S4C

Navigation

Hir yw pob ymaros, ond wedi 11 wythnos o seibiant mae penwythnos llawn o gemau Uwch Gynghrair Cymru o’n blaenau ni, yn cynnwys y gêm fawr tua’r brig rhwng Y Seintiau Newydd a’r Bala fydd yn fyw ar Sgorio am 16:45 brynhawn Sadwrn. 

Dydd Sadwrn, 6 Mawrth 

Caernarfon (5ed) v Aberystwyth (12fed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Daeth y saib yn y tymor ar adeg anffodus i Gaernarfon oedd wedi mynd ar rediad o bedair gêm heb golli cyn y Nadolig, gan ail-gynnau eu gobeithion o gyrraedd y Chwech Uchaf.  

Ond roedd hi’n stori dra gwahanol i Aberystwyth oedd o bosib yn falch o’r toriad ar ôl chwe colled yn olynol. 

Roedd Aberystwyth ar rediad o naw gêm gynghrair heb ennill – eu rhediad hiraf heb fuddugoliaeth ers degawd, felly tybed os bydd y gorffwys wedi gwneud lles i’r Gwyrdd a’r Duon. 

Dyw Caernarfon ond wedi ennill colli un o’u pum gêm yn erbyn Aberystwyth ers eu dyrchafiad i’r uwch gynghrair yn 2018. 

Record cynghrair diweddar:

Caernarfon: ❌✅✅✅➖ 

Aberystwyth: ❌❌❌❌❌ 

 

Cei Connah (2il) v Y Drenewydd (9fed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Bydd Y Drenewydd yn llawn hyder ar ôl curo Pen-y-bont yn gyfforddus nos Fawrth, ond fydd hi’n her anos yng Nglannau Dyfrdwy ble dyw’r Robiniaid heb ennill ers Awst 2015.

Cyn y saib yn y tymor roedd Cei Connah wedi mynd ar rediad o saith buddugoliaeth yn olynol am y tro cyntaf erioed yn UG Cymru, a bydd tîm Andy Morrison yn gobeithio glynu’n dynn ar sodlau’r Seintiau gan eu bod ond driphwynt y tu ôl i’r ceffylau blaen gyda gêm wrth gefn. 

Mae Cei Connah wedi ennill eu chwe gêm gartref ddiwethaf yn erbyn Y Drenewydd, ond yn fwy na hynny, dyw’r Nomadiaid heb golli gartref yn y gynghrair ers dwy flynedd (24 gêm ennill 19, cyfartal 5). 

Record cynghrair diweddar:

Cei Connah: ✅✅✅✅✅ 

Y Drenewydd: ❌❌❌➖ 

 

Derwyddon Cefn (11eg) v Y Barri (4ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30

Mae’r Barri wedi ennill pump o’u chwe gêm ddiwethaf yn erbyn y Derwyddon, yn cynnwys eu gêm olaf cyn y saib yn y tymor (Barr 4-1 Cefn). 

Does neb wedi ildio mwy na’r Derwyddon y tymor hwn (2.3 gôl y gêm) ac mae angen i dîm Bruno Lopes ddechrau siapio os am ddringo o’r gwaelodion. 

Un cysur i hogiau’r Graig yw eu bod wedi ennill pedair o’u pum gêm gartref ddiwethaf yn erbyn Y Barri, a dyw Dreigiau Gavin Chesterfield heb ennill oddi cartref ers mis Hydref (colli 5, cyfartal 1 ers hynny). 

Record cynghrair diweddar:

Derwyddon Cefn: ➖❌✅✅❌  

Y Barri: ❌✅❌❌✅ 

 

Hwlffordd (7fed) v Met Caerdydd (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Clwb arall fydd yn gobeithio am well perfformiadau wedi’r saib ydi Met Caerdydd, oedd wedi colli tair yn olynol cyn y Nadolig gyda’r record ymosodol salaf yn y gynghrair (14 gôl mewn 16 gêm). 

Ond mae record gryf gan y myfyrwyr yn erbyn Hwlffordd – Met heb golli dim un o’u pum gêm ddiwethaf yn erbyn yr Adar Gleision ac heb golli yn Nôl-y-bont ers 20 blynedd. 

Ar ôl colli dim ond un o’u chwe gêm gartref ddiwethaf mae Hwlffordd yn sicr yn un clwb i’w wylio yn y ras am y Chwech Uchaf. 

Record cynghrair diweddar:

Hwlffordd: ✅✅➖❌✅ 

Met Caerdydd: ✅➖❌❌❌ 

 

Y Fflint (10fed) v Pen-y-bont (6ed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Enillodd Neil Gibson ei gêm gyntaf, a’i unig gêm fel rheolwr Y Fflint hyd yma, gartref yn erbyn Aberystwyth ym mis Rhagfyr (3-0). 

Ond mae rhediad caled o gemau o flaen Y Fflint gyda’u chwe gêm nesaf yn erbyn clybiau o’r hanner uchaf, gan ddechrau gyda’u gêm gyntaf erioed yn erbyn Pen-y-bont. 

Mae Pen-y-bont wedi colli eu tair gêm ddiwethaf oddi cartref, ond bydd Rhys Griffiths yn mynnu ymateb gan ei chwaraewyr yn dilyn perfformiad siomedig yn erbyn Y Drenewydd nos Fawrth. 

Record cynghrair diweddar:

Y Fflint: ❌❌❌❌✅ 

Pen-y-bont: ➖✅✅❌ 

 

Y Seintiau Newydd (1af) v Y Bala (3ydd) | Dydd Sadwrn – 17:00 (S4C) 

Ar ôl ennill pob un o’u gemau cartref yn y gynghrair, bydd y Seintiaun falch o gael ailddechrau eu tymor yn Neuadd y Parc, ble dyw criw Croesoswallt erioed wedi colli yn erbyn Y Bala. 

Ond Y Bala yw’r unig glwb sydd heb golli oddi cartref yn UG Cymru y tymor hwn, ac mae tîm Colin Caton yn mwynhau eu tymor gorau erioed yn y brif adran (35pt wedi 16 gêm). 

Er hynny, mae ‘na naw pwynt yn gwahanu’r Bala a’r Seintiau cyn y gêm hon, felly mae’n bosib dweud ei bod hi’n gêm y mae’n rhaid i’r Bala ei hennill os am unrhyw obaith gwirioneddol o ddal eu gwrthwynebwyr.

Record cynghrair diweddar:

Y Seintiau Newydd: ✅✅❌✅✅ 

Y Bala: ✅➖➖✅✅ 

 

Bydd uchafbwyntiau holl gemau’r penwythnos i’w gweld ar Sgorio nos Lun am 5:30. 

Sgorio

Author Sgorio

More posts by Sgorio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?