S4C

Navigation

Prynhawn Sadwrn bydd rheolwr newydd Cei Connah, Craig Harrison yn croesawu ei gyn-glwb, Y Seintiau Newydd i Stadiwm Glannau Dyfrdwy yn ei gêm gartref gyntaf wrth y llyw i’r Nomadiaid. 

Mae Cei Connah wedi cael dechrau gwael i’r tymor, ac ar ôl rhediad o bum gêm gynghrair heb fuddugoliaeth mae’r pencampwyr 10 pwynt y tu ôl i Seintiau Anthony Limbrick.  

Dydd Sadwrn, 9 Hydref 

Cei Connah (8fed) v Y Seintiau Newydd (1af) | Dydd Sadwrn – 12:45 

Roedd ‘na siom aruthrol i Craig Harrison yn ei gêm gyntaf wrth y llyw y penwythnos diwethaf gan ildio wedi 88 munud i rannu’r pwyntiau efo Hwlffordd. 

Dyma ddechrau gwaethaf Cei Connah yn yr uwch gynghrair ers 2015/16, a dyma’r tro cyntaf i’r tîm fynd ar rediad o bum gêm heb ennill mewn tymor ers 2014/15. 

Fe enillodd Craig Harrison y bencampwriaeth chwe gwaith yn ystod ei gyfnod fel rheolwr Y Seintiau Newydd (2011-17) – record arbennig sy’n golygu mae fo yw’r rheolwr mwyaf llwyddiannus erioed yn y pyramid Cymreig.  

Mae pump allan o chwe gêm nesaf Cei Connah gartref yng Nglannau Dyfrdwy, felly mae’n gyfle i Craig Harrison gael trefn ar ei garfan a dechrau dringo’r tabl. 

Roedd hi’n fuddugoliaeth gyfforddus arall i’r Seintiau yn erbyn Aberystwyth nos Wener diwethaf (3-0), sy’n ymestyn eu rhediad i naw gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth (ennill 8, cyfartal 1). 

Ond dyw cewri Croesoswallt heb ennill dim un o’u pedair gêm ddiwethaf yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy, na chwaith wedi sgorio ar eu tair hymweliad diwethaf. 

Mae gan Anthony Limbrick gyfartaledd ennill o 76% fel rheolwr y Seintiau yn y Cymru Premier JD, sydd yn record well nac oedd gan Craig Harrison yn ystod ei gyfnod fel rheolwr yn Neuadd y Parc (73%). 

Ond wedi dweud hynny, fe enillodd Harrison 78% o’i gemau yn erbyn Cei Connah pan oedd wrth y llyw yng Nghroesoswallt, tra bod Limbrick heb ennill dim un o’i ddwy gêm yn erbyn y Nomadiaid hyd yma. 

 

Record cynghrair diweddar: 

Cei Connah: ➖➖❌❌͏͏ 

Y Seintiau Newydd: ✅✅➖✅✅ 

 

Aberystwyth (10fed) v Caernarfon (4ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Ar ôl colli pump o’u saith gêm gynghrair hyd yma, gan sgorio dim ond pedair gôl, mae Aberystwyth yn beryglus o agos i’r gwaelodion. 

Dyw Aber ond wedi sgorio mewn dwy o’u saith gêm gynghrair y tymor yma, ac mae tîm Antonio Corbisiero wedi ennill y ddwy gêm honno (vs Y Barri a’r Drenewydd). 

Mae Caernarfon ar y llaw arall ar rediad cryf ar ôl colli dim ond un o’u saith gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth. 

Dyw Caernarfon chwaith ond wedi colli un o’u saith gêm ddiwethaf yn erbyn Aberystwyth, a dyw’r Cofis heb golli yng Nghoedlan y Parc ers Tachwedd 2008 (ennill 2, cyfartal 1 ers hynny). 

 

Record cynghrair diweddar: 

Aberystwyth: ❌❌❌✅❌
Caernarfon: ❌➖✅✅➖ 

 

Met Caerdydd (5ed) v Hwlffordd (11eg) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Ar ôl methu ag ennill dim un o’u tair gêm gynghrair agoriadol, mae Met Caerdydd wedi ennill chwech o’u saith gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth gan saethu i fyny’r tabl i’r 5ed safle. 

Fydd Hwlffordd ddim yn dîm hawdd i’w curo gan fod yr Adar Gleision ar rediad o bedair gêm heb golli, sy’n cynnwys eu buddugoliaeth yn erbyn Y Fflint a’u gêm gyfartal yn erbyn Cei Connah. 

Wedi dweud hynny, dyw Hwlffordd heb ennill dim un o’u naw gêm ddiwethaf oddi cartref yn y Cymru Premier JD (colli 8, cyfartal 1). 

Dyw Hwlffordd chwaith heb ennill oddi cartref yn erbyn Met Caerdydd ers degawd (5 gêm heb ennill – colli 4, cyfartal 1). 

