S4C

Navigation

Dim ond pedair gêm ar ôl yn y tymor ac mae’n edrych fel mae ras dau geffyl ydi hi bellach rhwng Y Drenewydd a’r Bala am yr ail safle, tra bod dim un o glybiau’r Chwech Isaf yn ddiogel o’r cwymp. 

Mae’r Seintiau Newydd eisoes yn saff o’u lle’n Ewrop ar ôl cael eu coroni’n bencampwyr, ond mae dau docyn arall i’w ennill, ar gyfer y clwb sy’n gorffen yn ail yn y tabl, a’r clwb sy’n ennill Cwpan Cymru (neu’r clwb sy’n gorffen yn 3ydd os bydd enillwyr Cwpan Cymru eisoes wedi sicrhau lle’n Ewrop). 

 

CHWECH UCHAF 

Y Fflint (6ed) v Y Bala (3ydd) | Nos Wener – 19:45 

Bydd Y Fflint yn croesawu’r Bala i Gae-y-Castell nos Wener gan wybod bod rhaid cipio’r triphwynt os am aros yn y ras am yr ail safle. 

Byddai colled neu gêm gyfartal yn golygu y byddai’n amhosib i dîm Neil Gibson orffen yn ail, a’r trydydd safle hefyd yn debygol o fod yn rhy bell o’u gafael. 

Gyda dim ond un buddugoliaeth yn eu 10 gêm ddiwethaf bydd Y Fflint yn hynod siomedig o golli’r cyfle i chwarae’n Ewrop ar ôl perfformio mor gadarn yn rhan gynta’r tymor.  

Cafodd Y Bala bwynt gwerthfawr gartref yn erbyn Y Seintiau Newydd nos Fawrth i aros yn hafal ar bwyntiau gyda’r Drenewydd yn y ras am Ewrop. 

Bydd yr hyder yn uchel gan Hogiau’r Llyn gan fod tîm Colin Caton wedi ennill pob un o’u chwe gêm yn erbyn Y Fflint ers eu dyrchafiad yn 2020. 

Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ❌❌✅❌❌
Y Bala: ❌✅✅✅➖
 

Pen-y-bont (4ydd) v Y Seintiau Newydd (1af) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Mae Pen-y-bont wedi colli tair gêm gynghrair yn olynol am y tro cyntaf ers mis Mai 2021, ac yn anffodus i Rhys Griffiths mae’n edrych fel bod ei garfan yn rhedeg allan o stêm ar yr adeg tyngedfennol yn y tymor. 

Pe bae Pen-y-bont yn colli’r penwythnos yma, a’r Drenewydd a’r Bala yn ennill eu gemau nhw, yna byddai’n amhosib i Ben-y-bont orffen yn uwch na’r 4ydd safle. 

Mae’r dair gêm flaenorol rhwng y timau’r tymor yma wedi bod yn rhai agos tu hwnt gyda dwy o rheiny’n gorffen yn gyfartal, ond dyw’r Seintiau Newydd erioed wedi colli yn erbyn Pen-y-bont (ennill 8, cyfartal 2). 

Bydd y clybiau’n cyfarfod eto mewn tair wythnos yn rownd derfynol Cwpan Cymru JD, ac mae’n bosib mae’r gêm honno yw cyfle gorau Pen-y-bont o gyrraedd Ewrop erbyn hyn. 

Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ➖✅❌❌❌
Y Seintiau Newydd: ✅➖❌✅➖
 

Y Drenewydd (2il) v Caernarfon (5ed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Mae’r Drenewydd wedi dringo i’r ail safle ar ôl ennill pedair o’u pum gêm ddiwethaf, ac ar ôl cynrychioli Cymru yn Ewrop yr haf diwethaf mae’r Robiniaid yn ysu am gael rhoi cynnig arall arni eleni. 

Rhoddodd Caernarfon grasfa i’r Fflint nos Fawrth (Ffl 0-4 Cfon) gan gadw’r freuddwyd o gyrraedd Ewrop yn fyw i Huw Griffiths a’i griw. 

