S4C

Navigation

Nos Sadwrn bydd cynghrair y Cymru Premier JD yn hollti’n ddwy, ond pwy fydd yn ymuno gyda’r Seintiau Newydd, Pen-y-bont, Y Drenewydd, Y Fflint a’r Bala yn y Chwech Uchaf… 

 

Dydd Sadwrn, 26 Chwefror 

Derwyddon Cefn (12fed) v Hwlffordd (11eg) | Dydd Sadwrn – 12:45 

Tra bod y ras i gyrraedd y Chwech Uchaf yn cyrraedd ei therfyn, mae’r frwydr i osgoi’r cwymp yn ei hanterth gyda’r ddau isaf yn mynd benben ar Y Graig brynhawn Sadwrn. 

Ar ôl methu ag ennill dim un o’u 10 gêm gynghrair ddiwethaf mae Hwlffordd bedwar pwynt y tu ôl i’r Barri a diogelwch y 10fed safle  

Ond mae’r Derwyddon druan mewn twll llawer dyfnach yn dilyn rhediad trychinebus o 30 gêm gynghrair heb fuddugoliaeth gan gasglu dim ond dau bwynt y tymor hwn. 

Ers ail-strwythuro’r gynghrair yn 2010/11 Derwyddon Cefn bydd y clwb cyntaf i gyrraedd yr hollt gyda llai na 10 o bwyntiau, ac os na fydd Hogiau’r Graig yn ennill ddydd Sadwrn, yna nhw fydd y tîm cyntaf erioed i fethu ag ennill gêm yn rhan gynta’r tymor. 

Ebrill 10fed 2021 oedd y tro diwethaf i’r Derwyddon ennill gêm gynghrair, a’r fuddugoliaeth honno gartref yn erbyn Hwlffordd, felly bydd tîm Andy Turner yn benderfynol o ail-adrodd y gamp o guro’r Adar Gleision gan ddod a’u rhediad gwael i ben y penwythnos yma. 

Record cynghrair diweddar:
Derwyddon Cefn: ❌❌❌❌❌
Hwlffordd: ❌➖➖❌➖
 

Met Caerdydd (8fed) v Y Seintiau Newydd (1af) | Dydd Sadwrn – 12:45 

Mae’r Seintiau Newydd 21 pwynt yn glir ar frig Uwch Gynghrair Cymru ar ôl ennill 18 o’u 21 gêm gynghrair eleni, ac ar ôl curo Cegidfa yn rownd wyth olaf Cwpan Cymru y penwythnos diwethaf bydd Anthony Limbrick yn anelu am y dwbl yn ei dymor llawn cyntaf fel rheolwr y clwb o Groesoswallt. 

Ar ôl colli pedair gêm gynghrair yn olynol ym mis Tachwedd, bellach mae Met Caerdydd ar rediad o saith gêm gynghrair heb golli (ennill 2, cyfartal 5). 

Mae’r Seintiau wedi ennill eu tair gêm ddiwethaf yn erbyn Met Caerdydd heb ildio gôl, yn cynnwys eu buddugoliaeth o 5-0 yn Neuadd y Parc y tymor hwn. 

Pe bae Cei Connah yn colli pwyntiau am dorri rheolau’r gynghrair, yna byddai’r drws yn agor i Gaernarfon neu Met Caerdydd i gamu i’r Chwech Uchaf, felly mae digon yn y fantol i’r myfyrwyr. 

Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ➖✅➖➖͏
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅
 

 

Pen-y-bont (2il) v Y Fflint (4ydd) | Dydd Sadwrn – 12:45 

Mae Pen-y-bont a’r Fflint eisoes wedi sicrhau eu lle yn yr hanner uchaf, a’r targed nesaf yw cystadlu am yr ail safle a thocyn sicr i Ewrop. 

Mae’r ddau glwb yn anelu i gyrraedd Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes, ac mae posib y byddai gorffen yn 3ydd yn gallu bod yn ddigon pe bae un o’r ddau uchaf yn ennill Cwpan Cymru. 

Y Fflint oedd y ceffylau duon yn gynharach yn y tymor ar ôl synnu pawb a thorri’n glir yn yr 2il safle, ond bellach mae sawl clwb wedi ymuno’n y ras am Ewrop a does dim ond pedwar pwynt yn gwahanu’r pum clwb rhwng yr 2il a’r 6ed safle. 

Ar ôl colli 3-1 yn Y Fflint ar ddechrau mis Tachwedd, dyw Pen-y-bont ond wedi colli unwaith mewn 10 gêm ers hynny (3-2 vs YSN). 

