S4C

Navigation

Yn dilyn sawl canlyniad annisgwyl dros y penwythnos agoriadol bydd Y Seintiau Newydd, Cei Connah a’r Bala yn chwilio am eu buddugoliaethau cyntaf o’r tymor y penwythnos hwn. 

Nos Wener, 19 Awst 

Cei Connah v Airbus UK | Nos Wener – 19:45 

Doedd Cei Connah erioed wedi colli gêm gynghrair yn erbyn Met Caerdydd cyn y golled annisgwyl ar Gampws Cyncoed brynhawn Sadwrn diwethaf (Met 2-0 Cei). 

Nid dyna’r dechrau yr oedd Neil Gibson wedi ei obeithio amdano fel rheolwr newydd y Nomadiaid, ond gyda’r Seintiau a’r Bala hefyd yn gollwng pwyntiau bydd Cei Connah yn disgwyl dringo’r tabl yn o fuan. 

Colli oedd hanes Airbus hefyd, er i dîm Steve O’Shaughnessy reoli am gyfnodau hir o’u gêm agoriadol yn erbyn Aberystwyth (Air 1-2 Aber). 

Cafwyd clasur yn y gêm ddarbi rhwng y ddau dîm yma yng Nghwpan Nathaniel MG y tymor diwethaf wrth i Gei Connah guro Airbus o 6-3, sef eu 10fed buddugoliaeth yn olynol yn erbyn bechgyn Brychdyn. 

Dydd Calan 2016 oedd y tro diwethaf i Airbus guro’r Nomadiaid (Air 3-2 Cei), a dydd Calan y flwyddyn flaenorol oedd y tro diwethaf i Airbus ennill yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy (Cei 0-3 Air). 

 

Y Drenewydd v Y Fflint | Nos Wener – 19:45 

Llwyddodd Y Drenewydd i gipio pwynt oddi ar y pencampwyr ar y penwythnos agoriadol ond bydd Chris Hughes yn anelu am driphwynt yn erbyn Y Fflint nos Wener. 

Doedd neb yn siwr beth i’w ddisgwyl gan Y Fflint ar ôl cymaint o newidiadau dros yr haf, ond fe ddechreuodd Lee Fowler ei gyfnod fel rheolwr gyda buddugoliaeth gwerthfawr oddi cartref ym Mhontypridd (Pont 0-1 Ffl). 

Bydd y Robiniaid yn llawn hyder gan iddyn nhw ennill pob un o’u pedair gêm gartref yn erbyn Y Fflint ers i griw Cae-y-Castell esgyn i’r gynghrair yn 2020. 

 

Dydd Sadwrn, 20 Awst 

Caernarfon v Pontypridd | Dydd Sadwrn – 14:30 

Ar ôl colli 1-0 yn Hwlffordd y penwythnos diwethaf bydd Huw Griffiths yn gobeithio y gall y Cofis godi pwyntiau ar yr Oval ddydd Sadwrn. 

Roedd hi’n ddechrau siomedig i’r tymor i Bontypridd hefyd, gollodd gartref yn erbyn Y Fflint yn eu gêm gyntaf erioed yn yr uwch gynghrair. 

Mi fydd hi’n achlysur cyffrous i Bontypridd yn eu gêm gyntaf oddi cartref yn Uwch Gynghrair Cymru a’u taith bellaf erioed oddi cartref. 

 

Y Bala v Hwlffordd | Dydd Sadwrn – 14:30 

Ar ôl gorffen yn 2il y tymor diwethaf bydd Y Bala’n hynod siomedig o fod wedi colli 2-0 yn erbyn Pen-y-bont ar benwythnos agoriadol y tymor newydd. 

Roedd yna ddathlu ar Ddôl-y-Bont ddydd Sadwrn wedi i Jordan Davies rwydo’n hwyr i ennill y gêm i Hwlffordd yn erbyn Caernarfon. 

Fe wnaeth y clybiau yma gyfarfod deirgwaith y tymor diwethaf gyda’r Bala’n cael y gorau o bethau gan ennill dwy o’r gemau rheiny a’r llall yn gorffen yn ddi-sgôr. 

  

Y Seintiau Newydd v Pen-y-bont | Dydd Sadwrn – 14:30 

Mae Craig Harrison wedi cael dechrau caled ers dychwelyd i fod yn reolwr ar Y Seintiau Newydd gan gael gêm ddi-sgôr yn erbyn Y Drenewydd ddydd Sadwrn, ac hynny ar ôl colli yn erbyn ei gyn-glwb Cei Connah yng Nghwpan Nathaniel MG y penwythnos blaenorol. 

Ac felly, am y tro cyntaf ers dros 20 mlynedd mae’r Seintiau wedi mynd ar rediad o bum gêm heb fuddugoliaeth ym mhob cystadleuaeth. 

Cafodd Pen-y-bont ddechrau penigamp i’w tymor nhw wrth i ddwy gôl Rhys Kavanagh sicrhau triphwynt gartref yn erbyn Y Bala. 

Ond dyw Pen-y-bont heb ennill dim un o’u 12 gêm flaenorol yn erbyn Y Seintiau Newydd (cyfartal 2, colli 10), gyda’r golled ddiwethaf yn dod yn rownd derfynol Cwpan Cymru ym mis Mai. 

 

Aberystwyth v Met Caerdydd | Dydd Sadwrn – 17:45 (S4C) 

Ar ôl ennill eu gemau agoriadol y penwythnos diwethaf bydd Aberystwyth a Met Caerdydd yn cyfarfod yn fyw ar Sgorio ddydd Sadwrn. 

Bydd hi’n frwydr ddiddorol rhwng y ddau reolwr newydd bu’n cyd-weithio am flynyddoedd o dan Dr Christian Edwards fel aelodau o dîm hyfforddi Met Caerdydd. 

Ac yn ei gêm gynghrair gyntaf wrth y llyw i’r myfyrwyr fe lwyddodd Ryan Jenkins i wneud be fethodd Dr Christian Edwards a’i wneud yn ei gyfnod fel rheolwr, sef ennill gêm gynghrair yn erbyn Cei Connah. 

Ac roedd yna ddechrau addawol i deyrnasiaeth Anthony Williams fel rheolwr Aberystwyth gan i’r Gwyrdd a’r Duon ddod y tîm cyntaf i ennill gêm gynghrair oddi cartref yn Airbus ers Chwefror 2020. 

Ond dyw Aberystwyth heb ennill dim un o’u chwe gêm gartref ddiwethaf yn erbyn Met Caerdydd (cyfartal 2, colli 4). 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 9:30. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?