 

Record cynghrair diweddar: 

Met Caerdydd: ➖✅✅❌✅ 

Hwlffordd: ❌❌❌✅➖ 

 

Y Bala (2il) v Derwyddon Cefn (12fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Roedd ‘na ddrama hwyr yng Nghae-y-Castell nos Wener diwethaf wrth i David Edwards daro’n hwyr i gipio’r triphwynt i’r Bala yn erbyn Y Fflint. 

Y Bala yw’r unig glwb o’r gynghrair sydd heb golli gêm ddomestig y tymor yma (ennill 8, cyfartal 3), ac mae’n debygol mae nhw fydd y bygythiad mwyaf i’r Seintiau Newydd gyda pedwar pwynt yn gwahanu’r ddau glwb yn y ras am y bencampwriaeth.  

Ond mae pethau’n mynd o ddrwg i waeth i’r Derwyddon sydd wedi colli eu 16 gêm gynghrair ddiwethaf, sef y record waethaf erioed gan unrhyw glwb yng nghyfnod y 12 Disglair yn y Cymru Premier JD. 

Y Bala enillodd y ddwy gêm rhwng y timau’r tymor diwethaf, ond roedd angen gôl hwyr wedi 91 munud gan gyn-chwaraewr y Derwyddon, Nathan Peate i sicrhau’r pwyntiau ym Maes Tegid. 

 

Record cynghrair diweddar: 

Y Bala: ➖✅✅✅✅ 

Derwyddon Cefn: ❌❌❌❌❌ 

 

Y Fflint (3ydd) v Y Barri (7fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Wedi dechrau campus i’r tymor gan dreulio cyfnod ar y copa, mae’r Fflint bellach wedi colli eu dwy gêm gynghrair ddiwethaf gan syrthio i’r 3ydd safle, saith pwynt y tu ôl i’r Seintiau, ac efallai bod y freuddwyd o ennill y bencampwriaeth wedi llithro o’u gafael. 

Fel Y Fflint, mae’r Barri hefyd wedi colli dwy gêm gynghrair yn olynol gan gwympo i’r 7fed safle. 

Ond mae hi mor dynn yng nghanol y tabl gyda dim ond triphwynt yn gwahanu’r Fflint (3ydd) a Chei Connah (8fed), felly byddai buddguoliaeth i’r Barri yn eu codi uwchben bechgyn Neil Gibson. 

Mae tîm Gavin Chesterfield wedi ennill pob un o’u tair gêm flaenorol yn erbyn Y Fflint yn cynnwys y fuddugoliaeth fawr ar Barc Jenner y tro diwethaf i’r timau gwrdd (Barri 6-3 Fflint). 

 

Record cynghrair diweddar: 

Y Fflint: ✅❌✅❌❌ 

Y Barri: ✅✅✅❌❌ 

 

Y Drenewydd (6ed) v Pen-y-bont (9fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Mae blaenwr newydd y Robiniaid ar dân, ac ar ôl sgorio hatric yn Y Barri’r penwythnos diwethaf, mae Aaron Williams bellach wedi rhwydo 16 gôl ym mhob cystadleuaeth i’r Drenewydd y tymor hwn. 

Bydd Y Drenewydd yn croesawu Pen-y-bont i Barc Latham brynhawn Sadwrn, clwb sydd ond wedi ennill un o’u wyth gêm flaenorol yn erbyn y Robiniaid. 

Dim ond un o 17 gêm gynghrair ddiwethaf Y Drenewydd sydd wedi gorffen yn gyfartal, sef y gêm gyfatebol yn erbyn Pen-y-bont ym mis Awst (1-1). 

Tydi’r tabl ddim yn adrodd stori Pen-y-bont yn deg iawn ar hyn o bryd, gyda’r clwb yn eistedd yn y 9fed safle gan mae dim ond y Derwyddon (0) sydd wedi ennill llai o gemau cynghrair na bechgyn Bryntirion (1). 

Er hynny, dim ond Y Seintiau Newydd a’r Bala (0) sydd wedi colli llai o gemau cynghrair na Phen-y-bont (1), gan bod tîm Rhys Griffiths wedi cael pum gêm gyfartal yn erbyn rhai o dimau gorau’r gynghrair. 

Dyw Pen-y-bont ond wedi colli un o’u naw gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth, a gallai buddugoliaeth brynhawn Sadwrn eu codi mor uchel a’r 4ydd safle. 

 

Record cynghrair diweddar: 

Y Drenewydd: ✅✅❌❌✅ 

Pen-y-bont: ➖❌➖✅➖ 

 

Bydd uchafbwyntiau gemau’r penwythnos i’w gweld ar ein gwefannau cymdeithasol ac ar Sgorio nos Lun am 5:30. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?