor yn olynol, tra bod Caernarfon yn anelu i ddychwelyd i’r hanner uchaf ar ôl gorffen yn 9fed y tymor diwethaf.
Y Seintiau Newydd (11) yw’r unig glwb i ildio llai o’r goliau na’r Bala (13) y tymor hwn, tra bod record amddiffynnol Caernarfon (33) ymysg y gwaethaf yn y gynghrair.
Ond mae’n stori wahanol ben arall y cae gan fod Caernarfon (32) wedi sgorio mwy na dwbl nifer y goliau y mae’r Bala (14) wedi ei sgorio mewn 16 gêm gynghrair yr un.
Mae’r Caneris unai wedi sgorio o leiaf tair gôl neu ildio o leiaf tair gôl mewn 12 o’u 13 gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth (ennill 5, colli 8).
Dyw’r Bala heb golli dim un o’u wyth gêm ddiwethaf yn erbyn Caernarfon (ennill 6, cyfartal 2), ac fe orffennodd hi’n 1-1 rhwng y timau yn y gêm gyfatebol ar yr Oval ym mis Awst.
Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ✅➖❌✅➖
Caernarfon: ❌❌❌✅✅
Y Barri (9fed) v Pen-y-bont (7fed) | Nos Fawrth – 19:45
Hanner ffordd at yr hollt ac o bosib y sioc mwyaf eleni yw bod Pen-y-bont yn eistedd yn yr hanner isaf, ac hynny ar ôl cyrraedd Ewrop am y tro cyntaf erioed y tymor diwethaf.
Ond bydd dim panig eto gan mae dim ond dau bwynt sydd rhwng Pen-y-bont a’r Bala (6ed), tra bod Y Barri’n beryglus o agos i’r gwaelodion gyda dim ond dau bwynt rhyngddyn nhw a Phontypridd (11eg).
Mae’r Barri wedi gweld gwellhad yn eu canlyniadau diweddar, wrth i’r Dreigiau ennill pump o’u saith gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth.
Dyw Pen-y-bont ar y llaw arall ond wedi ennill un o’u saith gêm gynghrair ddiwethaf, gan golli pump o rheiny, yn cynnwys eu colled yn erbyn Bae Colwyn brynhawn Sadwrn (Bae 2-1 Pen).
Dim ond unwaith yn eu 12 gêm gynghrair ddiwethaf y mae tîm Rhys Griffiths wedi llwyddo i gadw llechen lân, a daeth honno yn eu buddugoliaeth o 1-0 gartref yn erbyn Y Barri ym mis Medi, gyda Chris Venables yn sgorio unig gôl y gêm.
Ac mae Pen-y-bont ar rediad o saith gêm heb golli yn erbyn Y Barri (ennill 5, cyfartal 2), gan lwyddo i gadw llechen lân mewn chwech allan o’r saith gêm.
Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ✅❌✅❌✅
Pen-y-bont: ❌➖✅❌❌
Y Drenewydd (3ydd) v Pontypridd (11eg) | Nos Fawrth – 19:45
Mae yna sefyllfa bryderus yn datblygu ym Mhontypridd gyda’r clwb wedi eu cyhuddo o dorri rheolau’r gynghrair ynglŷn â chytundebau, taliadau a chwarae chwaraewyr anghymwys.
Mae Pontypridd eisoes wedi cael eu gwahardd o Gwpan Cymru JD, ac mae siawns y bydd cosbau pellach i ddilyn.
Tydi pethau ddim yn mynd llawer gwell ar y cae i Bontypridd chwaith gyda’r tîm wedi sicrhau dim ond un pwynt o’u pum gêm ddiwethaf, gan sgorio dim ond unwaith yn ystod y rhediad hwnnw.
Hanner ffordd drwy’r tymor a dim ond pum gôl mae Pontypridd wedi ei sgorio mewn 16 gêm gynghrair (0.3 gôl y gêm), felly mae her fawr o flaen y rheolwr Andrew Stokes os am geisio cadw’r clwb rhag cwympo.
