S4C

Navigation

Y Drenewydd (0) v Dundalk (4) | Gorffennaf 13, 17.45 – Neuadd y Parc, Croesoswallt

Cyngres Ewropa

 

Roedd hi’n ganlyniad siomedig i fechgyn Chris Hughes ar yr Ynys Werdd nos Iau, wrth i’r Robiniaid dderbyn crasfa o bedair gôl i ddim gan Dundalk.

Aeth Dundalk ar y blaen wedi 35 munud o’r chwarae, yr ymosodwr Michael Duffy yn rhoi’r Gwyddelod ar y blaen.

Roedd hi’n ddwy bum munud yn ddiweddarach – David McMillan yn dyblu mantais Dundalk cyn yr egwyl.

Wedi awr o’r gêm, aeth pethau o ddrwg i waeth i’r Drenewydd ar ôl i William Patching sgorio’r drydedd i’r tîm cartref.

Llwyddodd Han Jeong-Woo i rwbio halen ym mriwiau’r Drenewydd ar ôl 94 munud, rhwydodd y chwaraewr o Weriniaeth Korea yn hwyr yn y gêm i selio buddugoliaeth swmpus o bedair gôl i ddim i Dundalk.

Bydd angen perfformiad a hanner gan Y Drenewydd ar Neuadd y Parc heno os yw criw Chris Hughes am gamu ymlaen i ail rownd ragbrofol Cyngres Ewropa.

Yr unig dro i’r Drenewydd ennill oddi cartref yn Ewrop oedd yn haf 2015 – Matty Owen yn sgorio’n hwyr i drechu Valletta 1-2.

 

 

Alashkert (2) v Cei Connah (2) | Gorffennaf 14, 16.00 – Yerevan, Armenia

Cynghrair y Pencampwyr

 

Mae popeth yn y fantol rhwng Alashkert a Chei Connah yn dilyn gêm gyfartal yn y cymal cyntaf.

Roedd hi’n ddechrau perffaith i’r Nomadiaid – Craig Curran yn achub y blaen wedi ugain munud o’r gêm.

Ond o fewn dim, roedd Alashkert yn gyfartal – y chwaraewr o Rwsia, David Khurtsidze, yn chwalu mantais y Nomadiaid.

Mae Khurtsidze wedi cynrychioli timau ieuenctid Rwsia yn y gorffennol ac roedd hi’n hawdd gweld pam ar Goedlan y Parc y wythnos diwethaf – sgoriodd eto cyn yr egwyl i roi Pencampwyr Armenia ar y blaen.

Roedd hi’n edrych fel yr oedd hi’n mynd i fod yn noson rwystredig i Gei Connah yn Aberystwyth, ond llwyddodd y capten George Horan i unioni’r sgôr gyda deg munud yn weddill. Popeth i’w chwarae amdano yn Yerevan nos yfory felly i’r Nomadiaid.

Y gêm hon oedd y tro cyntaf i Gei Connah osgoi colled yng Nghynghrair y Pencampwyr.

Mae gan y Nomadiaid brofiad o achosi sioc oddi cartref yn Ewrop gan guro Stabaek yng Nghynghrair Ewropa (0-1, 2016) a Kilmarnock (0-2, 2019) – hefyd yng Nghynghrair Ewropa.

 

 

 

Y Seintiau Newydd (1) v Glentoran (1) | Gorffennaf 15, 18.15 – Neuadd y Parc, Croesoswallt

Cyngres Ewropa

 

Ar ôl bod ar y blaen am bron i 70 munud yng Ngogledd Iwerddon wythnos diwethaf, roedd hi’n dorrcalon i’r Seintiau Newydd yn hwyr yn y gêm.

Aeth cewri Croesoswallt ar y blaen wedi dim ond 13 munud – Leo Smith yn dynwared Leo Messi gan guro chwech o chwaraewyr Glentoran i sgorio ei drydedd gôl Ewropeaidd i’r clwb.

Doedd hi ddim i fod i’r Seintiau yn anffodus – Jamie McDonagh yn unioni’r sgôr gyda llai na deg munud yn weddill.

Mae’r ail gymal yn addo i fod yn achlysur a hanner rhwng y ddau dîm, ac mi fydd criw Anthony Limbrick yn gobeithio bydd y fantais o chwarae gartref yn gweithio o’u plaid nos Iau.

Fe enillodd Y Seintiau Newydd eu gêm Ewropeaidd gartref ddiwethaf yn ystod amser ychwanegol yng Nghynghrair Ewropa 2020/21 – goliau gan Louis Robles, Leo Smith ac Adrian Cieslewicz yn ddigon i drechu Zilina o Slofacia (3-1).

Larne (1) v Y Bala (0) | Gorffennaf 15, 19.30 – Parc Inver, Larne

Cyngres Ewropa

 

Yn dilyn canlyniad siomedig ar Neuadd y Parc wythnos ddiwethaf, mi fydd Y Bala’n gobeithio codi’r safon yn Larne nos Iau.

Fe gymrodd hi ddwy funud yn unig i Larne fynd ar y blaen – yr ymosodwr o Derry, David McDaid, yn codi’r bêl dros ben Alex Ramsay i gefn y rhwyd i sgorio gôl gyntaf Larne mewn gêm Ewropeaidd.

Er i’r Bala drio eu gorau, llwyddodd y clwb o Ogledd Iwerddon i ddal eu tir am weddill y gêm i ennill eu gêm Ewropeaidd gyntaf ers ffurfio 132 o flynyddoedd yn ôl.

Roedd hi’n gêm hanesyddol i Kieran Smith wrth iddo dorri record Y Bala am y nifer fwyaf o ymddangosiadau i’r clwb yn Ewrop (11 ymddangosiad).

Bydd rhaid i’r Bala efelychu eu perfformiad yn erbyn Valletta o Malta yng Nghynghrair Ewropa’r tymor diwethaf a churo Larne oddi cartref os yw criw Colin Caton am gamu i ail rownd ragbrofol Cyngres Ewropa.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Sgorio

Author Sgorio

More posts by Sgorio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?