Ar ôl sicrhau pedwar pwynt o’r ddwy gêm gyntaf yng ngrwp D, bydd Cymru yn gobeithio parhau’r cychwyn da wrth groesawu Armenia i Stadiwm Dinas Caerdydd nos Wener.
Nathan Broadhead oedd yr arwr yn y gêm agoriadol yn erbyn Croatia, gyda’i gôl hwyr yn sichrau pwynt gwerthfawr i’r tîm ar ei ymddangosiad cyntaf dros ei wlad.
Dyn fwy cyfarwydd a ennillodd y gêm i Gymru y tro diwethaf yn erbyn Latfia wrth i’r cawr Kieffer Moore benio i gefn y rhwyd o groesiad Dan James i selio’r triphwynt. Byddai gôl arall i Kieffer Moore nos Wener yn ei roi yn gyfartal â Sam Vokes ar restr sgorwyr Cymru (11 gôl).
Gyda’r canlyniadau yma, mae Cymru yn yr ail safle yn y grwp yn gyfartal â Croatia ar bedwar pwynt. Byddai gêm gyfartal felly yn codi Cymru i frîg y tabl gyda Croatia ddim yn chwarae eto tan mis Medi oherwydd eu bod yn cystadlu yn rownd derfynol Cynghrair y Cenhedloedd ddydd Sul.
Armenia yw’r gwrthwynebwyr y tro hwn a fydd yn chwarae heb prif sgoriwr eu gwlad Henrikh Mkhitaryan ar ôl iddo gyhoeddi ei ymddeoliad o bêl-droed rhyngwladol yn 2022.
Dim ond un gêm mae Armenia wedi chwarae yn y grwp hyd yma, gan golli o ddwy gôl i un gartref yn erbyn Twrci. Mae hyn yn golygu eu bod yn eistedd yn y pedwerydd safle yn y tabl.
Y GARFAN
David Brooks yn ôl yn y garfan am y tro cyntaf mewn dwy flynedd ers cael diagnosis o Hodgkin Lymphoma Cam II ym mis Hydref 2021. Dychwelodd Brooks i chwarae i Bournemouth ym mis Mawrth 2023 gan wneud chwech ymddangosiad yn Uwch Gynghrair Lloegr.
Wayne Hennessey, Ben Davies a Brennan Johnson hefyd yn dychwelyd i’r garfan ar ôl colli gemau agoriadol yr ymgyrch drwy anafiadau.
Absenoldebau o’r garfan ddiwethaf – Tom King, Tom Lockyer, Wes Burns, Sorba Thomas a Mark Harris. Lockyer am resymau amlwg wrth iddo barhau i wella yn dilyn cyfnod yn yr ysbyty ar ôl cwympo i’r llawr yn rownd derfynol gemau ail gyfle’r bencampwriaeth.
Morgan Fox, Joe Low, Luke Harris a Liam Cullen yw’r pedwar chwaraewr heb gapiau yn y garfan. Yn absenoldeb Tom Lockyer, dyma’r tro cyntaf i Joe Low gael ei alw i’r tîm llawn ar ôl creu argraff yn y ‘camp ymarfer’ fis diwethaf.
Tom King yn cael ei alw fel gôl-geidwad wrth gefn ar Ddydd Sadwrn 10fed Mehefin.
Cymru v Armenia yn fyw ar S4C ac arlein nos Wener am 19:20 gyda’r gic gyntaf am 19:45