Bydd clybiau’r JD Cymru Premier yn wynebu eu gwrthwynebwyr Ewropeaidd dros yr wythnosau nesaf yng nghynghrair y pencampwyr a chystadleuaeth newydd Uefa, y Gyngres Europa.
Cei Connah v Alashkert – Rownd Ragbrofol Gyntaf Cynghrair y Pencampwyr
Cymal Cyntaf: Gorffennaf 7, 19.00 – Coedlan y Parc, Aberystwyth
Mae Pencampwyr Cymru, Cei Connah, yn cystadlu yng Nghygnhrair y Pencampwyr am yr ail dymor yn olynol. Dyma’r chweched tymor yn olynol i Andy Morrison arwain y Nomadiaid i Ewrop.
Collodd Cei Connah 0-2 yn erbyn FK Sarajevo yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr y tymor diwethaf yn Stadiwm Dinas Caerdydd dros un gymal.
Mi fydd y Nomadiaid yn gobeithio mynd un cam ymhellach y tro hwn a chyrraedd yr ail rownd ragbrofol am y tro cyntaf yn eu hanes.
Os dyw’r Nomadiaid ddim yn ennill eu rownd ragbrofol, bydd tîm Andy Morrison yn cael ail gyfle yn Ewrop gan gystadlu yn ail rownd ragbrofol Cyngres Europa.
Bydd rhaid i dîm Andy Morrison guro Alashkert i gyflawni’r gamp – Pencampwyr Armenia sy’n cystadlu yng Nghynghrair y Pencampwyr am y tro cyntaf ers tair blynedd.
Y tro diwethaf i Alashkert chwarae yng Nghynghrair y Pencampwyr oedd yn erbyn cewri’r Alban, Celtic, gyda’r tîm o Glasgow yn ennill 6-0 dros y ddau gymal.
Ers hynny mae Alashkert wedi cystadlu yng Nghyghrair Ewropa, gan gyrraedd yr ail rownd ragbrofol yn haf 2019.
Dywedodd Andy Morrison mewn cyfweliad diweddar ei fod wedi dewis Aberystwyth fel lleoliad y gêm er mwyn gwneud siwrne’r ymwelwyr mor anodd ag sy’n bosib.
Mae Cei Connah wedi bod yn brysur yn paratoi ar gyfer yr ymgyrch Ewropeaidd, gan ychwanegu Jamie Mullan i’r garfan o’r Seintiau Newydd. Mae ambell i gyn-chwaraewyr Cei Connah wedi dychwelyd i Lannau Dyfrdwy hefyd – Jordan Davies a Tom Bibby.
Ail gymal: Gorffennaf 14, 16.00 – Yerevan, Armenia.
Y Bala v Larne – Rownd Ragbrofol Gyntaf Cyngres Europa
Cymal Cyntaf: Gorffennaf 8, 19.00 – Neuadd y Parc, Croesoswallt
Ar ôl ennill rownd Ewropeaidd am y tro cyntaf erioed y tymor diwethaf yn erbyn Valletta o Malta, mi fydd Y Bala yn gobeithio creu atgofion melys unwaith eto’r tymor hwn.
Daeth Y Bala’n agos i achosi sioc y tymor diwethaf yn erbyn mawrion Gwlad Belg, Standard Liege yn ail rownd ragbrofol Cynghrair Ewropa.
Aeth Liege ar y blaen wedi 20 munud o’r gêm drwy gic o’r smotyn gan Felipe Avenatti. Munudau’n ddiweddarach, enillodd Y Bala gic o’r smotyn ond y capten Chris Venables yn methu’r cyfle. Gorffennodd y gêm yn 2-0 i’r tîm cartref.
Mae criw Colin Caton yn cystadlu yng Nghyngres Ewropa am y tro cyntaf y tymor hwn – cystadleuaeth newydd UEFA.
Yn eu herio yw Larne o Ogledd Iwerddon sy’n cystadlu yn Ewrop am y tro cyntaf ers ffurfio 132 o flynyddoedd yn ôl.
Dyw Larne ddim ond wedi bod yn ôl yn Uwch Gynghrair Gogledd Iwerddon ers dwy flynedd ar ôl ennill dyrchafiad yn 2019.