O ran Y Drenewydd, tydyn nhw ond wedi ennill un o’u chwe gêm ddiwethaf, ond mae’r Robiniaid mewn safle cryf i sicrhau lle’n y Chwech Uchaf, gan y byddai pedwar pwynt o’u chwe gêm nesaf yn eu rhoi ar 31 pwynt, sef y nifer cyfartalog sydd wedi bod ei angen i gyrraedd yr hanner uchaf.
Bydd prif sgoriwr y gynghrair, Aaron Williams yn awyddus i ychwanegu at ei 12 gôl, wrth i’r Drenewydd geisio parhau â’u record 100% yn erbyn Pontypridd (chwarae 4: ennill 4).
Record cynghrair diweddar:
Y Drenewydd: ➖✅❌➖❌
Pontypridd: ❌➖❌❌❌
Aberystwyth (12fed) v Y Seintiau Newydd (1af) | Nos Fawrth – 20:00
Mae’r Seintiau Newydd yn mwynhau rhediad o 23 gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth, ac wedi ennill 15 yn olynol gan dorri naw pwynt yn glir ar frig y gynghrair gyda gêm wrth gefn.
Dyma gyfnod hiraf Y Seintiau Newydd heb golli ers Rhagfyr 2018 i Gorffennaf 2019 pan aethon nhw am 25 gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth, gyda FC Copenhagen yn dod a’r rhediad i ben yn y pen draw.
A dyma’r tro cyntaf i gewri Croesoswallt ennill 15 gêm yn olynol ers iddyn nhw dorri record y byd yn 2016 gyda 27 buddugoliaeth yn olynol.
Bydd hi’n her a hanner i Aberystwyth felly sydd ar waelod y tabl, ac sydd wedi ildio 17 o goliau yn eu dwy gêm flaenorol yn erbyn tîm Craig Harrison (YSN 6-0 Aber, YSN 11-0 Aber)
Ar ôl colli 3-2 gartref yn erbyn Y Bala yn eu gêm ddiwethaf, dyw Aberystwyth yn dal heb ennill dim un gêm gynghrair ar Goedlan y Parc y tymor hwn gan sicrhau dim ond un pwynt allan o 21 posib.
Record cynghrair diweddar:
Aberystwyth: ➖❌✅✅❌
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅
Nos Fercher, 29 Tachwedd
Bae Colwyn (10fed) v Cei Connah (2il) | Nos Fercher – 19:45
Mae Bae Colwyn wedi codi o’r ddau safle isaf ar ôl ennill tair gêm yn olynol am y tro cyntaf ers mis Mawrth.
Ar ôl treulio mis yn safleoedd y cwymp mae’r Gwylanod wedi trechu’r Drenewydd yng Nghwpan Cymru a churo Pontypridd a Pen-y-bont yn y gynghrair i godi o’r gwaelodion.
Bydd Cei Connah yn awyddus i ddod a’u rhediad siomedig i ben gan eu bod nhw wedi colli dwy gêm gynghrair yn olynol (mewn un tymor) am y tro cyntaf ers Medi 2021, a bydd y Nomadiaid yn benderfynol o beidio colli tair yn olynol am y tro cyntaf ers Hydref 2015.
Yr ail safle ydi targed realistig Cei Connah eto eleni, er mwyn sicrhau safle awtomatig yn Ewrop, ac mae’r Drenewydd (3ydd) wedi cau’r bwlch i bum pwynt rhyngddyn nhw a’r Nomadiaid.
Mae Cei Connah wedi ennill eu dwy gêm flaenorol yn erbyn Bae Colwyn, ond hon fydd eu taith gyntaf erioed i Ffordd Llanelian.
Record cynghrair diweddar:
Bae Colwyn: ͏✅✅❌❌❌
Cei Connah: ❌❌✅✅➖͏
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.