Bydd camerâu Sgorio yn teithio i Ddôl y Bont nos Sadwrn wrth i’r newydd ddyfodiaid Hwlffordd groesawu’r Drenewydd. Bydd Aberystwyth yn wynebu’r Fflint nos Wener gyda’r Barri yn croesawu Caernarfon i Barc Jenner prynhawn Sadwrn. Uchafbwyntiau Cymru Premier ddydd Llun am 5.25, S4C.
Aberystwyth v Y Fflint | Gwener – 7.45
Canlyniad siomedig i Aberystwyth ar Goedlan y Parc ar ddiwrnod agoriadol y tymor gan golli 2-3 i Met Caerdydd ar ôl bod ar y blaen 2-1.
Fe lwyddodd tîm Gavin Allen i bigo pwynt yn eu gêm ganol wythnos oddi cartref ym Mhen-y-bont wrth i Louis Bradford sgorio ei gôl gyntaf i’r clwb mewn gêm gyfartal 1-1.
Daeth y newyddion fod y golwr profiadol, Connor Roberts yn dychwelyd i Aberystwyth ar fenthyg o’r Seintiau Newydd tan Ionawr.
Fe lwyddodd Y Fflint i ennill eu gêm gyntaf yn ôl yn yr uwch gynghrair ddydd Sadwrn diwethaf, Nathan Craig yn rhwydo cic-rydd mewn buddugoliaeth 1-0 dros Y Drenewydd.
Dyw’r clybiau heb gwrdd yn y gynghrair ar Goedlan y Parc ers 1997, buddugoliaeth i’r tîm cartref gyda Gavin Allen yn sgorio i Aberystwyth.
Y Barri v Caernarfon | Sadwrn – 2.30
Canlyniad siomedig i’r Barri ar ddiwrnod agoriadol y tymor, gyda’r Seintiau Newydd yn ennill 0-3 ar Barc Jenner.
Bydd Gavin Chesterfield yn gobeithio am well dydd Sadwrn, yn enwedig os yw’r clwb yn gobeithio brwydro am le yn Ewrop eto’r tymor hwn.
Mae’r Barri wedi bod yn brysur yn cryfhau’r garfan, cyn-flaenwr Casnewydd Nathaniel Jarvis yn ymuno o Chippenham Town gyda Curtis Hutson hefyd yn ymuno o Ben-y-bont.
Caernarfon yn eistedd ar frig y gynghrair ar ôl dechrau diguro i’r tymor, gêm gyfartal ar Yr Oval (1-1) v Pen-y-bont a buddugoliaeth dda oddi cartref ar Barc Latham (2-3) v Y Drenewydd.
Mae golwg newydd i Gaernarfon y tymor yma, Huw Griffiths yn cymryd yr awenau am ei dymor cyntaf gyda’r clwb a sawl wyneb newydd yn ymuno â’r garfan, gyda’r chwaraewyr newydd yn creu argraff.
Mike Hayes yn rhwydo ar ei ymddangosiad cyntaf ac yn ymddangos yn 5-yr-wythnos Sgorio gyda Paulo Mendes yn sgorio yn y fuddugoliaeth dros Y Drenewydd.
Gêm gyfartal 1-1 oedd hi rhwng y clybiau yn ôl ym mis Chwefror, Momodou Touray yn rhwydo i’r Barri a Darren Thomas i’r Cofis.
Hwlffordd v Y Drenewydd | Sadwrn – 5.45 (yn fyw ar Sgorio)
Bydd camerâu Sgorio yn teithio i Ddôl y Bont ddydd Sadwrn wrth i’r newydd ddyfodiaid Hwlffordd groesawu’r Drenewydd.
Yn dilyn eu holl waith caled yn paratoi at eu dychweliad i’r Uwch Gynghrair, cafodd Hwlffordd siom wrth glywed fod eu gêm agoriadol o’r tymor yn erbyn Derwyddon Cefn wedi ei ohirio – Cefn heb lwyddo i gydymffurfio a chanllawiau Covid-19.
Rhaid oedd aros tan eu taith i Gyncoed i wynebu Met Caerdydd nos Fawrth er mwyn dechrau eu hymgyrch, gan ddychwelyd o’r brifddinas gyda phwynt yn dilyn gêm ddi-sgôr.
Mae’r Drenewydd wedi cael dechrau siomedig i’r tymor. Colli 1-0 yn erbyn newydd ddyfodiaid eraill y gynghrair, Y Fflint ar Sadwrn cynta’r tymor cyn colli 2-3 i Gaernarfon ar ôl bod ar y blaen ddwywaith.
Tîm Chris Hughes yn teithio i’r de orllewin heb bwynt ar ôl dwy gêm. Os ydynt am anelu am y chwech uchaf bydd rhaid targedu’r gêm hon yn erbyn Hwlffordd fel un i gael pwyntiau ohoni, hyd yn oed mor gynnar â hyn yn y tymor.
