S4C

Navigation

Bydd pwynt i’r Seintiau Newydd gartref yn erbyn Pen-y-bont brynhawn Sadwrn yn ddigon i sicrhau’r bencampwriaeth am y 14eg tro yn hanes y clwb. 

 

CHWECH UCHAF

Caernarfon (6ed) v Y Drenewydd (4ydd) | Nos Wener – 19:45 

Cafodd y Cofis ganlyniad ardderchog ym Mhen-y-bont y penwythnos diwethaf gan ddod y tîm cyntaf ers mis Mai 2021 i ennill oddi cartref yn Stadiwm Gwydr SDM (Pen 0-3 Cfon). 

Mae’r fuddugoliaeth wedi taflu Caernarfon yn syth i ganol y ras am yr 2il safle a thocyn i Ewrop, gan mae dim ond triphwynt sy’n gwahanu’r pum clwb rhwng yr 2il a’r 6ed safle. 

Ar ôl methu ac ennill yn eu chwe gêm ddiwethaf bydd Y Drenewydd yn anelu am eu buddugoliaeth gyntaf yn 2022. 

Ond mae’r Robiniaid wedi ennill eu pedair gêm ddiwethaf yn erbyn y Caneris a bydd Chris Hughes yn awyddus i arwain Y Drenewydd i Ewrop am y trydydd tro ers cael ei benodi’n reolwr yn 2013. 

Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ❌❌➖✅✅
Y Drenewydd: ❌➖͏͏➖❌❌
 

Y Bala (2il) v Y Fflint (5ed) | Nos Wener – 19:45 

Am yr eildro’r tymor hwn roedd ‘na dorcalon i’r Bala yn Neuadd y Parc nos Fawrth wrth i dîm Colin Caton golli’r gêm yn y munudau olaf ar ôl bod ar y blaen am gyfnod hir yn erbyn Y Seintiau Newydd (YSN 2-1 Bala). 

Honno oedd colled gyntaf Y Bala mewn naw gêm, ers colli gartref yn erbyn Y Seintiau Newydd ‘nôl ym mis Rhagfyr. 

Er brwydro’n galed, colli’n erbyn y Seintiau oedd hanes Y Fflint yn eu gêm ddiwethaf hwythau (Ffl 1-2 YSN), gan ymestyn eu rhediad i bum gêm heb fuddugoliaeth. 

Mae’r Bala wedi ennill eu pedair gêm ddiwethaf yn erbyn Y Fflint ac mae tîm Maes Tegid yn anelu i gyrraedd Ewrop am yr wythfed tro ers 2013. 

Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ✅➖➖✅❌
Y Fflint: ➖➖❌➖❌
 

Y Seintiau Newydd (1af) v Pen-y-bont (3ydd) | Dydd Sadwrn – 12:45 

Dim ond pwynt sydd ei angen ar Y Seintiau Newydd i sicrhau’r bencampwriaeth am y tro cyntaf ers tair blynedd. 

Pe bae’r Seintiau’n croesi’r linell ddydd Sadwrn, bydd y clwb yn selio’r bencampwriaeth gyda saith gêm ar ôl i’w chwarae, fel y gwnaethon nhw yn nhymor 2016/17. 

Dyw tîm Anthony Limbrick ond wedi colli un o’u 24 gêm gynghrair y tymor hwn (Aber 1-0 YSN), gan ennill 20 o’r gemau rheiny. 

Pen-y-bont oedd y tîm cyntaf i gymryd pwyntiau oddi ar y Seintiau’r tymor hwn (Pen 1-1 YSN), ond dyw’r cewri heb ollwng pwynt yng Nghroesoswallt ers mis Ebrill 2021 (18 buddugoliaeth yn olynol yn Neuadd y Parc). 

Mae Pen-y-bont yn llygadu lle’n Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes, ond os am wneud hynny bydd angen i dîm Rhys Griffiths godi’r safon ar ôl ennill dim ond un o’u pum gêm gynghrair ddiwethaf. 

Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ✅✅➖✅✅
Pen-y-bont: ➖✅➖➖❌
 

CHWECH ISAF 

Aberystwyth (8fed) v Met Caerdydd (7fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Dau bwynt sy’n gwahanu Met Caerdydd ac Aberystwyth yn y ras am y 7fed safle, a bydd y ddau dîm yn awyddus i agor bwlch pellach rhyngddyn nhw a’r ddau isaf. 

Mae tair gêm gynghrair ddiwethaf Aberystwyth wedi gorffen yn gyfartal, tra bod saith allan o wyth gêm gynghrair ddiwethaf Met Caerdydd wedi gorffen yn gyfartal hefyd. 

Mae’r timau eisoes wedi cwrdd deirgwaith y tymor hwn gyda Met Caerdydd yn ennill ar Goedlan y Parc yn y gynghrair (0-1) ac yng Nghwpan Nathaniel MG (2-5) cyn i Aberystwyth guro’r myfyrwyr yng Nghampws Cyncoed ym mis Tachwedd (0-1). 

Record cynghrair diweddar:
Aberystwyth: ✅✅➖➖➖
Met Caerdydd: ➖➖͏➖➖͏
 

Cei Connah (11eg) v Y Barri (10fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Pe bae chi wedi dweud wrth Y Barri ar ddechrau’r tymor y bydden nhw wedi curo Cei Connah ddwywaith yn rhan gynta’r tymor, a’u bod un safle’n uwch na’r pencampwyr gyda naw gêm i’w chwarae, yna mae’n debygol y byddai Gavin Chesterfield wedi bod ar ben ei ddigon. 

Ond y gwir yw bod sefyllfa’r ddau glwb yn bryderus gan fod Cei Connah yn eistedd yn safleoedd y cwymp, chwe phwynt y tu ôl i’r Barri ar ôl derbyn 18 pwynt o gosb am dorri rheolau’r gynghrair. 

Dyw’r Barri ond wedi ennill un o’u 10 gêm ddiwethaf (cyfartal 1, colli 8), gyda’r fuddugoliaeth honno yn dod oddi cartref yn erbyn Cei Connah ym mis Ionawr. 

Dyw Cei Connah ond wedi ennill dwy o’u chwe gêm gartref ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth, ond mae angen i’r Nomadiaid ddechrau hel pwyntiau’n sydyn os am osgoi bod y trydydd tîm o Gymru i ennill y bencampwriaeth cyn syrthio o’r uwch gynghrair y tymor canlynol (Y Barri 2003-04, Y Rhyl 2009-10). 

Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ➖❌✅✅➖
Y Barri: ✅❌➖❌❌
 

Hwlffordd (9fed) v Derwyddon Cefn (12fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Wedi cyfnod hir o 10 gêm heb ennill mae Hwlffordd wedi troi’r gornel drwy ennill dwy gêm yn olynol gan godi o’r ddau isaf i’r 9fed safle. 

Ac ar ôl rhediad o 31 gêm gynghrair heb ennill roedd y Derwyddon o fewn trwch blewyn i flasu buddugoliaeth nos Wener diwethaf, ond er bod 3-1 ar y blaen yn erbyn Aberystwyth gyda llai na phum munud i’w chwarae fe orffennodd hi’n 3-3 ar y Graig, a’r rhediad hesb yn ymestyn i 32 gêm gynghrair heb ennill. 

Ebrill 10fed 2021 oedd y tro diwethaf i’r Derwyddon ennill gêm gynghrair, a’r fuddugoliaeth honno yn erbyn Hwlffordd, felly bydd tîm Andy Turner yn benderfynol o ail-adrodd y gamp o guro’r Adar Gleision gan ddod a’u rhediad gwael i ben y penwythnos yma. 

Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ➖❌➖✅✅
Derwyddon Cefn: ❌❌❌❌➖

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio. 

 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?