S4C

Navigation

Unwaith eto’r penwythnos yma, mi fydd y ddau uchaf a’r ddau isaf yn mynd benben yn y Cymru Premier JD. 

Nos Wener, 22 Hydref 

Y Fflint (2il) v Y Seintiau Newydd (1af) | Nos Wener – 19:45 

Bydd hi’n 1af yn erbyn 2il yng Nghae-y-Castell nos Wener wrth i’r Fflint geisio cau’r bwlch o saith pwynt sydd rhyngddyn nhw a’r unig dîm sydd heb golli gêm gynghrair y tymor hwn, sef Y Seintiau Newydd. 

 

Mae’r Fflint wedi dod yn bell ers colli 10-0 yn erbyn Y Seintiau Newydd ychydig dros flwyddyn yn ôl, a does dim amheuaeth eu bod wedi codi’r safon ar y cae y tymor hwn. 

Er hynny, mae’r Seintiau Newydd wedi ennill eu pedair gêm flaenorol yn erbyn Y Fflint gan sgorio 22 o goliau (5.5 gôl y gêm), ond dim ond 1-0 oedd hi yn y gêm gyfatebol yn gynharach y tymor yma diolch i gôl Adrian Cieslewicz. 

Record cynghrair diweddar: 

Y Fflint: ✅❌❌✅✅ 

Y Seintiau Newydd: ➖✅✅✅✅ 

 

 

Aberystwyth (10fed) v Pen-y-bont (7fed) | Nos Wener – 20:00 

Roedd Aberystwyth a Phen-y-bont yn dathlu ddydd Sadwrn ar ôl ennill ar giciau o’r smotyn yn erbyn Saltney a Chaernarfon i selio eu lle yn rownd wyth olaf Cwpan Cymru JD. 

 

Dyw Aberystwyth ond wedi sgorio mewn tair o’u naw gêm gynghrair y tymor hwn, ac mae tîm Antonio Corbisiero wedi ennill pob un o’r dair gêm hynny, gan golli’r chwe gêm arall. 

 

Mae Pen-y-bont hefyd yn hanner isa’r tabl ar ôl ennill dim ond un o’u wyth gêm oddi cartref ddiwethaf yn y gynghrair (vs Derwyddon Cefn). 

 

Yn y chwe gêm flaenorol rhwng y timau dyw Aberystwyth na Phen-y-bont erioed wedi sgorio mwy nac un gôl mewn gêm yn erbyn ei gilydd. 

Record cynghrair diweddar: 

Aberystwyth: ❌✅❌❌✅
Pen-y-bont: ➖✅➖❌✅ 

 

Dydd Sadwrn, 23 Hydref 

 

Hwlffordd (11eg) v Derwyddon Cefn (12fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

‘Nôl ym mis Ebrill fe enillodd y Derwyddon 2-1 gartref yn erbyn Hwlffordd, ond ers y fuddugoliaeth honno dyw Hogiau’r Graig ond wedi sicrhau un pwynt o’u 18 gêm gynghrair ganlynol. 

 

Dim syndod felly mae’r Derwyddon sy’n eistedd ar waelod y tabl, saith pwynt y tu ôl i’w gwrthwynebwyr, Hwlffordd. 

 

Ond mae’r perfformiadau i weld yn gwella dan arweiniad Andy Turner gan i’r Derwyddon ildio dim ond un gôl yn eu gemau diwethaf yn erbyn Aberystwyth a’r Bala, ar ôl ildio oleiaf tair gôl ym mhob un o’u chwe gêm gynghrair cyn hynny. 

 

Record cynghrair diweddar: 

Hwlffordd: ❌✅➖✅❌ 

Derwyddon Cefn: ❌❌❌➖❌ 

 

 

Met Caerdydd (6ed) v Cei Connah (9fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Dim llawer fyddai wedi rhagweld y byddai’r pencampwyr, Cei Connah yn eistedd yn y 9fed safle wedi naw gêm gynghrair, dim ond un pwynt uwchben safleoedd y cwymp. 

