S4C

Navigation

Wedi pum wythnos o seibiant mae tymor Cymru Premier JD yn ail-ddechrau nos Wener gyda gêm fawr rhwng y ceffylau blaen, Y Seintiau Newydd a’r pencampwyr, Cei Connah. 

 

Nos Wener, 21 Ionawr 

Derwyddon Cefn (12fed) v Caernarfon (7fed) | Nos Wener – 19:45  

Wedi 26 gêm gynghrair heb fuddugoliaeth a dim ond dau bwynt y tymor hwn, y Derwyddon yw’r unig dîm sydd yn sicr o orffen yn yr hanner isaf eleni. 

Mae disgwyliadau uchel gan y Cofis ar ôl cyrraedd y Chwech Uchaf ym mhob tymor ers eu dyrchafiad yn 2018, ac ar ôl buddugoliaeth gampus yn erbyn Y Fflint yn eu gêm olaf cyn y Nadolig mae Caernarfon wedi cau’r bwlch i ddim ond un pwynt rhyngddyn nhw a’r Bala yn y ras am y Chwech Uchaf. 

Enillodd Caernarfon 3-0 yn y gêm gyfatebol gyda Darren Thomas, Robert Hughes a Gwion Dafydd yn rhwydo’r goliau i’r Caneris ar yr Oval ym mis Medi. 

Record cynghrair diweddar:

Derwyddon Cefn: ➖❌❌❌❌ 

Caernarfon: ❌✅❌➖✅ 

 

Pen-y-bont (4ydd) v Aberystwyth (10fed) | Nos Wener – 19:45 

Mae’r hwyliau’n uchel ym Mhen-y-bont gan fod tîm Rhys Griffiths wedi ennill saith o’u 10 gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth ac mewn safle cryf i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf am yr ail dymor yn olynol. 

Er hynny, bydd Pen-y-bont yn gweld colli eu prif sgoriwr James Waite sydd wedi ymuno â Chasnewydd, ond bydd ychwanegiad y cyn-chwaraewr rhyngwladol Shaun MacDonald yn hwb mawr i’r garfan. 

Sgoriodd James Waite ddwywaith yn y gêm gyfatebol wrth i Ben-y-bont ennill 3-0 yn Aberystwyth ‘nôl ym mis Hydref. 

Mae Aberystwyth yn un o’r ddau glwb sydd wedi bod yn holl-bresennol yn Uwch Gynghrair Cymru ers ffurfio’r gynghrair yn 1992 (gyda’r Drenewydd) a bydd Antonio Corbisiero yn benderfynol o beidio bod y rheolwr cyntaf i yrru’r Gwyrdd a’r Duon i’r ail haen. 

Record cynghrair diweddar: 

Pen-y-bont: ✅➖✅✅❌

Aberystwyth: ✅✅❌❌➖
 

Y Seintiau Newydd (1af) v Cei Connah (5ed) | Nos Wener – 19:45 

Nos Wener bydd Craig Harrison yn dychwelyd i Neuadd y Parc am y tro cyntaf ers cael ei benodi yn reolwr Cei Connah. 

Fe enillodd Craig Harrison y bencampwriaeth chwe gwaith yn ystod ei gyfnod fel rheolwr Y Seintiau Newydd (2011-17) – record arbennig gan y rheolwr mwyaf llwyddiannus erioed yn y pyramid Cymreig.  

Mae Cei Connah wedi cael adfywiad o dan arweiniad y profiadol Harrison ac mae’r Nomadiaid ar rediad o 11 gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth (ennill 8, cyfartal 3). 

Dyw Cei Connah heb ildio yn eu saith gêm gynghrair ddiwethaf, dim syndod felly mae nhw sydd â’r record amddiffynnol orau eleni (ildio 9 gôl mewn 17 gêm). 

Ond colli 0-1 bu hanes y Nomadiaid yn eu gêm gyfatebol yn erbyn Y Seintiau Newydd ym mis Hydref, sef dim ond ail gêm Craig Harrison wrth y llyw. 