Y tro diwethaf i’r timau gwrdd ar Ddôl-y-bont Y Drenewydd oedd yr enillwyr, Jason Oswell yn sgorio mewn buddugoliaeth 0-1 nôl yn Nhachwedd 2015.
Y Seintiau Newydd v Met Caerdydd | Sul – 2.30
Bydd Y Seintiau Newydd yn gobeithio ail afael ar dlws y gynghrair ar ôl i Gei Connah ennill y bencampwriaeth am y tro cyntaf yn eu hanes y tymor diwethaf.
Roedd Y Seintiau yn bencampwyr am 8 tymor yn olynol – a chafodd tîm Scott Ruscoe y dechrau delfrydol i’w hymgyrch Cymru Premier gan guro Y Barri ar Barc Jenner 0-3.
Er y dechrau da yn y gynghrair, cafodd Y Seintiau siom yng nghanol wythnos gan golli ar giciau o’r smotyn yn erbyn B36 Torshavn yn ail rownd ragbrofol Cynghrair Europa.
Mae’r Myfyrwyr wedi cael dechrau da i’r tymor, ennill 2-3 ar Goedlan y Parc v Aberystwyth ar ôl bod ar ei hol hi.
Sgoriodd Oliver Hulbert ddwy yn ei ymddangosiad cyntaf dros y Myfyrwyr yn y ar ôl arwyddo ar fenthyg o Bristol Rovers.
Gêm gyfartal 0-0 oedd hi yn y gêm ganol wythnos yng Nghyncoed rhwng Met a Hwlffordd, felly dechrau diguro i Met Caerdydd.
Y tro diwethaf i’r timau gwrdd ar Neuadd y Parc Met Caerdydd enillodd, Joel Edwards a Will Evans yn sgorio mewn buddugoliaeth 1-2 dros Y Seintiau Newydd
Cei Connah v Pen-y-bont | Sul – 2.30
Gêm gyfartal oedd hi yn gêm agoriadol y tymor i’r pencampwyr, Cei Connah. Gôl arbennig gan Sameron Dool yn achub pwynt yn erbyn Y Bala.
Roedd Cei Connah hefyd yn cystadlu yn ail rownd ragbrofol Cynghrair Europa nos Iau, ond colli gyda chic ola’r gêm oedd eu hanes yn erbyn Dinamo Tbilisi.
Connor Roberts yn troseddu yn y cwrt a Giorgi Gabedava yn rhwydo o’r smotyn gan dorri calonnau’r Nomadiaid.
Dechrau da i Ben-y-bont ar ddiwrnod agoriadol y tymor gyda Mael Davies yn sgorio ar ei ymddangosiad cyntaf i’r clwb gyda’r tîm yn sicrhau pwynt ar yr Oval mewn gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Caernarfon.
Cafodd tîm Rhys Griffiths gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Aberystwyth yn stadiwm SDM Glass, ergyd nerthol Nathan Wood o du allan i’r cwrt cosbi yn agor y sgorio.
Mae Griffiths wedi arwyddo’r ymosodwr addawol Sam Snaith ar gyfer y tymor newydd, sgoriodd 6 gôl i Met Caerdydd yn nhymor 2018/19, gyda chyn golwr Y Bala a Chymru C, Ashley Morris hefyd yn arwyddo i’r Bont.
Y tro diwethaf i’r clybiau gwrdd yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy Cei Connah enillodd, Jamie Insall yn sgorio dwy a Callum Morris o’r smotyn mewn buddugoliaeth 3-1 ym mis Medi 2019.
Y Bala v Derwyddon Cefn | Sul – 2.30
Dipyn o gynnwrf ar Faes Tegid dros yr haf gyda Chris Venables yn ennill chwaraewr y tymor, buddugoliaeth dda yn Ewrop yn erbyn Valletta o Malta ac Alex Ramsay, un o golwyr gorau’r gynghrair yn arwyddo i’r clwb.
Cafodd Y Bala gêm gyfartal yng nghartref y pencampwyr Cei Connah yn eu gêm agoriadol o’r tymor ar ôl bod ar y blaen am dros awr ond i Sameron Dool sgorio yn eiliadau ola’r gêm.
Ymdrech deg gan Y Bala yn Ewrop nos Iau gyda thîm Colin Caton yn colli 2-0 yn erbyn un o fawrion Gwlad Belg, Standard Liege.
Dyw Derwyddon heb chwarae gêm eto ar ôl i’w gemau cael eu gohirio – gyda’r gynghrair yn datgan fod y clwb heb lwyddo i gydymffurfio a chanllawiau Covid.
Bruno Lopes yw rheolwr newydd Derwyddon Cefn yn dilyn cyfnod byr Stuart Gelling gyda’r clwb, gyda’r clwb yn gorffen yn 8fed yn y Cymru Premier tymor diwethaf.
Y tro diwethaf i’r clybiau gwrdd ar Faes Tegid Derwyddon Cefn enillodd, Jamie Reed yn sgorio dwywaith mewn buddugoliaeth 1-2
Uchafbwyntiau Cymru Premier dydd Llun am 5.25 ar S4C.