S4C

Navigation

Llai na mis i mewn i’r tymor ac mae’r tri uchaf wedi torri’n glir, ond bydd Y Bala’n ceisio cau’r bwlch ar y ceffylau blaen wrth i dîm Colin Caton herio Aberystwyth ddydd Sadwrn am 17:15 yn fyw ar S4C.

Nos Wener, 9 Hydref

Caernarfon v Derwyddon Cefn | Nos Wener – 19:45
Bydd Huw Griffiths yn edrych ymlaen i groesawu ei gyn-glwb i’r Oval nos Wener gan obeithio am sicrhau’r triphwynt yn erbyn y tîm sy’n stryffaglu ger y gwaelod.

Mae Bruno Lopes wedi cael dechrau caled i fywyd fel rheolwr yn Uwch Gynghrair Cymru a gyda dim ond un pwynt i’w henw ar ôl chwe gêm, y Derwyddon sy’n dechrau’r penwythnos ar waelod y tabl.

Dyw Caernarfon heb golli gartref yn erbyn y Derwyddon ers 2015 ac roedd hi’n fuddugoliaeth swmpus o 4-0 i’r Cofis y tro diwethaf i’r timau gwrdd ac hynny yn rownd wyth olaf Cwpan Cymru ‘nôl ym mis Chwefror.

Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ✅❌❌✅✅❌
Derwyddon Cefn: ❌➖❌❌❌

Dydd Sadwrn, 10 Hydref

Met Caerdydd v Cei Connah | Dydd Sadwrn – 14:30
Y pencampwyr Cei Connah sy’n arwain y pac ar ôl ennill eu pum gêm gynghrair ddiwethaf yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn Y Bala ar y penwythnos agoriadol.

Mae Met wedi colli tri ymosodwr dylanwadol yn ystod y flwyddyn diwethaf (Adam Roscrow, Will Evans, Jordan Lam) ac mae hynny wedi profi’n gostus gan mae’r myfyrwyr sydd â’r record ymosodol salaf yn y gynghrair (4 gôl mewn 7 gêm).

Ar ôl curo Aberystwyth ar y penwythnos agoriadol mae Met Caerdydd wedi mynd ar rediad o chwe gêm heb ennill gan lithro i lawr y tabl.

Dyw Met Caerdydd erioed wedi ennill gêm gynghrair yn erbyn Cei Connah, ond y myfyrwyr oedd yn fuddugol yn y gem ddiwethaf rhwng y timau yn rownd wyth olaf Cwpan Cymru.

Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ❌➖❌❌❌
Cei Connah: ✅✅✅✅✅

Pen-y-bont v Y Seintiau Newydd | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae’r Seintiau Newydd yn benderfynol i adennill tlws y cynghrair ac ar ôl ennill eu pum gêm agoriadol gan sgorio 21 gôl a pheidio ildio unwaith mae tîm Scott Ruscoe yn sicr ar y trywydd cywir.

Ond mae Pen-y-bont yn mwynhau eu rhediad gorau erioed yn Uwch Gynghrair Cymru ac wedi codi i’r 4ydd safle ar ôl ennill tair gêm yn olynol am y tro cyntaf yn y brif adran.

Sgoriodd Rhys Griffiths ddwywaith i Ben-y-bont yn erbyn Hwlffordd nos Fercher a bydd y chwaraewr-rheolwr 40 oed yn gobeithio ychwanegu at ei gyfanswm o 271 o goliau cynghrair cyn diwedd y tymor.

Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ❌❌✅✅✅
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅

Y Drenewydd v Y Barri | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae’r Drenewydd wedi cael dechrau digon diflas i’r tymor gan ennill dim ond un o’u saith gêm agoriadol.

Mae’r Barri ar y llaw arall yn mwynhau cyfnod arbennig ac wedi ennill pum gêm gynghrair yn olynol am y tro cyntaf ers Mawrth 2018.

Ond y Robiniaid sydd wedi ennill y ddwy gêm ddiwethaf rhwng y timau – y ddwy gêm o fewn wythnos i’w gilydd ar Barc Jenner flwyddyn yn ôl (cynghrair a cwpan).

Record cynghrair diweddar:
Y Drenewydd: ➖➖✅❌❌
Y Barri: ✅✅✅✅✅

Y Fflint v Hwlffordd | Dydd Sadwrn – 14:30
Bydd y newydd ddyfodiaid yn cwrdd ar Gae-Y-Castell brynhawn Sadwrn yn y gêm gynghrair gyntaf rhwng Y Fflint ac Hwlffordd ers 1998, a bydd y ddau dîm yn ysu am ymateb ar ôl colledion siomedig yn eu gemau diwethaf (YSN 10-0 Fflint, Hwl 0-4 Pen).

Mae’r Fflint wedi colli eu tair gêm ddiwethaf, ond rheiny yn erbyn clybiau orffennodd yn y Chwech Uchaf y tymor diwethaf, felly bydd Niall McGuinness yn gweld cyfle i droi’r gornel brynhawn Sadwrn.

Dyw Hwlffordd heb orffen yn uwch na’r 12fed safle yn Uwch Gynghrair Cymru ers gorffen yn 7fed yn 2008/09 pan oedd 18 clwb yn y gynghrair.

Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ❌✅❌❌❌
Hwlffordd: ➖❌❌✅❌

Y Bala v Aberystwyth | Dydd Sadwrn – 17:15 (S4C)
Mae’r Bala dair gêm ar ei hôl hi yn Uwch Gynghrair Cymru yn dilyn gohiriadau ac ar ôl canlyniad siomedig yn erbyn Hwlffordd yn eu gêm ddiwethaf mae angen triphwynt ar dîm Colin Caton i ail-danio eu tymor.

Y Bala enillodd y ddwy gêm rhwng y timau’r tymor diwethaf, a methodd Aberystwyth a sgorio yn y ddwy gêm honno.

Ond mi fydd Aber yn llawn hyder ar ôl taro pedair yn erbyn y Derwyddon ar y Graig nos Fawrth.

Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ➖✅✅❌
Aberystwyth: ✅➖❌❌✅

Bydd uchafbwyntiau’r gemau i’w gweld ar Sgorio nos Lun am 5:25.

Sion Richards

Author Sion Richards

More posts by Sion Richards
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?