 

Dyma ddechrau gwaethaf Cei Connah yn yr uwch gynghrair ers 2014/15, a dyma’r tro cyntaf i’r tîm fynd ar rediad o saith gêm heb ennill mewn tymor ers 2014/15. 

 

Sgorio goliau yw prif broblem y ddau dîm yma gan bod y Nomadiaid ond wedi sgorio un gôl yn eu pum gêm gynghrair ddiwethaf, sef cic o’r smotyn yn erbyn Hwlffordd – tra bod Met Caerdydd ond wedi sgorio unwaith yn eu tair gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth, ac honno hefyd o’r smotyn yn erbyn Y Barri. 

 

Ond roedd ‘na addewid i chwarae Cei Connah nos Wener wrth iddyn nhw guro’r Fflint i selio lle yn rownd wyth olaf Cwpan Cymru ble bydd tîm Craig Harrison yn herio Bae Colwyn, sef y clwb yrrodd Met Caerdydd allan o’r gystadleuaeth ddydd Sadwrn. 

 

Ers eu dyrchafiad yn 2016, dyw Met Caerdydd heb ennill dim un o’u 14 gêm gynghrair yn erbyn Cei Connah (colli 10, cyfartal 4). 

 

Record cynghrair diweddar: 

Met Caerdydd: ✅❌✅❌✅ 

Cei Connah: ❌❌͏͏➖❌❌ 

 

 

Y Bala (4ydd) v Y Barri (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Er bod ar y blaen am ran helaeth o’r gêm roedd hi’n golled gostus i’r Bala yn erbyn Y Seintiau Newydd yn eu gêm gynghrair ddiwethaf wrth i dîm Colin Caton ildio ddwywaith yn y 10 munud olaf gan lithro o’r 2il i’r 4ydd safle. 

 

Bellach mae ‘na naw pwynt yn gwahanu’r Bala a’r ceffylau blaen, felly mae’n bosib mae cyrraedd yr 2il safle yw’r targed realistig i Hogiau’r Llyn er mwyn sicrhau lle’n Ewrop. 

 

Ond, mae ‘na lwybr arall i Ewrop yn dal ar agor i’r Bala gan i Chris Venables daro hatric yn Hwlffordd ddydd Sadwrn i sicrhau lle yn rownd wyth olaf Cwpan Cymru. 

 

Di-sgôr oedd hi yn y gêm gyfatebol rhwng y ddau dîm yma ‘nôl yms mis Awst, ond bydd Y Bala’n benderfynol o gasglu’r triphwynt ddydd Sadwrn gan bod Y Barri wedi colli pob un o’u pedair gêm ddiwethaf. 

 

Record cynghrair diweddar: 

Y Bala: ✅✅✅➖❌ 

Y Barri: ✅❌❌❌❌ 

 

Y Drenewydd (3ydd) v Caernarfon (5ed) | Dydd Sadwrn – 17:15 

Dyma ddau dîm sydd wedi cael dechrau cadarnhaol i’r tymor a bydd yn anelu i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf cyn dechrau’r ras tuag at safle Ewropeaidd. 

 

Mae’r Drenewydd a Chaernarfon allan o Gwpan Cymru, a gan fod ennill y bencampwriaeth efallai’n gam rhy bell, mae’n edrych fel mae cyrraedd yr ail safle fydd y nod i’r Robiniaid a’r Caneris. 

 

Mae’r Drenewydd wedi ennill pedair o’u pum gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth ac mae gan Chris Hughes record dda yn erbyn Caernarfon yn ddiweddar ar ôl ennill y dair gêm ddiwethaf yn erbyn y Cofis gan sgorio 12 gôl. 

 

Ar ôl colli eu dwy gêm ddiwethaf bydd Huw Griffiths yn disgwyl ymateb gan ei garfan ar Barc Latham brynhawn Sadwrn. 

 

 

Record cynghrair diweddar: 

Y Drenewydd: ❌❌✅✅✅ 

Caernarfon: ✅✅➖✅❌ 

 

 

 

Bydd uchafbwyntiau gemau’r penwythnos i’w gweld ar ein gwefannau cymdeithasol. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?