S4C

Navigation

Nos Fawrth bydd Caernarfon yn ceisio dod y tîm cyntaf i drechu’r Seintiau Newydd yn y gynghrair y tymor yma, tra bydd Aberystwyth yn gobeithio sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf yn erbyn Y Bala nos Fercher. 

 

 Nos Fawrth, 26 Medi 

 Caernarfon (4ydd) v Y Seintiau Newydd (1af) | Nos Fawrth – 19:45  

 

Y Seintiau Newydd sy’n arwain y ffordd yn y Cymru Premier JD, dau bwynt yn glir ar y copa ac heb golli gêm gynghrair eto. 

 

Mae’r pencampwyr wedi ennill eu dwy gêm gynghrair ddiwethaf o 5-1 ac hynny yn erbyn Met Caerdydd a Hwlffordd, felly dim syndod mae nhw yw prif sgorwyr y gynghrair eleni (26 gôl mewn wyth gêm). 

 

Gyda’r seren Declan McManus allan gydag anaf mae’r garfan wedi rhannu’r baich o flaen gôl, ac mae 12 chwaraewr gwahanol wedi sgorio i’r Seintiau’n barod yn y gynghrair y tymor yma. 

 

Bydd Caernarfon yn fwy na bodlon gyda’u safle presennol (4ydd) ar ôl curo Pontypridd diolch i gôl hwyr Phil Mooney ddydd Sadwrn, ei drydedd gôl y tymor yma. 

 

Ond dyw’r Caneris heb ennill dim un o’u 11 gêm ddiwethaf yn erbyn cewri Croesoswallt gyda’r Seintiau’n fuddugol yn y saith gêm flaenorol rhwng y timau. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Caernarfon: ✅❌✅❌➖͏͏͏ 

Y Seintiau Newydd: ✅✅➖✅✅ 

 

Cei Connah (2il) v Bae Colwyn (9fed) | Nos Fawrth – 19:45 

 

Cei Connah ydi’r tîm i’w curo ar hyn o bryd, gyda’r Nomadiaid ar rediad o bum buddugoliaeth yn olynol yn y gynghrair. 

 

Mae hogiau Neil Gibson wedi sgorio o leiaf tair gôl yn eu pum gêm ddiwethaf gyda’r drydedd brynhawn Sadwrn yn erbyn Hwlffordd yn un arbennig o’r cylch canol gan Ryan Stratulis (Hwl 1-3 Cei). 

 

Dyw Bae Colwyn ond un pwynt uwchben y ddau isaf yn dilyn eu colled o 4-2 gartef yn erbyn Y Drenewydd dros y penwythnos. 

 

Mae’r clybiau wedi cyfarfod ddwywaith yn ddiweddar yng Nghwpan Cymru gyda Bae Colwyn yn achosi sioc yn Chwefror 2022 (Cei 0-2 Bae), cyn i’r Nomadiaid dalu’r pwyth yn ôl yn Nachwedd 2022 (Cei 4-0 Bae). 

 

Record cynghrair diweddar:  

Cei Connah: ✅✅✅✅✅ 

Bae Colwyn: ❌✅✅❌❌ 

 

 Met Caerdydd (7fed) v Hwlffordd (11eg) | Nos Fawrth – 19:45 

 

Ar ôl derbyn crasfa gan Y Seintiau Newydd mae Met Caerdydd wedi disgyn i’r hanner isaf am y tro cyntaf y tymor yma, tra bod Hwlffordd wedi llithro i safleoedd y cwymp yn dilyn eu colled yn erbyn Cei Connah. 

 

Doedd Met Caerdydd ond wedi ildio dwy gôl yn eu chwe gêm agoriadol, ond mae’r record gadarn wedi ei chwalu yn eu dwy gêm gynghrair ddiwethaf gyda’r myfyrwyr yn colli 4-0 yn erbyn Cei Connah a 5-1 yn erbyn Y Seintiau Newydd. 

 

Mae Hwlffordd wedi colli tair gêm gynghrair yn olynol am y tro cyntaf ers mis Hydref 2022, ac ar ôl haf i’w chofio yn Ewrop, mae hi wedi bod yn ddechrau siomedig i’r tymor i’r Adar Gleision. 

 

Hwlffordd oedd yn fuddugol yn y gêm ddiwethaf rhwng y timau, yn ennill ar giciau o’r smotyn yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle dioch i gampau arwrol y golwr, Zac Jones. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Met Caerdydd: ❌❌✅❌➖ 

Hwlffordd: ❌❌❌✅➖ 

 

Pen-y-bont (3ydd) v Y Barri (10fed) | Nos Fawrth – 19:45 

 

Bydd hi’n noson gofiadwy i Chris Venables nos Fawrth pan fydd yn torri record Wyn Thomas ac yn gwneud ei 537fed ymddangosiad yn y gynghrair. 

