S4C

Navigation

 

Hanner ffordd drwy’r tymor ac mae’r Seintiau Newydd 12 pwynt yn glir ar frig cynghrair y JD Cymru Premier.  

Mae’n gaddo i fod yn benwythnos allweddol yn y ras i gyrraedd Ewrop gyda 3ydd yn herio 2il ym Mharc Latham a 1af yn erbyn 4ydd yn Neuadd y Parc. 

 

Nos Wener, 17 Rhagfyr 

Caernarfon (7fed) v Aberystwyth (10fed) | Nos Wener – 19:45 

Mae Caernarfon yn dechrau’r penwythnos yn yr hanner isaf, ond mae gan y Caneris gêm wrth gefn gan i’r frwydr yn erbyn Y Fflint gael ei gohirio am yr eildro nos Fawrth. 

Er i Gaernarfon golli chwech o’u wyth gêm ddiwethaf, dim ond dau bwynt sydd rhwng y Cofis a’r Bala (6ed) yn y ras am y Chwech Uchaf.  

Ar ôl colli eu dwy gêm ddiwethaf mae Aberystwyth wedi llithro ‘nôl i drafferthion ac yn hafal ar bwyntiau gyda Hwlffordd (11eg). 

Mae Caernarfon eisoes wedi curo Aberystwyth unwaith y tymor hwn (Aber 0-1 Cfon) a dyw’r Cofis  ond wedi colli un o’u wyth gêm ddiwethaf yn erbyn y Gwyrdd a’r Duon (ennill 5, cyfartal 2). 

Record cynghrair diweddar:

Caernarfon: ❌✅❌✅❌ 

Aberystwyth: ➖✅✅❌❌
  

Derwyddon Cefn (12fed) v Y Bala (6ed) | Nos Wener – 19:45 

Wedi 25 gêm gynghrair heb fuddugoliaeth a dim ond dau bwynt y tymor hwn, mae pethau’n edrych yn ddu ar y Derwyddon. 

Mae’r Bala wedi cyrraedd y Chwech Uchaf ym mhob un o’r saith tymor diwethaf, ond ar ôl ennill dim ond un o’u saith gêm flaenorol mae criw Colin Caton mewn perygl o fethu’r nod eleni. 

Mae’r Bala wedi ennill pedair o’u wyth gêm ddiwethaf yn erbyn y Derwyddon, ond cyfartal oedd hi yn y gêm gyfatebol eleni wrth i dîm Andy Turner sicrhau eu pwynt cyntaf o’r tymor ym Maes Tegid ‘nôl ym mis Hydref (Bala 1-1 Cefn). 

Record cynghrair diweddar: 

Derwyddon Cefn: ❌➖❌❌❌ 

Y Bala: ❌➖✅❌➖
  

Met Caerdydd (9fed) v Y Barri (8fed) | Nos Wener – 19:45 

Ar Gampws Cyncoed bydd Met Caerdydd yn anelu i drechu’r Barri am y pedwerydd tro’r tymor hwn. 

Mae’r myfyrwyr eisoes wedi curo’r Barri yng Nghwpan Cymru, mewn gêm gynghrair ac yn rownd gynderfynol Cwpan Nathaniel MG y tymor yma. 

Ar ddechrau’r tymor byddai’r ddau glwb wedi targedu lle yn yr hanner uchaf, a gyda’r clybiau’n hafal ar bwyntiau, driphwynt y tu ôl i’r Bala (6ed), mae hon yn gêm dyngedfennol yn y ras am y Chwech Uchaf. 

Record cynghrair diweddar: 

Met Caerdydd: ❌❌❌✅➖ 

Y Barri: ➖➖✅❌❌ 

 

Dydd Sadwrn, 18 Rhagfyr

Cei Connah (5ed) v Hwlffordd (11eg) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Mae Cei Connah wedi cael adfywiad o dan Craig Harrison a bellach mae’r Nomadiaid ar rediad o 10 gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth (ennill 7, cyfartal 3). 

Dyw Cei Connah heb ildio yn eu chwe gêm gynghrair ddiwethaf, dim syndod felly mae nhw sydd â’r record amddiffynnol orau eleni (ildio 9 gôl mewn 16 gêm). 

Bydd hi’n gêm galed i Hwlffordd sydd heb guro Cei Connah ers 2010, ac heb ennill yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy ers 2003. 

Record cynghrair diweddar: 

Cei Connah: ✅✅➖✅➖ 

Hwlffordd: ❌➖❌❌➖ 

 

Y Drenewydd (3ydd) v Y Fflint (2il) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Nid llawer fyddai wedi proffwydo ar ddechrau’r tymor y byddai’r Drenewydd a’r Fflint yn brwydro am yr ail safle ac am le’n Ewrop. 

Mae’r ddau dîm yn hafal ar bwyntiau yn yr ail a’r trydydd safle, ond mae gan Y Fflint gêm wrth gefn i’w chwarae yn erbyn Caernarfon. 

Enillodd Y Fflint y gêm gyfatebol yn ddigon cyfforddus er iddyn nhw dreulio hanner awr ola’r gêm ddyn yn brin yn dilyn cerdyn coch Michael Wilde (Fflint 4-1 Dre). 

Ond dyw’r Fflint heb ennill gêm gynghrair oddi cartref yn erbyn Y Drenewydd ers 25 mlynedd (1995/96). 

Record cynghrair diweddar: 

Y Drenewydd: ✅➖❌✅✅ 

Y Fflint: ✅✅➖❌✅ 

 

Y Seintiau Newydd (1af) v Pen-y-bont (4ydd) | Dydd Sadwrn – 17:15 

Yn Neuadd y Parc bydd Pen-y-bont yn anelu i ddod y clwb cyntaf ers mis Ebrill i drechu’r Seintiau ar eu tomen eu hunain. 

Y Seintiau Newydd (1) a Phen-y-bont (3) ydi’r ddau dîm sydd wedi colli’r nifer lleiaf o gemau cynghrair y tymor yma, a bydd yr ymwelwyr yn llawn hyder ar ôl sgorio saith yn erbyn y Derwyddon y penwythnos diwethaf. 

Tîm Rhys Griffiths oedd y rhai cyntaf i gymryd pwynt oddi ar y Seintiau’n gynharach y tymor hwn (Pen 1-1 YSN), ond cyn hynny roedd Pen-y-bont wedi colli pob un o’u saith gêm flaenorol yn erbyn cewri Croesoswallt. 

Record cynghrair diweddar: 

Y Seintiau Newydd: ✅❌✅✅✅

Pen-y-bont: ❌✅➖✅✅ 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?