Bydd Cymru yn paratoi ar gyfer gêm anferthol yn erbyn Latfia nos Lun wrth groesawu De Corea i Stadiwm Dinas Caerdydd nos Iau wrth i’r ddau dîm gwrdd am y tro cyntaf yn eu hanes.
Mae De Corea yn eistedd un 28fed yn rhestr detholion y byd FIFA, saith safle yn uwch na Cymru (35)
Carfan Cymru:
Cyhoeddodd Rob Page garfan o 25 chwaraewr, Ddydd Mercher 30 Awst, ar gyfer gêm gyfeillgar v De Corea a gêm ragbrofol Euro 2024 yn erbyn Latfia ym mis Medi.
Dim syndod mawr yn y garfan, ond diddorol nodi ei fod wedi cynnwys pedwar golgeidwad a bod Joe Morrell a Kieffer Moore i mewn er eu bod wedi eu gwahardd rhag chwarae yn erbyn Latfia. Morrell wedi ei wahardd rhag chwarae yn erbyn Croatia hefyd!
Absenoldebau o’r garfan ddiwethaf – Dan James, Ollie Cooper, Luke Harris a Joe Low. Dan James allan oherwydd anaf. Dyma’r camp cyntaf i James fethu gyda’i wlad ers iddo ennill ei gap cyntaf nôl yn Nhachwedd 2018 (colli 1-0 v Albania).
Amheuon anafiadau – Wayne Hennessey (dal i wella ar ôl llawdriniaeth i’r ben-glin) Brennan Johnson (sôn ei fod wedi dioddef ag anaf i linyn y gar). Bu rhaid i Tom Lockyer dynnu allan o’r garfan gydag anaf i’w glun fore dydd Llun.
Carfan De Corea:
Cyhoeddodd Cymdeithas Bêl-droed Corea (KFA) ar ddydd Llun Awst 28ain y rhestr o 25 o enwau i wynebu Cymru a Saudi Arabia ym mis Medi o dan y prif hyfforddwr Jurgen Klinsmann.
Mae gan y garfan lond llaw o brif chwaraewyr amlwg, gan gynnwys capten Tottenham Hotspur Son Heung-min, amddiffynnwr Bayern Munich Kim Min-jae a chwaraewr canol cae Mainz 05 Lee Jaesung.
Rhediadau diweddar:
Dim ond un buddugoliaeth sydd gan Cymru yn eu deg gêm diwethaf. Daeth y fuddugoliaeth yna gartref yn erbyn Latfia ym mis Mawrth.
Mae De Corea wedi ennill tair o’u deg gêm diwethaf ond ar rediad eithaf gwael ar hyn o bryd ers y fuddugoliaeth nodedig 2-1 v Portiwgal yng Nghwpan y Byd – 5 gêm heb ennill. Ond, record gwell na Chymru!
Nid y dechreuad perffaith i Jürgen Klinsmann, fel rheolwr newydd De Corea, ond yn dal yn ei gyfnod arbrofi gyda’r tîm. 4 gêm, 2 gêm gyfartal a dwy golled.
Y Tîm:
Bydd disgwyl i Rob Page wneud nifer o newidiadau gyda cyfle da i arbrofi gyda chwaraewyr fel Josh Sheehan sydd wedi bod yn chwarae yn dda i’w glwb, Bolton.
Page yn siarad gyda Sioned Dafydd prynhawn Mercher – “There will be changes already planned for half time, the hour mark, for 80 minutes, because of the game on Monday which is the all-important one for us.”
Efallai bydd cyfle i serennu i ambell chwaraewr sydd heb ennill capiau hyd yma sef Tom King, Morgan Fox a Liam Cullen.