Ond mae’r Robiniaid wedi ennill eu pum gêm ddiwethaf yn erbyn y Caneris a bydd Chris Hughes yn awyddus i arwain Y Drenewydd i Ewrop am y trydydd tro ers cael ei benodi’n reolwr yn 2013. 

Record cynghrair diweddar:
Y Drenewydd: ✅❌✅✅✅
Caernarfon: ❌✅❌❌✅
 

CHWECH ISAF 

Derwyddon Cefn (12fed) v Hwlffordd (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Roedd hi’n edrych fel bod Hwlffordd yn hwylio’n braf i gyfeiriad y gemau ail gyfle, ond wedi tair gêm heb fuddugoliaeth bellach dyw’r Adar Gleision ond dau bwynt uwchben y ddau isaf. 

Gyda dim ond chwe phwynt y tymor yma mae’r Derwyddon mewn perygl o dorri record eu hunain fel y tîm gwaethaf yn holl hanes Uwch Gynghrair Cymru. 

Lido Afan sydd â’r record waethaf ers ffurfio’r 12 Disglair (15 pwynt mewn 32 gêm yn 2013/14), ond y cyfanswm isaf erioed ydi naw pwynt ac hynny gan Bae Cemaes yn 1997/98 (38 gêm) a Derwyddon Cefn yn 2009/10 (34 gêm). 

Mae Hwlffordd wedi ennill eu pedair gêm flaenorol yn erbyn y Derwyddon gyda’r fuddugoliaeth ddiweddaraf yn un swmpus o 6-1 yn Nôl-y-Bont fis diwethaf. 

Record cynghrair diweddar:
Derwyddon Cefn: ❌❌✅❌❌
Hwlffordd: ✅✅➖❌❌
 

Met Caerdydd (7fed) v Aberystwyth (9fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Roedd hi’n fuddugoliaeth anferthol i Aberystwyth oddi cartref yn Hwlffordd nos Fawrth i gadw’r Gwyrdd a’r Duon ddau bwynt uwchben Y Barri a Chei Connah yn y frwydr i osgoi’r cwymp. 

Mae Met Caerdydd wedi edrych yn ddigon cyfforddus yn y 7fed safle ers yr hollt, ond gyda dim ond pedair gêm yn weddill mae’r myfyrwyr mewn perygl o gael eu tynnu tua’r gwaelod gyda dim ond pum pwynt yn eu gwahanu nhw a safleoedd y cwymp.  

Dyw Aberystwyth ond wedi ennill un o’u naw gêm ddiwethaf yn erbyn Met Caerdydd, ac roedd hynny ar eu hymweliad diwethaf â Champws Cyncoed ym mis Tachwedd (Met 0-1 Aber). 

Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ✅➖❌✅❌
Aberystwyth: ❌❌✅❌✅
 

Y Barri (11eg) v Cei Connah (10fed) | Dydd Sadwrn – 17:15 

Mae hon yn gaddo i fod yn un o gemau mwyaf y tymor wrth i’r ddau dîm sy’n hafal ar bwyntiau frwydro am eu bywydau i aros yn yr uwch gynghrair. 

Fe ddychwelodd Y Barri i’r uwch gynghrair yn 2017, ac mae tîm Gavin Chesterfield wedi cynrychioli Cymru yn Ewrop ddwywaith ers hynny, ond mae gan y Dreigiau fynydd i’w ddringo os am osgoi’r cwymp eleni. 

Ar ôl ennill y bencampwriaeth am y ddau dymor diwethaf mae Cei Connah mewn perygl gwirioneddol o syrthio o’r gynghrair yn dilyn cosb o 18 pwynt am chwarae chwaraewr anghymwys. 

Mae’r Barri wedi ennill dwy o’u tair gêm flaenorol yn erbyn Cei Connah y tymor hwn, ond ers eu colled diwethaf yn erbyn y Dreigiau mae’r Nomadiaid wedi mynd ar rediad arbennig o wyth gêm heb golli yn y gynghrair gan gadw wyth llechen lân yn olynol (ennill 6, cyfartal 2). 

Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ❌➖❌✅✅
Cei Connah: ✅✅➖✅✅
 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?