Saith gêm ar ôl yn y tymor, a dim ond pum pwynt sy’n gwahanu’r pum clwb yn y ras am yr ail docyn i Ewrop.
CHWECH UCHAF
Y Bala (3ydd) v Caernarfon (5ed) | Nos Wener – 19:45
Yn dilyn y siom o golli ar giciau o’r smotyn yn erbyn Pen-y-bont yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru JD y penwythnos diwethaf, bydd Y Bala yn gobeithio am ymateb cadarnhaol yn erbyn y Cofis nos Wener.
Mae Caernarfon wedi ennill tair o’u pedair gêm ddiwethaf, a byddai buddugoliaeth arall yn eu gadael yn hafal ar bwyntiau gyda’r Bala.
Enillodd Y Bala yn gyfforddus yn erbyn Caernarfon ar Faes Tegid yn rhan gynta’r tymor (Bala 3-0 Cfon), cyn i’r pwyntiau gael eu rhannu mewn gêm gyffrous ar yr Oval wythnos yn ddiweddarach (Cfon 3-3 Bala).
Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ✅➖➖✅❌✅
Caernarfon: ❌➖✅✅❌✅
Y Seintiau Newydd (1af) v Y Drenewydd (4ydd) | Nos Wener – 19:45
Mae hi wedi bod yn bythefnos buddiol i’r Seintiau Newydd a seliodd y bencampwriaeth yn eu gêm gynghrair ddiwethaf cyn sicrhau eu lle yn rownd derfynol Cwpan Cymru JD brynhawn Sul trwy drechu Bae Colwyn.
Ar ôl ennill dim ond un o’u wyth gêm ddiwethaf mae’r Drenewydd wedi llithro i’r 4ydd safle, ond er hynny dyw’r Robiniaid ond dau bwynt y tu ôl i’r ddau glwb sydd uwch eu pennau yn y ras am yr ail safle.
Mae’r Seintiau Newydd wedi ennill 10 o’u 11 gêm ddiwethaf yn erbyn Y Drenewydd, ond tybed os bydd y pencampwyr yn gorffwys ar eu rhwyfo ar ôl sicrhau’r bencampwriaeth.
Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ✅✅➖✅✅➖
Y Drenewydd: ➖͏͏❌❌✅❌
Y Fflint (6ed) v Pen-y-bont (2il) | Dydd Sadwrn – 14:30
Ar ôl dechrau’r tymor ar dân dyw pethau heb fynd cystal i’r Fflint yn ddiweddar ac mae bechgyn Neil Gibson bellach ar rediad o saith gêm heb ennill (un buddugoliaeth mewn 10 gêm).
Mae’r awyrgylch yn gwbl wahanol i griw Pen-y-bont, sydd ond wedi colli un o’u 10 gêm ddiwethaf gan selio eu lle yn rownd derfynol Cwpan Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes.
Enillodd Y Fflint 3-1 gartref yn erbyn Pen-y-bont yn rhan gynta’r tymor, cyn cael gêm gyfartal 1-1 yn Stadiwm Gwydr SDM fis diwethaf.
Mae hon yn gêm fawr yn nhymor Y Fflint gan y byddai colled yn eu gadael wyth pwynt y tu ôl i Ben-y-bont yn y ras i gyrraedd Ewrop, tra byddai buddugoliaeth yn eu taflu’n syth yn ôl i’r pair.
Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ❌➖❌❌❌
Pen-y-bont: ➖➖❌➖✅
CHWECH ISAF
Aberystwyth (9fed) v Y Barri (10fed) | Nos Wener – 19:45
Mae Aberystwyth a’r Barri ar rediad o chwe gêm heb golli ac yn suddo’n sydyn tua’r gwaelodion, ac felly mae hon yn gêm dyngedfennol yn y frwydr i osgoi’r cwymp gyda’r ddau glwb mewn perygl gwirioneddol o lithro i’r 11eg safle.
Mae’r Derwyddon eisoes yn sicr o syrthio, ond Cei Connah yw’r tîm arall sydd yn y ddau isaf, clwb sy’n debygol o ddringo’r tabl cyn diwedd y tymor.
Mae Aberystwyth yn un o’r ddau glwb sydd wedi bod yn holl-bresennol yn Uwch Gynghrair Cymru ers ffurfio’r gynghrair yn 1992 (gyda’r Drenewydd) a bydd Antonio Corbisiero yn benderfynol o beidio bod y rheolwr cyntaf i yrru’r Gwyrdd a’r Duon i’r ail haen.
Fe ddychwelodd Y Barri i’r uwch gynghrair yn 2017, ac mae tîm Gavin Chesterfield wedi cynrychioli Cymru yn Ewrop ddwywaith ers hynny.
Enillodd Aberystwyth 2-1 yn erbyn Y Barri ar y penwythnos agoriadol wrth i Mathew Jones ennill y gêm yn y funud olaf gyda chic rydd fendigedig, ac 1-1 oedd y sgôr rhwng y timau ar Barc Jenner ym mis Tachwedd.
Record cynghrair diweddar:
Aberystwyth: ➖➖➖❌❌
Y Barri: ➖❌❌❌➖
Derwyddon Cefn (12fed) v Met Caerdydd (7fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Yn dilyn rhediad hunllefus o 34 gêm gynghrair heb fuddugoliaeth mae bellach yn amhosib i’r Derwyddon ddianc o’r ddau safle isaf, ac felly bydd tîm Andy Turner yn syrthio i’r ail haen ar ddiwedd y tymor.
Dyw’r myfyrwyr heb golli dim un o’u 11 gêm gynghrair ers mis Tachwedd, ond mae wyth o rheiny wedi gorffen yn gyfartal.
Fe enillodd Met Caerdydd eu dwy gêm yn erbyn y Derwyddon yn rhan gynta’r tymor (Met 4-2 Cefn, Cefn 1-3 Met), a’r myfyrwyr sydd yn y arwain y ras am y 7fed safle i gyrraedd y gemau ail gyfle ar gyfer lle yn Cwpan Her yr Alban.
Record cynghrair diweddar:
Derwyddon Cefn: ❌❌➖❌❌
Met Caerdydd: ➖➖͏➖͏✅➖
Hwlffordd (8fed) v Cei Connah (11eg) | Dydd Sadwrn – 15:00
Byddai buddugoliaeth i Gei Connah brynhawn Sadwrn yn ddigon i’w codi o’r ddau safle isaf.
Wedi’r siom o golli 18 pwynt a syrthio i’r Chwech Isaf y targed cyntaf i Craig Harrison oedd osgoi’r cwymp, ac wedi pum gêm gynghrair heb golli mae pencampwyr y llynedd ar y trywydd iawn.
Dyw Hwlffordd heb guro Cei Connah ers 2010, ond bydd yr Adar Gleision yn llawn hyder ar ôl ennill pedair gêm yn olynol yn yr uwch gynghrair am y tro cyntaf ers 2005 gan sgorio 12 gôl yn eu dwy gêm ddiwethaf (Hwl 6-1 Cefn, Aber 0-6 Hwl).
Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ➖✅✅✅✅
Cei Connah: ✅✅➖✅✅
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.