Ond mae’n stori wahanol i’r Fflint, sydd ond wedi ennill dwy o’u naw gêm ers y fuddugoliaeth honno yn erbyn Pen-y-bont gan golli eu gafael ar yr 2il safle. 

Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ❌✅͏͏➖✅➖
Y Fflint: ❌✅➖➖❌ 

 

Y Bala (5ed) v Aberystwyth (9fed) | Dydd Sadwrn – 12:45 

Am yr ail benwythnos yn olynol bydd Y Bala yn croesawu Aberystwyth i Faes Tegid. 

A criw Colin Caton oedd yn dathlu ddydd Sadwrn diwethaf diolch i ddwy gôl dan Dean Ebbe wrth i’r Bala gamu ymlaen i rownd gynderfynol Cwpan Cymru (Bala 2-1 Aber). 

Mae Dean Ebbe wedi sgorio pum gôl mewn tair gêm ers ymuno â’r Bala ar fenthyg o’r Seintiau Newydd, a gyda Chris Venables hefyd yn dychwelyd i’r garfan y penwythnos yma yn dilyn gwaharddiad hir bydd Y Bala’n sicr yn gwthio am yr ail safle yn ail ran y tymor. 

Yn dilyn rhediad o saith gêm heb golli mae’r Bala wedi sicrhau eu lle yn y Chwech Uchaf am yr wythfed tymor yn olynol, ond bydd tîm Antonio Corbisiero yn treulio ail ran y tymor yn yr hanner isaf. 

Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ✅➖✅✅➖
Aberystwyth: ➖❌✅✅➖
 

Y Barri (10fed) v Caernarfon (7fed) | Dydd Sadwrn – 12:45 

Mae Caernarfon wedi gorffen yn y Chwech Uchaf ym mhob tymor ers eu dyrchafiad yn ôl i’r gynghrair yn 2018, ond mae’r Cofis yn dechrau’r penwythnos yn y 7fed safle, triphwynt y tu ôl i Gei Connah (6ed), a dau bwynt uwchben Met Caerdydd (8fed). 

Yn fathemategol, fe all Caernarfon dal gyrraedd y Chwech Uchaf, er bod hynny’n bur anhebygol, ond gobaith mawr y Cofis yw bod Cei Connah yn colli eu hapêl yn erbyn y gynghrair ac yn colli pwyntiau am chwarae chwaraewr anghymwys, fyddai’n agor y drws i’r clwb nesaf yn y tabl. 

Ar ôl ennill dim ond un o’u wyth gêm ddiwethaf mae’r Barri wedi methu a chyrraedd y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers tymor 2017/18. 

Ond y Dreigiau oedd yn fuddugol yn y gêm gyfatebol ar yr Oval yn gynharach y tymor hwn diolch i goliau hanner cyntaf gan Kayne McLaggon a Jordan Cotterill (Cfon 1-2 Barri). 

Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ❌❌✅❌➖
Caernarfon: ✅✅❌❌➖
 

 

Y Drenewydd (3ydd) v Cei Connah (6ed) | Dydd Sadwrn – 12:45 

Mae Cei Connah driphwynt yn glir o Gaernarfon yn y ras am y Chwech Uchaf, a gyda’u gwahaniaeth goliau 11 gôl yn well na’r Caneris, mae’n anhebygol y bydd Caernarfon yn gallu cau’r bwlch brynhawn Sadwrn. 

Ond y cwmwl mawr uwchben Cei Connah ydi’r cyhuddiad o chwarae chwaraewr anghymwys mewn chwe gêm gynghrair, ac mae’r clwb mewn perygl gwirioneddol o dderbyn 18 pwynt o gosb. 

Mae’n bosib bod yr ansicrwydd oddi ar y cae wedi dechrau cael effaith ar y Nomadiaid gan i’r pencampwyr golli yn erbyn Bae Colwyn o’r ail haen yn rownd wyth olaf Cwpan Cymru y penwythnos diwethaf. 

Dyw’r Drenewydd heb ennill dim un o’u pedair gêm ddiwethaf, ond fe gafodd tîm Chris Hughes fuddugoliaeth annisgwyl oddi cartref yn erbyn Cei Connah ‘nôl ym mis Hydref (Cei 0-2 Dre). 

Record cynghrair diweddar:
Y Drenewydd: ✅➖❌➖͏͏
Cei Connah: ✅❌➖❌✅
 

 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?