S4C

Navigation

Gyda wyth gêm i fynd tan yr hollt dim ond chwe phwynt sy’n gwahanu’r wyth clwb rhwng y 4ydd a’r 11eg safle wrth i bethau ddechrau poethi yn y ras i gyrraedd y Chwech Uchaf. 

 

Nos Wener, 3 Rhagfyr 

Y Bala (5ed) v Y Seintiau Newydd (1af) | Nos Wener – 19:45 

Nos Wener bydd cewri Croesoswallt yn teithio i Faes Tegid am y tro cyntaf ers gêm gyntaf Anthony Limbrick wrth y llyw ‘nôl ym mis Ebrill ble enillodd y Seintiau 1-0 diolch i gôl gynnar Ryan Brobbel. 

A Ryan Brobbel sgoriodd y ddwy gôl hollbwysig yn y gêm ddiwethaf rhwng y timau hefyd i ennill y triphwynt yn hwyr yn Neuadd y Parc fis Hydref (YSN 2-1 Bala). 

Ers cymryd yr awennau mae’r gŵr o Awstralia wedi rheoli 24 o gemau cynghrair gan ennill 75% o rheiny a cholli dim ond dwywaith. 

Tydi’r Seintiau heb golli dim un o’u saith gêm flaenorol yn erbyn Y Bala (ennill 4, cyfartal 3), a gyda naw pwynt yn gwahanu’r ceffylau blaen a gweddill y pac mae’n gaddo i fod yn gêm galed i griw Colin Caton sydd ond wedi ennill un o’u saith gêm gynghrair ddiwethaf. 

Record cynghrair diweddar: 

Y Bala: ➖❌❌➖✅

Y Seintiau Newydd: ➖✅✅❌✅ 

  

Aberystwyth (9fed) v Cei Connah (6ed) | Nos Wener – 20:00 

Mae dwy gôl gan John Owen wedi bod yn ddigon i sicrhau chwe phwynt i Aberystwyth dros eu dwy gêm ddiwethaf a’u codi o safleoedd y cwymp i’r 9fed safle. 

Mae’r ddwy gôl yn golygu mae John Owen ydi prif sgoriwr y tîm y tymor yma, gan nad oes neb arall wedi sgorio mwy nac unwaith i Aberystwyth yn y gynghrair. 

Bellach does dim ond pedwar pwynt yn gwahanu Aberystwyth a Chei Connah (6ed), ac felly byddai buddugoliaeth arall nos Wener yn gwneud y Gwyrdd a’r Duon yn gystadleuwyr gwirioneddol am le’n y Chwech Uchaf. 

Ond dyw Cei Connah heb golli dim un o’u wyth gêm flaenorol yn erbyn Aberystwyth (ennill 7, cyfartal 1), a bydd y Nomadiaid yn llawn hyder ar ôl curo’r Bala yn rownd gynderfynol Cwpan Nathaniel MG y penwythnos diwethaf (Bala 1-4 Cei). 

Record cynghrair diweddar: 

Aberystwyth: ❌❌➖✅✅
Cei Connah: ➖✅✅✅➖ 

 

Dydd Sadwrn, 4 Rhagfyr 

Caernarfon (7fed) v Pen-y-bont (4ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Mae Caernarfon yn dechrau’r penwythnos yn yr hanner isaf, ond byddai buddugoliaeth i’r Cofis ar yr Oval yn eu codi uwchben eu gwrthwynebwyr Pen-y-bont. 

Bydd hi’n dipyn o her i hogiau Huw Griffiths gan nad yw Pen-y-bont wedi colli dim un o’u saith gêm flaenorol yn erbyn Caernarfon (ennill 3, cyfartal 4). 

Mae’r dair gêm ddiwethaf rhwng y timau wedi gorffen yn gyfartal wedi 90 munud – yn cynnwys buddugoliaeth Pen-y-bont ar giciau o’r smotyn yng Nghwpan Cymru ym mis Hydref. 

Record cynghrair diweddar: 

Caernarfon: ❌❌✅❌✅ 

Pen-y-bont: ✅✅❌✅➖ 

 

Derwyddon Cefn (12fed) v Met Caerdydd (11eg) | Dydd Sadwrn – 14:30  

Wedi 23 gêm gynghrair heb fuddugoliaeth mae gan y Derwyddon gyfle gwirioneddol i ddod a’r rhediad trychinebus i ben yn erbyn Met Caerdydd sy’n rhannu lle gyda nhw yn safleoedd y cwymp ar ôl pedwar colled yn olynol yn y gynghrair. 

Ond dyw Met Caerdydd heb golli dim un o’u pum gêm flaenorol yn erbyn y Derwyddon (ennill 3, cyfartal 2) a bydd yr hwyliau’n uchel yng Nghampws Cyncoed wedi i’r myfyrwyr sicrhau eu lle yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG gyda buddugoliaeth yn erbyn Y Barri ddydd Sadwrn diwethaf. 

Ers ennill 2-1 yn erbyn Hwlffordd ym mis Ebrill, dim ond unwaith yn eu 26 gêm ym mhob cystadleuaeth ers hynny mae’r Derwyddon wedi sgorio dwy gôl mewn gêm, ac hynny oddi cartref yn erbyn Met Caerdydd ym mis Hydref (Met 4-2 Cefn). 

Record cynghrair diweddar: 

Derwyddon Cefn: ❌❌❌➖❌ 

Met Caerdydd: ➖❌❌❌❌ 

 

Y Drenewydd (3ydd) v Y Barri (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Dyw’r Drenewydd ond wedi ennill un o’u pum gêm ddiwethaf, ac honno yn erbyn y tîm sydd ar waelod y tabl, Derwyddon Cefn. 

Ond dyw’r Robiniaid heb golli dim un o’u pum gêm ddiwethaf yn erbyn Y Barri (ennill 3, cyfartal 2). 

Enillodd Y Drenewydd o dair gôl i ddim ar Barc Jenner ‘nôl ym mis Hydref diolch i hatric Aaron Williams, a dyw’r Barri ond wedi sgorio unwaith yn eu pum gêm ddiwethaf yn erbyn Y Drenewydd. 

Record cynghrair diweddar: 

Y Drenewydd: ✅❌✅➖❌ 

Y Barri: ➖✅➖➖✅ 

 

Y Fflint (2il) v Hwlffordd (10fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Bydd Y Fflint yn disgwyl dim llai na triphwynt brynhawn Sadwrn yn dilyn dau ganlyniad siomedig gefn wrth gefn (Cefn 1-1 Fflint, Bala 3-1 Fflint) 

Mae tîm Neil Gibson yn parhau i fod yn yr ail safle ond bydd angen gwella’n amddiffynnol os am gystadlu am le’n Ewrop gan nad yw’r Fflint wedi cadw llechen lân mewn gêm gynghrair ers mis Awst (11 gêm). 

Mae chwech o saith gêm ddiwethaf Hwlffordd wedi bod gartref, ac roedd yr unig daith oddi cartref yn ystod y rhediad diweddar yn un i’w anghofio (YSN 6-0 Hwl). 

Hwlffordd enillodd y gêm gyfatebol ‘nôl ym mis Medi gyda Touray Sisay yn sgorio ddwywaith i’r Adar Gleision a’r Fflint yn gorffen y gêm gyda naw dyn wedi i Ben Nash ac Alex Jones gael eu hanfon o’r maes yn Nôl y Bont (Hwl 2-0 Fflint). 

Record cynghrair diweddar: 

Y Fflint: ➖✅✅➖❌ 

Hwlffordd: ✅✅❌➖❌ 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?