S4C

Navigation

Mae’n benwythnos olaf cyn yr hollt yn Uwch Gynghrair Cymru ac mae Pen-y-bont, Caernarfon a Hwlffordd yn brwydro am y ddau le olaf yn y Chwech Uchaf. 

 

Dydd Gwener, 2 Ebrill 

Aberystwyth (9fed) v Derwyddon Cefn (12fed) | Dydd Gwener – 17:00

Dyw Aberystwyth ond wedi colli un o’u pum gêm ers ailddechrau’r tymor, gan godi o waelod y tabl i’r 9fed safle. 

Y Derwyddon sydd wedi cymryd eu lle ar waelod y domen yn dilyn rhediad truenus o chwe gêm heb fuddugoliaeth (colli 5, cyfartal 1). 

Ond dyw’r Derwyddon ond wedi colli ar un o’u chwe hymweliad diwethaf â Choedlan y Parc (ennill 3, cyfartal 2). 

Record cynghrair diweddar:    

Aberystwyth: ➖✅ 

Derwyddon Cefn: ❌❌❌❌➖ 

 

Met Caerdydd (10fed) v Y Barri (4ydd) | Dydd Gwener – 17:00

Fe seliodd Y Barri eu lle yn y Chwech Uchaf mewn steil ddydd Sadwrn diwethaf gan daro chwech o goliau yn erbyn Y Bala ar Barc Jenner. 

Ond roedd ‘na siomiant pellach i Met Caerdydd, gollodd yng Nghaernarfon i’w gwneud hi’n wyth gêm heb fuddugoliaeth i’r myfyrwyr. 

Dyw Met bellach ond dau bwynt uwchben safleoedd y cwymp, ond mae’n ansicr eto os bydd unrhyw glwb yn syrthio o’r uwch gynghrair y tymor hwn. 

Record cynghrair diweddar:    

Met Caerdydd: ❌❌❌➖ 

Y Barri: ✅❌✅ 

 

Pen-y-bont (5ed) v Hwlffordd (7fed) | Dydd Gwener – 17:00 (S4C)

Bydd gêm fawr y penwythnos yn fyw o Stadiwm Gwydr SDM wrth i Ben-y-bont a Hwlffordd fynd benben am le yn y Chwech Uchaf. 

Mae triphwynt yn gwahanu’r ddau glwb a byddai angen i Hwlffordd ennill o dair gôl neu fwy i ddringo uwchben Pen-y-bont ar wahaniaeth goliau. 

Mae Caernarfon hefyd driphwynt uwchben Hwlffordd, ond dyw eu gwahaniaeth goliau ddim cystal a’r Adar Gleision, a gyda’r Cofis yn wynebu gêm galed yn erbyn Y Seintiau Newydd, mae’n bosib y byddai buddugoliaeth yn ddigon i godi tîm Wayne Jones uwchben Caernarfon. 

Ond dyw Pen-y-bont heb golli dim un o’u pum gêm ddiwethaf yn erbyn Hwlffordd (ennill 4, cyfartal 1) ac roedd hi’n grasfa o 4-0 i’r Adar Gleision yn y gêm gyfatebol ar ddechrau’r tymor gyda rheolwr Pen-y-bont, Rhys Griffiths yn rhwydo ddwywaith ar ôl dod a’i hun ymlaen fel eilydd yn 40 mlwydd oed. 

Record cynghrair diweddar:    

Pen-y-bont: ✅➖✅❌ 

Hwlffordd: ✅❌✅ 

 

Y Bala (3ydd) v Y Fflint (11eg) | Dydd Gwener – 17:00

Yn dilyn rhediad arbennig o 14 gêm heb golli, mae’r Bala bellach wedi colli tair gêm gynghrair yn olynol am y tro cyntaf ers dwy flynedd, ac mae tîm Colin Caton wedi syrthio 15 pwynt y tu ôl i’r ceffylau blaen, Cei Connah.  

Bydd Y Fflint hefyd yn gobeithio am well perfformiad y penwythnos hwn ar ôl cael eu trechu o 6-0 gartref yn erbyn Y Seintiau Newydd ddydd Sadwrn. 

Hon fydd taith gyntaf Y Fflint i Faes Tegid ers 2009, sef tymor olaf Y Bala yng Nghynghrair y Gogledd cyn gorffen ar frig y tabl a chael eu dyrchafu i’r uwch gynghrair. 

Record cynghrair diweddar:    

Y Bala: ➖✅❌❌ 

Y Fflint: ❌❌❌ 

 

Y Drenewydd (8fed) v Cei Connah (1af) | Dydd Gwener – 17:00

Bydd Cei Connah yn gobeithio dal eu gafael ar eu lle ar gopa’r gynghrair wedi i’r Seintiau Newydd gau’r bwlch i driphwynt y penwythnos diwethaf. 

A bydd y Nomadiaid yn sicr ddim yn gorffwys ar eu rhwyfau gan bod y clwb oedd ar y brig adeg yr hollt wedi methu mynd ymlaen i ennill y gynghrair yn y ddau dymor diwethaf. 

Mae Cei Connah ar rediad o naw gêm heb golli yn erbyn Y Drenewydd (ennill 7, cyfartal 2), a bydd y Robiniaid yn siomedig o fethu cyfle i gystadlu am le’n y Chwech Uchaf yn dilyn dau golled yn olynol yn erbyn Aberystwyth a Hwlffordd. 

Record cynghrair diweddar:    

Y Drenewydd: ❌✅✅❌ 

Cei Connah: ✅✅➖✅ 

 

Y Seintiau Newydd (2il) v Caernarfon (6ed) | Dydd Gwener – 17:00

Mae Caernarfon yn teithio i Neuadd y Parc gan wybod y byddai pwynt yn ddigon i sicrhau eu lle yn y Chwech Uchaf. 

Ond mae hynny am fod yn dipyn o her yn erbyn y clwb sydd wedi sgorio 11 gôl yn eu dwy gêm ddiwethaf. 

Mae’r Cofis ar rediad rhagorol o wyth gêm heb golli, a byddai gallu ymestyn y rhediad hwnnw ddydd Gwener yn golygu gymaint i Huw Griffiths yn ei dymor llawn cyntaf gyda’r clwb. 

Record cynghrair diweddar:    

Y Seintiau Newydd: ✅➖❌✅ 

Caernarfon: ➖➖✅ 

 

Bydd uchafbwyntiau holl gemau’r penwythnos i’w gweld ar Sgorio nos Lun am 17:30. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?