Mae Colin Caton wedi llwyddo i gryfhau carfan Y Bala ar gyfer y gêm hon, gan arwyddo cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru David Edwards o’r Amwythig. Hefyd yn ymuno: Paul Rutherford o Wrecsam, Calum Woods o SC East Bengal, Danny Walker-Rice o Tranmere a Brad Bauress o Gaer.
Ail gymal: Gorffennaf 15, 19.30 – Parc Inver, Larne.
Dundalk v Y Drenewydd – Rownd Ragbrofol Gyntaf Cyngres Europa
Cymal Cyntaf: Gorffennaf 8, 17.45 – Parc Oriel, Dundalk.
Ar ôl ennill gemau ail gyfle’r Cymru Premier JD y tymor diwethaf, mae’r Drenewydd wedi cyrraedd Ewrop am y tro cyntaf ers 2015.
Roedd hi’n brofiad arbennig i’r Robiniaid yng Nghynghrair Ewropa yn 2015 – curo Valletta o Malta 4-2 dros ddau gymal cyn mynd benben â chewri Denmarc, København (colli 5-1 dros ddau gymal).
Bydd hi’n her a hanner yn erbyn Dundalk o Iwerddon – clwb sydd wedi chwarae 84 o gemau Ewropeaidd ym mhob cystadleuaeth.
Llwyddodd Dundalk i gyrraedd rownd yr 16 olaf yng Nghynghrair y Pencampwyr 1980 – eu perfformiad gorau erioed yn Ewrop.
Fe gyrhaeddodd Dundalk safleoedd y grwpiau yng Nghynghrair Ewropa’r tymor diwethaf ond yn colli chwech gêm allan o chwech – yn erbyn Arsenal, Molde a Rapid Wien.
Mae’r Drenewydd wedi arwyddo’r cefnwr chwith Naim Arsan o Derwyddon Cefn a’r ymosodwr Aaron Williams o Telford. Mae Callum Roberts hefyd wedi arwyddo â’r clwb yn barhaol.
Ail gymal: Gorffennaf 13, 17.45 – Neuadd y Parc, Croesoswallt.
Glentoran v Y Seintiau Newydd – Rownd Ragbrofol Gyntaf Cyngres Europa
Cymal cyntaf: Gorffennaf 8, 18.45 – Yr Oval, Belfast.
Ar ôl methu allan ar dlws y Cymru Premier JD ar ddiwrnod olaf tymor diwethaf, mi fydd Y Seintiau’n cystadlu yng Nghyngres Ewropa am y tro cyntaf y tymor hwn.
Am yr ail dymor yn olynol, mae’r Seintiau wedi methu a chyrraedd Cynghrair y Pencampwyr.
Mae’r Seintiau Newydd yn cystadlu yn Ewrop am y 22ain tymor yn olynol – y tro diwethaf i’r cewri o Groesoswallt fethu a chyrraedd Ewrop oedd yn nhymor 1999-00!
Er i’r Seintiau guro Zilina yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Ewropa y tymor diwethaf, roedd hi’n ganlyniad siomedig yn yr ail rownd ragbrofol – colli ar giciau o’r smotyn yn erbyn B36.
Glentoran yw’r gwrthwynebwyr, tîm sydd â llawer o hanes yn Ewrop. Mae’r clwb o Ogledd Iwerddon wedi chwarae 100 o gemau Ewropeaidd ym mhob cystadleuaeth, gan guro clybiau enwog fel Arsenal a Basel dros y blynyddoedd.
Gorffenodd Glentoran yn 3ydd yn Uwch Gynghrair Gogledd Iwerddon y tymor diwethaf – un safle uwch ben gwrthwynebwyr Y Bala, Larne.
Mae Anthony Limbrick wedi ychwanegu tri chwaraewr newydd i’w dîm cyn y gemau Ewropeaidd – Danny Davies o Gei Connah, Jordan Williams o Stockport a Declan McManus o Dunfermline.
Bydd yr Awstraliad yn gobeithio y gallant serenu i’r Seintiau yn ei gêm gyntaf Ewropeaidd fel rheolwr nos Iau.
Ail gymal: Gorffennaf 15, 18.15 – Neuadd y Parc, Croesoswallt.