Tair gêm i fynd yn y tymor ac mae’r Bala a’r Drenewydd yn hafal ar bwyntiau yn y ras am yr ail safle, a bydd y ddau glwb yn cyfarfod ar Faes Tegid brynhawn Gwener mewn gêm dyngedfennol yn y frwydr i gyrraedd Ewrop.
Mae’r Seintiau Newydd eisoes yn saff o’u lle’n Ewrop ar ôl cael eu coroni’n bencampwyr, ond mae dau docyn arall i’w ennill, ar gyfer y clwb sy’n gorffen yn ail yn y tabl, a’r clwb sy’n ennill Cwpan Cymru (neu’r clwb sy’n gorffen yn 3ydd os bydd enillwyr Cwpan Cymru eisoes wedi sicrhau lle’n Ewrop).
CHWECH UCHAF
Caernarfon (5ed) v Pen-y-bont (4ydd) | Dydd Gwener – 14:30
Bydd dim antur Ewropeaidd i’r Cofis yr haf yma gan ei bod hi bellach yn amhosib i dîm Huw Griffiths orffen yn y tri uchaf ar ôl colli 1-0 yn erbyn Y Drenewydd ddydd Sadwrn.
Ac wedi pedair colled yn olynol does dim ffordd i Ben-y-bont orffen yn uwch na’r 4ydd safle chwaith, ond mae dal gobaith am gyrraedd Ewrop drwy lwybr Cwpan Cymru.
Bydd rhaid i hogiau Rhys Griffiths guro Y Seintiau Newydd am y tro cyntaf erioed yn rownd derfynol Cwpan Cymru fis nesaf i gael gwireddu’r freuddwyd o chwarae’n Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes.
Roedd Pen-y-bont ar rediad o wyth gêm heb golli yn erbyn Caernarfon cyn i’r Cofis eu trechu 0-3 yn Stadiwm Gwydr SDM fis diwethaf.
Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ✅❌❌✅❌
Pen-y-bont: ✅❌❌❌❌
Y Seintiau Newydd (1af) v Y Fflint (6ed) | Dydd Gwener – 14:30
Ar ôl colli chwech o’u saith gêm gynghrair ers yr hollt mae’r freuddwyd Ewropeaidd ar ben i fechgyn Y Fflint.
Fe ddechreuodd Y Fflint ail ran y tymor un pwynt o dan yr ail safle, ond wedi sawl anaf a gwaharddiad dros y Nadolig mae hogiau Neil Gibson wedi gwegian gan ennill dim ond un o’u 11 gêm ddiwethaf.
Dyw’r Fflint erioed wedi curo’r Seintiau Newydd, ond ar ôl colli 10-0 a 6-0 yn eu herbyn y tymor diwethaf, mae’r canlyniadau’n sicr wedi gwella y tymor hwn.
Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ➖❌✅➖✅
Y Fflint: ❌✅❌❌❌
Y Bala (3ydd) v Y Drenewydd (2il) | Dydd Gwener – 15:00
Tair gêm yn weddill yn y tymor a gwahaniaeth goliau’n unig sy’n gwahanu’r Drenewydd a’r Bala yn yr 2il a’r 3ydd safle, a gyda dim ond dwy gôl o fantais gan y Robiniaid allai hi ddim bod llawer agosach rhwng y ddau glwb yn y ras am Ewrop.
Mae’r Bala wedi cyrraedd Ewrop saith gwaith ers 2013, tra bod Y Drenewydd wedi chwarae’n Ewrop mewn pedwar tymor ers eu hymddangosiad cyntaf yn 1996.
Y Seintiau Newydd yw’r unig dîm i guro’r Bala ers mis Tachwedd, tra bo’r Drenewydd ar rediad o bedair buddugoliaeth yn olynol.
Mae record Y Bala’n gryf yn erbyn y Robiniaid gan nad yw tîm Colin Caton wedi colli dim un o’u wyth gêm ddiwethaf yn erbyn Y Drenewydd (ennill 7, cyfartal 1).
Wedi’r gêm hon bydd dwy gêm olaf Y Bala yn erbyn Caernarfon a Phen-y-bont, tra bydd Y Drenewydd angen wynebu’r Seintiau Newydd a’r Fflint cyn diwedd y tymor.
Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ✅✅✅➖✅
Y Drenewydd: ❌✅✅✅✅
CHWECH ISAF
Aberystwyth (9fed) v Derwyddon Cefn (12fed) | Dydd Gwener – 14:30
Torrodd y newyddion yr wythnos diwethaf ei bod hi’n bosib na fydd clwb yn esgyn o gynghrair Cymru South JD y tymor hwn gan nad yw Llanilltud Fawr (1af) na Phontypridd (2il) wedi sicrhau’r trwydded gywir i chwarae’n yr uwch gynghrair.
Mae’r ddau glwb yn debygol o apelio’r penderfyniad ac felly er yr ansicrwydd mae yna ddigon yn y fantol i glybiau’r Chwech Isaf sy’n brwydro i osgoi gorffen yn y ddau safle isaf.
Mae’r Derwyddon yn sicr o syrthio gan bod Airbus UK, pencampwyr y gogledd wedi sicrhau’r drwydded i ddychwelyd i’r Cymru Premier JD.
Gyda dim ond chwe phwynt y tymor yma mae’r Derwyddon mewn perygl o dorri record eu hunain fel y tîm gwaethaf yn holl hanes Uwch Gynghrair Cymru.
Roedd Aberystwyth wedi ennill saith gêm yn olynol yn erbyn y Derwyddon cyn rhannu’r pwyntiau ar y Graig fis diwethaf (Cefn 3-3 Aber), a gyda dim ond dau bwynt yn gwahanu Aberystwyth a’r ddau isaf tybed pa mor arwyddocaol fydd y canlyniad hwnnw ar ddiwedd y tymor.
Record cynghrair diweddar:
Aberystwyth: ❌✅❌✅➖
Derwyddon Cefn: ❌✅❌❌❌
Cei Connah (10fed) v Met Caerdydd (7fed) | Dydd Gwener – 14:30
Wedi gêm gyfartal ar Barc Jenner y penwythnos diwethaf mae Cei Connah yn parhau’n hafal ar bwyntiau gyda’r Barri (11eg) yn y frwydr i osgoi’r cwymp.
Mae’r Nomadiaid ar rediad o naw gêm gynghrair heb golli (ennill 6, cyfartal 3) tra bod Met Caerdydd ond wedi ennill dwy o’u 12 gêm ddiwethaf.
Mae’r bedair gêm flaenorol rhwng y timau yma wedi gorffen yn gyfartal, a’r dair ddiwethaf yn ddi-sgôr.
Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ✅➖✅✅➖
Met Caerdydd: ➖❌✅❌➖
Hwlffordd (8fed) v Y Barri (11eg) | Dydd Gwener – 14:30
Mae’r Barri’n dal mewn perygl gwirioneddol o orffen yn y ddau safle isaf ar ôl methu a churo 10 dyn Cei Connah brynhawn Sadwrn.
Er hynny, dyw’r Dreigiau ond wedi colli un o’u pum gêm ddiwethaf a gyda’u gemau nesaf yn erbyn Aberystwyth a Derwyddon Cefn mae yna sicr obaith i dîm Gavin Chesterfield.
Ar ôl ennill 6-1 yn erbyn y Derwyddon ddydd Sadwrn byddai buddugoliaeth arall i Hwlffordd ddydd Gwener yn ddigon i sicrhau eu lle yn y gynghrair ar gyfer y tymor nesaf.
Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ✅➖❌❌✅
Y Barri: ➖❌✅✅➖
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.