S4C

Navigation

 

Pedair gêm i fynd tan yr hollt ac mae’n eithriadol o dynn yn y ras am y Chwech Uchaf gyda dim ond dau bwynt yn gwahanu’r tri thîm rhwng y 5ed a’r 7fed safle. 

 

Nos Wener, 28 Ionawr 

Caernarfon (6ed) v Y Seintiau Newydd (1af) | Nos Wener – 19:45 

Ar ôl colli dim ond un o’u 21 gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth, mae’r Seintiau Newydd 14 pwynt yn glir ar frig y tabl, a nhw yw’r unig dîm sydd yn sicr o’u lle yn y Chwech Uchaf hyd yn hyn. 

Yn dilyn eu buddugoliaeth yn erbyn y Derwyddon nos Wener diwethaf mae Caernarfon wedi codi i’r 6ed safle, un pwynt uwchben Y Bala, a gyda dwy gêm nesaf y Cofis yn erbyn Y Bala mae’n gaddo i fod yn frwydr gyffrous rhwng y ddau dîm am le yn yr hanner uchaf. 

Dyw’r Seintiau heb golli dim un o’u pum gêm ddiwethaf yn erbyn Caernarfon (ennill 4, cyfartal 1), ond roedd hi’n gêm agos a llawn goliau y tro diwethaf i’r timau gwrdd (YSN 5-3 Cfon). 

Record cynghrair diweddar:

Caernarfon: ✅❌➖✅✅
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅ 

 

Hwlffordd (10fed) v Pen-y-bont (4ydd) | Nos Wener – 19:45 

Mae’r hwyliau’n uchel ym Mhen-y-bont gan fod tîm Rhys Griffiths wedi ennill wyth o’u 11 gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth ac mewn safle cryf i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf am yr ail dymor yn olynol. 

Dyw Hwlffordd heb ennill dim un o’u saith gêm ddiwethaf, a bydd eu rheolwr newydd Nicky Hayen o Wlad Belg yn gobeithio dod a’r rhediad gwael hwnnw i ben yn ei gêm gartref gyntaf wrth y llyw. 

Ond dyw’r Adar Gleision heb ennill dim un o’u saith gêm ddiwethaf yn erbyn Pen-y-bont (colli 6, cyfartal 1). 

Record cynghrair diweddar: 

Hwlffordd: ❌❌➖❌➖
Pen-y-bont: ➖✅✅❌✅
 

Y Bala (7fed) v Y Drenewydd (2il) | Nos Wener – 19:45 

Gyda dim ond pedair gêm i fynd tan yr hollt, mae’r Bala wedi llithro i’r hanner isaf ac mewn perygl o fethu a chyrraedd y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers wyth mlynedd (2013/14). 

Dyw’r Bala ond wedi ennill chwech o’u 18 gêm gynghrair y tymor hwn (33%), ond bydd Colin Caton yn ffyddiog cyn croesawu’r Robiniaid gan nad yw ei dîm wedi colli mewn chwe gêm yn erbyn Y Drenewydd (ennill 5, cyfartal 1). 

Mae bron i saith mlynedd wedi mynd heibio ers y tro diwethaf i’r Drenewydd ennill gêm gynghrair ym Maes Tegid ‘nôl ym mis Ebrill 2015 (8 gêm ers hynny – Y Bala’n ennill 6, cyfartal 2), ond bydd Chris Hughes yn ymwybodol y byddai buddugoliaeth nos Wener yn ddigon i gadarnhau lle’r Robiniaid yn y Chwech Uchaf. 

Record cynghrair diweddar: 

Y Bala: ✅❌➖✅➖
Y Drenewydd: ❌✅✅✅➖ 

 

Aberystwyth (11eg) v Derwyddon Cefn (12fed) | Nos Wener – 20:00 

Bydd y ddau dîm isa’n y tabl yn cwrdd ar Goedlan y Parc nos Wener ac mae’n gêm anferthol i Aberystwyth fydd yn ysu i godi o’r gwaelodion. 

Mae Aberystwyth yn un o’r ddau glwb sydd wedi bod yn holl-bresennol yn Uwch Gynghrair Cymru ers ffurfio’r gynghrair yn 1992 (gyda’r Drenewydd) a bydd Antonio Corbisiero yn benderfynol o beidio bod y rheolwr cyntaf i yrru’r Gwyrdd a’r Duon i’r ail haen. 

Wedi 27 gêm gynghrair heb fuddugoliaeth a dim ond dau bwynt y tymor hwn, y Derwyddon yw’r unig dîm sydd yn sicr o orffen yn yr hanner isaf eleni. 

Mae ‘na 15 pwynt yn gwahanu’r Derwyddon a diogelwch y 10fed safle, ond gallai un buddugoliaeth fod yn ddigon i roi’r hwb angenrheidiol i dîm Andy Turner er mwyn troi’r gornel. 

Mae Aberystwyth wedi ennill eu chwe gêm ddiwethaf yn erbyn y Derwyddon yn cynnwys dwy fuddugoliaeth y tymor hwn, yng Nghwpan Cymru ac yn y gynghrair. 

Record cynghrair diweddar: 

Aberystwyth: ✅❌❌➖❌
Derwyddon Cefn: ❌❌❌❌❌ 

 

Dydd Sadwrn, 29 Ionawr 

Cei Connah (5ed) v Y Barri (9fed) v | Dydd Sadwrn – 14:30 

Roedd ‘na siom i’r ddau glwb yma yng nghanol wythnos gyda Cei Connah yn ildio’n hwyr a gorfod rhannu’r pwyntiau gyda’r Fflint (1-1), a’r Barri yn colli yn erbyn Met Caerdydd (2-0). 

Mae rheolwr Y Barri, Gavin Chesterfield eisoes wedi cyfaddef bod y Chwech Uchaf allan o afael y Dreigiau, a bydd rhaid i’r Nomadiaid fod yn wyliadwrus hefyd gan eu bod yn dechrau’r penwythnos dim ond dau bwynt uwchben Caernarfon (7fed) gyda un gêm yn llai i’w chwarae. 

Mae’r Barri wedi cyrraedd y Chwech Uchaf ym mhob un o’r tri tymor diwethaf, tra bod Cei Connah wedi gorffen yn yr hanner uchaf am chwe blynedd yn olynol. 

Y Barri oedd yn fuddugol yn y gêm gyfatebol ‘nôl ym mis Medi (1-0), ond dyw’r Dreigiau heb ennill yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy ers 2002. 

Record cynghrair diweddar: 

Cei Connah: ✅➖✅❌➖ 

Y Barri: ✅❌❌❌❌ 

 

Y Fflint (3ydd) v Met Caerdydd (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Cafodd Y Fflint y dechrau perffaith i’w tymor pan enillon nhw 5-1 oddi cartref yn erbyn Met Caerdydd ar y penwythnos agoriadol a byddai triphwynt arall i dîm Neil Gibson yn selio eu lle yn y Chwech Uchaf. 

Mae’r Fflint wedi dangos eu dygnwch ers i’r tymor ail-ddechrau gan gipio triphwynt oddi cartref yn erbyn Y Barri cyn dwyn pwynt hwyr yn erbyn y pencampwyr nos Fawrth. 

Dyw Met Caerdydd ddim allan o’r ras eto, ac ar ôl rhediad o bum gem heb golli gan gadw tair llechen lân yn olynol bydd y myfyrwyr yn llawn hyder ddydd Sadwrn. 

Record cynghrair diweddar:

Y Fflint: ✅❌❌✅➖ 

Met Caerdydd: ❌✅➖͏➖✅ 

 

 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.  

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?