Mae’r Seintiau Newydd, Cei Connah a Pen-y-bont wedi sicrhau eu lle yn y Chwech Uchaf, a gyda dim ond dwy o rownd o gemau ar ôl tan yr hollt mae yna bum clwb yn cystadlu am y tri safle olaf ymysg yr elît.
Byddai dau bwynt o’w dwy gêm nesaf yn ddigon i Gaernarfon (4ydd) a Bae Colwyn (5ed) hawlio eu lle yn yr hanner uchaf, tra bod dipyn o waith i’w wneud gan Y Barri (6ed), Met Caerdydd (7fed) a Hwlffordd (8fed).
Ac mi fydd Met Caerdydd a Hwlffordd yn cyfarfod mewn gêm dyngedfennol nos Fawrth, cyn i’r Barri deithio i Lansawel ddydd Mercher.
Nos Fawrth, 30 Rhagfyr
Met Caerdydd (7fed) v Hwlffordd (8fed) | Nos Fawrth – 19:45
Roedd hi’n golled gostus i Met Caerdydd yn erbyn Y Barri ar ddydd San Steffan wrth i’r myfyrwyr lithro o’r hanner uchaf gyda dim ond dwy gêm i fynd tan yr hollt.
Ar ôl y gorfoledd o guro’r Seintiau Newydd yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru, dyw Met Caerdydd m’ond wedi ennill un o’u pum gêm ers hynny, a’r fuddugoliaeth honno’n dod yn hwyr yn erbyn 10-dyn Llanelli.
Mae Met Caerdydd wedi cyrraedd y Chwech Uchaf ym mhob un o’r tri tymor diwethaf, ac felly fe fyddai’n dipyn o siom i Ryan Jenkins pe bae ei garfan yn methu’r nod eleni.
Gemau tan yr hollt:
Met Caerdydd: HWL (c), PEN (oc)
Hwlffordd: MET (oc), LLS (c)
Yn fathemategol, dyw’r freuddwyd o gyrraedd y Chwech Uchaf ddim drosodd i Hwlffordd, ond byddai’n rhaid i’r Adar Gleision ennill eu dwy gêm nesaf a chael ambell ffafr gan glybiau eraill os am godi uwchben Met Caerdydd a’r Barri.
Dyw Hwlffordd heb golli yn eu saith gêm gynghrair ddiwethaf yn erbyn Met Caerdydd (ennill 2, cyfartal 5), a byddai buddugoliaeth i dîm Tony Pennock yn eu gadael yn hafal ar bwyntiau gyda Met Caerdydd cyn gêm olaf rhan gynta’r tymor.
Byddai buddugoliaeth i Hwlffordd nos Fawrth hefyd yn golygu bod Caernarfon a Bae Colwyn yn ddiogel yn y Chwech Uchaf ar gyfer ail ran y tymor.
Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ͏✅➖✅➖❌
Hwlffordd: ✅❌✅➖✅
Dydd Mercher, 31 Rhagfyr
Llansawel (10fed) v Y Barri (6ed) | Dydd Mercher – 12:30
Mae rhediad rhagorol Y Barri’n parhau, gyda’r Dreigiau heb golli mewn 12 gêm ym mhob cystadleuaeth gan ildio dim ond pedair gôl yn ystod y cyfnod hwnnw (naw llechen lân).
Mae tîm Steve Jenkins felly mewn safle addawol i sicrhau eu lle’n y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers tymor 2020/21, a byddai pum pwynt o’u tair gêm olaf yn ddigon i warantu hynny.
Gemau tan yr hollt:
Llansawel: BARR (c), HWL (oc) ͏
Y Barri: LLS (oc), CEI (oc), LLI (c)
Ar ôl ennill dim ond un o’u 11 gêm ddiwethaf (cyfartal 3, colli 7), mae Llansawel yn sicr o orffen yn yr hanner isaf am yr ail dymor o’r bron.
Ond fe wnaeth y Cochion guro’r Barri ar Barc Jenner ym mis Hydref diolch i foli felys Kian Jenkins (Barr 0-1 Lls).
Record cynghrair diweddar:
Llansawel: ͏➖❌➖❌➖
Y Barri: ✅➖✅➖✅
Y Bala (9fed) v Caernarfon (4ydd) | Dydd Mercher – 12:30
Mae’r Bala wedi llithro’n araf bach i lawr tua’r gwaelodion, a bellach dim ond dau bwynt sydd rhyngddyn nhw a’r Fflint (11eg) yn safleoedd y cwymp.
Dyw’r Bala heb chwarae ers bron i bedair wythnos, pan gollon nhw gartref o 2-0 yn y glaw trwm yn erbyn Hwlffordd, ac ar ôl ennill dim ond un o’u 11 gêm ddiwethaf (vs Llanelli) mae’n ymddangos mae yn y Chwech Isaf y bydd tîm Steve Fisher yn cystadlu yn ail ran y tymor.
Gemau tan yr hollt:
Y Bala: CFON (c), YSN (oc), FFL (oc)
Caernarfon: BALA (oc), CEI (c) ͏
Os na fydd Caernarfon yn ofalus, yna’r Chwech Isaf fydd eu tynged hwythau, gan i’r Cofis fethu ag ennill dim un o’u pum gêm gynghrair ddiwethaf.
Gyda Cei Connah i ddod nesaf i Gaernarfon, clwb sydd ar dân, bydd Richard Davies yn teimlo ei bod hi’n angenrheidiol i’r Caneris gael canlyniad cadarnhaol yn erbyn Y Bala os am osgoi diweddglo nerfus i ran gynta’r tymor.
Y cysur amlwg i Gaernarfon yw eu record diweddar da yn erbyn Y Bala, gan nad yw’r Cofis wedi colli yn eu naw gêm flaenorol yn erbyn Hogiau’r Llyn, gan ennill y bedair ornest ddiwethaf.
Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ✅❌❌➖❌
Caernarfon: ͏➖➖❌➖❌
Cei Connah (2il) v Y Seintiau Newydd (1af) | Dydd Mercher – 14:30
Yn dilyn rhediad ardderchog o chwe buddugoliaeth yn olynol yn y gynghrair, mae Cei Connah wedi codi i’r ail safle, saith pwynt y tu ôl i’r Seintiau Newydd.
Mae’r bwlch dal yn eithaf sylweddol rhwng y ddau dîm, ond byddai buddugoliaeth arall i’r Nomadiaid yn rhoi pwysau go iawn ar y pencampwyr.
Gemau tan yr hollt:
Cei Connah: YSN (c), BARR (c) CFON (oc) ͏
Y Seintiau Newydd: CEI (oc), BALA (c), BAE (c)
Mae Cei Connah wedi cipio 28 pwynt allan o’r 30 posib yn eu 10 gêm gynghrair ddiwethaf gyda Harry Franklin yn serennu i’r Nomadiaid, ac mae’r Gwyddel eisoes wedi cyfrannu at 20 o goliau cynghrair y tymor hwn (sgorio 11, creu 9).
Ymosodwr y Seintiau, Jordan Williams yw’r unig chwaraewr i gyfrannu at fwy o goliau’n y gynghrair y tymor hwn (sgorio 19, creu 4), ac os bydd Williams yn parhau i danio o flaen gôl, yna fe all fod y chwaraewr cyntaf i sgorio 30 o goliau cynghrair ers i Rhys Griffiths wneud hynny yn 2009/10.
Sgoriodd Harry Franklin i Gei Connah yn erbyn y Seintiau yn y fuddugoliaeth o 2-1 yn rownd derfynol Cwpan Cymru 2023/24, ond mae cewri Croesoswallt wedi ennill pum gêm yn olynol yn erbyn y Nomadiaid ers hynny.
Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ✅✅✅✅✅
Y Seintiau Newydd: ✅❌✅✅✅
Dydd Iau, 1 Ionawr
Bae Colwyn (5ed) v Y Fflint (11eg) | Dydd Iau – 12:30 (S4C)
Byddai buddugoliaeth i Fae Colwyn ar ddydd Calan yn ddigon i gadarnhau eu lle’n yr hanner uchaf ar gyfer ail ran y tymor.
Mae’r Gwylanod yn anelu i fod y clwb cyntaf i gyrraedd y Chwech Uchaf yn eu tymor cyntaf ar ôl sicrhau dyrchafiad ers i Gaernarfon wneud hynny yn 2018/19.
Gemau tan yr hollt:
Bae Colwyn: FFL (c), YSN (oc)
Y Fflint: BAE (oc), BALA (c)
Mae Bae Colwyn wedi ennill naw o’u 13 gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth, gan gamu i rownd wyth olaf Cwpan Cymru, ac felly mae’r freuddwyd o gyrraedd Ewrop yn fyw ar Ffordd Llanelian.
Mae’r Fflint hefyd ymysg yr wyth olaf yng Nghwpan Cymru, ond mae’r Sidanwyr yn stryffaglu’n y gynghrair eleni ac heb ennill mewn wyth gêm (cyfartal 4, colli 4).
Dyw’r Fflint m’ond wedi ennill unwaith oddi cartref yn y gynghrair y tymor yma, a daeth y fuddugoliaeth honno yn erbyn Llanelli ym mis Medi.
Record cynghrair diweddar:
Bae Colwyn: ͏✅❌✅❌✅
Y Fflint: ❌➖➖➖❌
Llanelli (12fed) v Pen-y-bont (3ydd) | Dydd Iau – 14:00
Dyw Llanelli m’ond wedi cipio un pwynt o’u 10 gêm gynghrair ddiwethaf, ac ar ôl sgorio dim ond 11 gôl mewn 20 gêm tydi pethau ddim yn argoeli’n dda i dîm Lee John.
Mae Llanelli’n sicr o orffen rhan gynta’r tymor ar waelod y tabl, ac ers ffurfio’r fformat presennol yn 2010, does dim un tîm erioed wedi llwyddo i ddringo allan o safleoedd y cwymp ar ôl dechrau ail ran y tymor ar waelod y gynghrair.
Gemau tan yr hollt:
Llanelli: PEN (c), BARR (oc)
Pen-y-bont: LLI (oc), MET (c) ͏
Er bod Pen-y-bont wedi methu ag ennill dim un o’u pedair gêm ddiwethaf, mae’r Gleision wedi sicrhau eu lle yn y Chwech Uchaf am yr ail dymor yn olynol.
Mae blaenwr Pen-y-bont, Chris Venables wedi derbyn cerdyn coch yn y saith munud agoriadol yn ei ddwy gêm ddiwethaf (vs Fflint a Llansawel), ac mae hynny’n amlwg wedi profi’n gostus i’r Gleision yn y gynghrair ac yng Nghwpan Cymru.
Tra bod un blaenwr yn rhwystredig, mae ‘na un arall sy’n disgleirio i dîm Rhys Griffiths, a James Crole yw hwnnw, gan i’r gŵr 21 oed sgorio 15 gôl yn ei 14 gêm ddiwethaf i Ben-y-bont.
Mae Pen-y-bont chwe phwynt o dan Cei Connah yn y ras am yr ail safle erbyn hyn, a cau’r bwlch fydd y nod i fechgyn Fryntirion am weddill y tymor i geisio cipio tocyn i Ewrop.
Record cynghrair diweddar:
Llanelli: ❌➖❌❌❌
Pen-y-bont: ͏ ❌✅❌➖➖
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.





