Ymhen pythefnos bydd y gynghrair yn cael ei hollti’n ddwy ac am weddill y tymor bydd clybiau’r Chwech Uchaf yn cystadlu am le’n Ewrop, tra bydd timau’r Chwech Isaf yn brwydro i osgoi’r cwymp.
Mae’r Seintiau Newydd a Chei Connah eisoes wedi sicrhau eu lle yn yr hanner uchaf, ac fe all Y Drenewydd, Met Caerdydd a’r Bala ymuno â nhw os aiff canlyniadau o’u plaid ar benwythnos ola’r flwyddyn.
Wedi hynny, mae’n eithriadol o dynn gyda gwahaniaeth goliau’n unig (un gôl!) yn gwahanu Caernarfon a Hwlffordd yn y 6ed a’r 7fed safle.
Dyw Pen-y-bont yn sicr ddim allan ohoni chwaith gan eu bod hwythau ond dau bwynt y tu ôl i’r Cofis gyda dwy gêm i fynd tan yr hollt.
Dydd Sadwrn, 30 Rhagfyr
Aberystwyth (11eg) v Hwlffordd (7fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae Hwlffordd yn hedfan ac yn anelu i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers i’r gynghrair gael ei chwtogi i 12 tîm.
Dyw’r Adar Gleision heb orffen yn uwch na’r 7fed safle ers tymor 2004/05 pan lwyddon nhw i gyrraedd y 4ydd safle gyda dim ond Y Seintiau Newydd, Y Rhyl a Bangor yn gorffen uwch eu pennau y flwyddyn honno.
Ond ar ôl colli dim ond un o’u saith gêm gynghrair ddiwethaf (0-1 vs YSN) mae gan dîm Tony Pennock gyfle gwirioneddol i’w gwneud hi eleni gyda dim ond un gôl yn eu gwahanu nhw a Chaernarfon sy’n hafal ar 27 o bwyntiau.
Does neb wedi ennill llai o gemau cynghrair nac Aberystwyth y tymor hwn (tair allan o 19) ac mae’r Gwyrdd a’r Duon mewn perygl o syrthio o’r gynghrair am y tro cyntaf yn eu hanes.
Mae Aberystwyth clwb wedi colli chwe gêm yn olynol ym mhob cystadleuaeth am yr eildro y tymor hwn, ond dyw’r clwb o Geredigion heb golli saith yn olynol ers pum mlynedd.
Bydd Hwlffordd yn ffyddiog felly am eu bod ar rediad o bedair gêm heb golli yn erbyn Aberystwyth (ennill 3, cyfartal 1), a bydd Tony Pennock yn mynnu dim llai na thriphwynt gan ei garfan er mwyn aros yn y ras am y Chwech Uchaf.
Gemau nesaf cyn yr hollt:
Aberystwyth: Bae (c), Barr (c)
Hwlffordd: Bala (c)
Record cynghrair diweddar:
Aberystwyth: ❌❌❌❌❌
Hwlffordd: ✅❌✅➖✅
Y Bala (5ed) v Y Drenewydd (3ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30
Gyda 33 o bwyntiau a gêm wrth gefn, mae’r Drenewydd yn weddol saff o’u lle yn y Chwech Uchaf, ond byddai pwynt ddydd Sadwrn yn cadarnhau hynny.
Dim ond unwaith yn y pum mlynedd diwethaf y mae’r Drenewydd wedi methu a chyrraedd y Chwech Uchaf, ac hyd yn oed bryd hynny fe lwyddon nhw i orffen yn 7fed ac ennill y gemau ail gyfle i Ewrop yn 2020/21.
Mae’r Bala wedi taro’r targed o 31 o bwyntiau, sef y nifer arferol sydd ei angen i gyrraedd y Chwech Uchaf, ond byddai un buddugoliaeth arall iddyn nhw yn sicrhau eu lle ymysg y goreuon am y 10fed tymor yn olynol.
Dyw’r Bala ond wedi colli un o’u chwe gêm gartref ddiwethaf (vs Met), tra bo’r Drenewydd ond wedi colli un o’u saith gêm ddiwethaf oddi cartref (honno hefyd vs Met Caerdydd).
Mae’r Drenewydd wedi ennill eu pedair gornest ddiwethaf yn erbyn Y Bala yn cynnwys eu buddugoliaeth o 1-0 yn gynharach y tymor hwn diolch i gôl cydradd brif sgoriwr y gynghrair, Aaron Williams (15 gôl).
Gemau nesaf cyn yr hollt:
Y Bala: Hwl (oc)
Y Drenewydd: Barr (oc), YSN (oc)
Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ✅❌✅➖✅
Y Drenewydd: ❌✅✅➖✅
Y Barri (9fed) v Met Caerdydd (4ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30
Un fuddugoliaeth arall sydd ei angen ar Met Caerdydd i hawlio lle yn y Chwech Uchaf am yr ail dymor yn olynol, ond ar ôl colled siomedig yn erbyn Pen-y-bont ar ddydd San Steffan bydd angen gwell perfformiad gan y myfyrwyr os am groesi’r linell ddydd Sadwrn.
Mae’r Barri allan o’r ras ar ôl colli’n erbyn Hwlffordd am y drydedd gêm yn olynol gan fethu a sgorio ym mhob un o’r gemau rheiny.
Pum pwynt sy’n gwahanu’r Barri ac Aberystwyth yn safleoedd y cwymp, felly bydd angen i’r Dreigiau sgorio am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr os am agor bwlch rhyngddyn nhw a’r ddau isaf.