Declan McManus rwydodd unig gôl y gêm o’r smotyn, a bydd prif sgoriwr y gynghrair yn gobeithio ychwanegu at ei 16 gôl y penwythnos hwn. 

Ar ôl colli dim ond un o’u 20 gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth, mae’r Seintiau Newydd 12 pwynt yn glir ar frig y tabl, a nhw yw’r unig dîm sydd yn sicr o’u lle yn y Chwech Uchaf eleni. 

Record cynghrair diweddar: 

Y Seintiau Newydd: ❌✅✅✅✅ 

Cei Connah: ✅➖✅➖✅ 

 

Dydd Sadwrn, 22 Ionawr 

Met Caerdydd (9fed) v Y Bala (6ed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Mae’r Bala chwe phwynt uwchben Met Caerdydd yn y ras am y Chwech Uchaf, ond gyda gêm wrth gefn byddai buddugoliaeth i’r myfyrwyr yn agor y drws i dîm Dr Christian Edwards i geisio cyrraedd yr hanner uchaf am y tro cyntaf ers tymor 2017/18. 

Dyw’r Bala ond wedi ennill chwech o’u 17 gêm gynghrair y tymor hwn (35%), ond bydd Colin Caton yn ffyddiog y gall ei garfan gyrraedd y Chwech Uchaf am yr wythfed tymor yn olynol. 

Di-sgôr oedd hi yn y gêm gyfatebol ym mis Awst, a dyw’r Bala heb ennill dim un o’u pedair gêm ddiwethaf oddi cartref yn erbyn Met Caerdydd (colli 3, cyfartal 1). 

Record cynghrair diweddar: 

Met Caerdydd: ❌❌❌✅➖ 

Y Bala: ➖✅❌➖✅
 

Y Barri (8fed) v Y Fflint (3ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Wedi dim ond un fuddugoliaeth mewn pum gêm mae’r Fflint wedi colli eu gafael ar yr ail safle holl-bwysig, a sicrhau lle yn y Chwech Uchaf bydd y flaenoriaeth i Neil Gibson yn eu pum gêm nesaf cyn yr hollt. 

Dyw’r Barri chwaith ond wedi ennill un mewn pump, ac mae’r Dreigiau mewn perygl o fethu a chyrraedd y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers tymor 2017/18. 

Mae’r ddwy gêm ddiwethaf rhwng y timau wedi bod yn rhai cofiadwy gyda’r Fflint yn ennill 3-2 yn gynharach y tymor hwn diolch i gôl hwyr anhygoel Ben Maher, a’r Barri yn ennill 6-3 mewn clasur arall ar Barc Jenner ym mis Rhagfyr 2020. 

Record cynghrair diweddar: 

Y Barri: ➖➖✅❌❌ 

Y Fflint: ➖❌✅❌❌ 

 

Y Drenewydd (2il) v Hwlffordd (11eg) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Ar ôl treulio’r tymor diwethaf yn yr hanner isaf mae’n edrych yn bur debygol bod Y Drenewydd wedi gwneud digon i selio eu lle yn y Chwech Uchaf eleni. 

Mae record gartref Y Drenewydd yn arbennig y tymor hwn gyda’r Robiniaid ar rediad o bum gêm heb golli ar Barc Latham (ennill 4, cyfartal 1). 

Hwlffordd enillodd y gêm gyfatebol ym mis Hydref gyda Sisay Touray yn rhwydo unig gôl y gêm i’r Adar Gleision. 

Ond dyw’r tîm o Sir Benfro heb ennill dim un o’u chwe gêm ers hynny, a bydd eu rheolwr newydd  

Nicky Hayen o Wlad Belg yn gobeithio dod a’r rhediad gwael hwnnw i ben yn ei gêm gystadleuol gyntaf wrth y llyw. 

Record cynghrair diweddar:

Y Drenewydd: ➖❌✅✅✅ 

Hwlffordd: ➖❌❌➖❌ 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?