 

Tra’n cynrychioli Caersws, Llanelli, Aberystwyth, Y Bala a Phen-y-bont, mae Venables wedi chwarae 536 o gemau yn Uwch Gynghrair Cymru, gan sgorio 221 o goliau, ac felly yn 4ydd ar restr prif sgorwyr holl hanes y gynghrair. 

 

O’r diwedd fe gafodd Steve Jenkins reswm i ddathlu ddydd Sadwrn diwethaf wrth i’r Barri guro’r Bala i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf ers penodiad y rheolwr newydd (Barr 3-1 Bala). 

 

Ond dyw’r Barri heb sgorio yn eu tair gêm flaenorol yn erbyn Pen-y-bont, a dyw tîm Rhys Griffiths heb golli mewn chwe gêm yn erbyn bechgyn Parc Jenner (ennill 4, cyfartal 2). 

 

Record cynghrair diweddar:  

Pen-y-bont: ✅✅❌❌➖ 

Y Barri: ✅❌❌❌➖ 

 

Pontypridd (8fed) v Y Drenewydd (5ed) | Nos Fawrth – 19:45 

Does neb wedi sgorio llai o goliau na Pontypridd y tymor hwn (2), ond mae amddiffyn tîm Andrew Stokes wedi bod yn gryf, a does neb wedi ildio llai chwaith (4). 

 

Mae hynny’n golygu bod llai na un gôl y gêm wedi cael ei sgorio ar gyfartaledd yn gemau Pontypridd y tymor yma (0.75 gôl y gêm). 

 

Enillodd Y Drenewydd 4-2 oddi cartref ym Mae Colwyn ddydd Sadwrn, ac mae’r Robiniaid wedi sgorio pedair gôl ym mhob un o’u tair gêm flaenorol yn erbyn Pontypridd, gan ennill y dair gêm rheiny. 

 

Dyw’r Drenewydd felly erioed wedi colli’n erbyn Pontypridd, ac ar ôl codi i’r hanner uchaf am y tro cyntaf y tymor yma bydd tîm Chris Hughes yn anelu i ennill pum gêm yn olynol yn y gynghrair am y tro cyntaf ers mis Rhagfyr. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Pontypridd: ❌➖❌✅✅➖ 

Y Drenewydd: ✅✅✅✅❌ 

 

 Nos Fercher, 27 Medi 

 

Y Bala (6ed) v Aberystwyth (12fed) | Nos Fercher – 19:45   

 

Mae rhediad di-guro’r Bala wedi dod i ben gan i garfan Colin Caton golli 3-1 yn Y Barri ddydd Sadwrn. 

 

Mae’r Bala bellach ar rediad o bum gêm heb ennill ym mhob cystadleuaeth, ac ond wedi sgorio unwaith yn ystod y cyfnod hwnnw. 

 

Pontypridd (2) ac Aberystwyth (4) yw’r unig dimau i sgorio llai na’r Bala (6) wedi’r wyth gêm agoriadol, gyda’r clwb yn gweld colled chwaraewyr ymosodol fel Chris Venables, Lassana Mendes a David Edwards adawodd Maes Tegid dros yr haf. 

 

Er hynny, Pontypridd (4) yw’r unig dîm i ildio llai na’r Bala (5) hyd yma, felly mae’r amddiffyn wedi bod yn gryf ar y cyfan. 

 

Mae Aberystwyth ar eu rhediad gwaethaf yn y gynghrair ers Rhagfyr 2020 gyda’r Gwyrdd a’r Duon heb ennill dim un o’u wyth gêm gynghrair hyd yn hyn. 

 

Aberystwyth a’r Drenewydd yw’r unig ddau glwb sydd wedi bod yn holl bresennol ers ffurfio’r gynghrair yn 1992, ond mae’n mynd i fod yn her i Anthony Williams lywio’r Gwyrdd a’r Duon o yml y dibyn unwaith yn rhagor eleni gyda’r tîm eisoes bum pwynt o dan diogelwch y 10fed safle. 

 

Tachwedd 2018 oedd y tro diwethaf i Aberystwyth guro’r Bala, ac mae Hogiau’r Llyn wedi ennill wyth o’u naw gêm yn erbyn criw Ceredigion ers hynny. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Y Bala: ❌➖➖✅➖ 

Aberystwyth: ❌❌❌❌❌ 

 

 Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?