Mae Met Caerdydd wedi ennill pump o’u saith gêm ddiwethaf yn erbyn Y Barri (cyfartal 1, colli 1) yn cynnwys eu buddugoliaeth o 2-1 yn y gêm gyfatebol ym mis Hydref.
Gemau nesaf cyn yr hollt:
Y Barri: Dre (c), Aber (oc)
Met Caerdydd: YSN (oc), Cfon (oc)
Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ❌❌➖✅❌
Met Caerdydd: ❌✅✅➖✅
Dydd Sul, 31 Rhagfyr
Caernarfon (6ed) v Bae Colwyn (10fed) | Dydd Sul – 12:30 (S4C)
Roedd hi’n brynhawn cofiadwy i Gaernarfon yn y gêm gyfatebol ar benwythnos agoriadol y tymor, yn chwalu Bae Colwyn o 4-0 ar Ffordd Llanelian o flaen torf dda o 1,411.
Roedd y fuddugoliaeth honno’n hwb i’r Cofis aeth ymlaen i guro’r Drenewydd cyn cael gemau cyfartal yn erbyn Hwlffordd a’r Bala ym mis Awst.
Ac er treulio’r tymor cyfan hyd yma yn y Chwech Uchaf, mae’r Caneris bellach mewn perygl o golli eu lle cyn y toriad gan fod tîm Richard Davies ond wedi ennill un o’u saith gêm ddiwethaf (cyfartal 1, colli 5).
Mae Bae Colwyn mewn brwydr wahanol ar waelod y gynghrair gyda dim ond triphwynt yn eu gwahanu nhw ac Aberystwyth yn safleoedd y cwymp.
Does neb wedi ildio mwy o goliau na’r Gwylanod, tra bo Caernarfon yn y tri uchaf o ran sgorio goliau gyda dim ond Y Seintiau Newydd a Chei Connah wedi rhwydo mwy na’r Cofis cyn belled.
Gemau nesaf cyn yr hollt:
Caernarfon: Met (oc)
Bae Colwyn: Aber (oc), Pont (c)
Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ❌❌✅➖❌
Bae Colwyn: ❌❌❌✅✅
Cei Connah (2il) v Y Seintiau Newydd (1af) | Dydd Sul – 14:30
Mae’r Seintiau Newydd yn mwynhau rhediad o 28 gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth, ac wedi ennill 20 yn olynol gan dorri naw pwynt yn glir o Gei Connah ar frig y gynghrair gyda gêm wrth gefn.
Dyma rediad gorau’r clwb o Groesoswallt ers Awst 2016 i Chwefror 2017 (31 gêm heb golli), ac yn ystod y cyfnod hwnnw fe dorron nhw record y byd gyda 27 buddugoliaeth yn olynol.
Gadawodd Cei Connah a’r Seintiau Newydd hi’n hwyr cyn curo’r Drenewydd a Chaernarfon ar ddydd San Steffan gyda’r ddau glwb angen goliau yn y 10 munud olaf i sicrhau’r triphwynt.
Sgoriodd Jordan Davies unwaith eto i’r Nomadiaid i ddod yn hafal ag Aaron Williams ar frig rhestr prif sgorwyr y gynghrair (15 gôl).
Roedd hi’n dipyn o gêm rhwng y ddau glwb ar benwythnos agoriadol y tymor gyda Chei Connah yn mynd ar y blaen ddwywaith cyn i’r Seintiau ennill 6-2 yn y pen draw, a dyw hogiau Craig Harrison heb golli mewn chwe gêm yn erbyn y Nomadiaid (ennill 4, cyfartal 2).
Byddai buddugoliaeth i fechgyn Neil Gibson yn rhoi llygedyn o obaith i’r Nomadiaid yn y ras am y bencampwriaeth, ond pe bae’r Seintiau’n curo yna mae’n bosib y bydd bwlch sylweddol rhwng y ddau dîm cyn dechrau ail ran y tymor.
Gemau nesaf cyn yr hollt:
Cei Connah: Pen (oc)
Y Seintiau Newydd: Met (c), Dre (c)
Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ✅✅✅✅❌
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅
Pen-y-bont (8fed) v Pontypridd (12fed) | Dydd Sul – 14:30
Mae Pen-y-bont wedi crafu eu ffordd yn ôl i’r ras am y Chwech Uchaf ar ôl buddugoliaeth annisgwyl yn erbyn Met Caerdydd ar ddydd San Steffan (Met 0-3 Pen).
Dau bwynt sy’n gwahanu tîm Rhys Griffiths a Chaernarfon (6ed) erbyn hyn ac felly byddai triphwynt brynhawn Sul yn erbyn y clwb isa’n y tabl yn mynd a hi i’r penwythnos olaf.
Bydd Pontypridd hefyd yn teimlo’n hyderus ar ôl sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf ers mis Hydref drwy guro Aberystwyth o 2-0 ar ddydd San Steffan.
Felly er derbyn chwe phwynt o gosb am dorri rheolau’r gynghrair, dyw Pontypridd bellach ond bedwar pwynt o dan Bae Colwyn a diogelwch y 10fed safle.
Di-sgôr oedd hi’n y gêm gyfatebol rhwng y timau ym mis Awst, ond dyw Pontypridd erioed wedi curo Pen-y-bont yn y gorffennol (cyfartal 2, colli 4).
Gemau nesaf cyn yr hollt:
Pen-y-bont: Cei (c)
Pontypridd: Bae (oc)
Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ✅❌❌➖❌
Pontypridd: ✅❌❌❌❌
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.