Ar ôl 73 diwrnod o seibiant bydd tymor Uwch Gynghrair Cymru yn ailddechrau nos Fawrth wrth i Ben-y-bont (6ed) fentro i Barc Latham i herio’r Drenewydd (11eg) gyda’r cyfan yn fyw ar wefannau cymdeithasol Sgorio.
Nos Fawrth, 2 Mawrth
Y Drenewydd v Pen-y-bont | Nos Fawrth – 20:00 (Facebook / Youtube Sgorio)
Mae dros 10 wythnos wedi mynd heibio ers i dimau Uwch Gynghrair Cymru chwarae eu gemau diwethaf cyn y Nadolig, ac mae rheolwr Y Drenewydd, Chris Hughes, wedi bod yn brysur yn ystod y cyfnod segur yn cryfhau ei garfan drwy arwyddo chwe chwaraewr newydd, yn cynnwys pedwar o gyn-chwaraewyr Y Drenewydd.
Y cyn-gapten, Shane Sutton ydi’r enw mwyaf sy’n ail-ymuno â’r Robiniaid ar ôl cyfnod o dair blynedd a hanner gyda chlwb Telford United yng nghynghrair Vanarama National League North.
Yr amddiffynnwr canol 32 oed, oedd capten Y Drenewydd pan enillon nhw’r gemau ail gyfle yn 2015 cyn mynd ymlaen i guro Valletta yng ngemau rhagbrofol Cynghrair Europa.
Bydd Chris Hughes yn gobeithio y gall Sutton gryfhau amddiffyn Y Drenewydd, sydd ond wedi cadw un llechen lân mewn 15 gêm y tymor hwn.
Hefyd yn dychwelyd i Barc Latham mae Alex Fletcher, Lifumpa Mwandwe a Callum Roberts (ar fenthyg o Gei Connah), yn ogystal â’r ymosodwyr Rhys Hesden a Jonathan Letford.
Mae’r ymwelwyr, Pen-y-bont wedi mwynhau tymor llwyddiannus hyd yma, ac ar ôl osgoi’r cwymp o drwch blewyn y tymor diwethaf, mae tîm Rhys Griffiths yn cystadlu am le yn yr hanner uchaf eleni.
Byddai buddugoliaeth i Ben-y-bont nos Fawrth yn eu codi uwchben Caernarfon a’r Barri i’r 4ydd safle, a hynny gyda gêm wrth gefn.
Mae Pen-y-bont wedi colli pump o’u 14 gêm hyd yma, a’r pum colled hynny yn erbyn y tri uchaf (YSN, Cei Connah, Y Bala), gan ildio dim ond pedair gôl yn eu naw gêm yn erbyn gweddill clybiau’r gynghrair.
Dyw’r Drenewydd ond wedi ennill dwy o’u 15 gêm hyd yma, yn erbyn y Derwyddon a’r Fflint, ond byddai triphwynt nos Fawrth yn eu codi o’r ddau isaf ac uwchben y ddau glwb hynny i’r 9fed safle.
Record cynghrair diweddar:
Y Drenewydd: ➖❌❌❌➖
Pen-y-bont: ❌➖✅✅❌