Bu dim sioc i dimau’r uwch gynghrair yng Nghwpan Cymru’r penwythnos diwethaf wrth i 12 clwb yr haen uchaf sicrhau eu lle yn y drydedd rownd. Ond mae’r sylw’n troi ‘nôl at y cynghrair y penwythnos yma a bydd Y Seintiau Newydd yn ceisio agor bwlch pellach ar y copa.
Nos Wener, 10 Medi
Caernarfon v Derwyddon Cefn | Nos Wener – 19:45
Roedd ‘na ddathlu o’r diwedd ar y Graig ddydd Sadwrn diwethaf wrth i’r Derwyddon ennill ar giciau o’r smotyn yn erbyn Hotspur Caergybi i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf ers mis Ebrill.
Wedi dweud hynny, di-sgôr oedd hi ar y chwiban olaf rhwng tîm Niall McGuinness a’r clwb sy’n 12fed yn y Cymru North, felly gall y Derwyddon deimlo ychydig yn lwcus o fod wedi osgoi sioc yn y cwpan.
Doedd dim angen lwc ar Gaernarfon wrth i’r Cofis ennill yn gyfforddus o bedair gôl i ddim yn erbyn Dinbych nos Wener.
Dim ond dwywaith enillodd y Derwyddon oddi cartre’r tymor diwethaf – yng Nghaernarfon ac yn Y Fflint.
Ond Caernarfon enillodd y gêm ddiwethaf rhwng y clybiau (Cefn 1-2 Cfon), gydag Aaron Simpson yn rhwydo ei unig gôl o’r tymor i’r Derwyddon cyn arwyddo i’r Cofis dros yr haf.
Dydd Sadwrn, 11 Medi
Pen-y-bont v Y Seintiau Newydd | Dydd Sadwrn – 14:30
Y Seintiau Newydd sy’n gosod y safon yn y gynghrair y tymor yma – wedi ennill eu pedair gêm gynghrair cyn curo Llanrwst (6-0) yn y cwpan brynhawn Sadwrn.
Aeth Pen-y-bont un yn well gan ennill 7-0 yn erbyn Gwndy dros y penwythnos, ond dyw’r canlyniadau heb fod cystal yn y gynghrair gyda tîm Rhys Griffiths yn dal i aros am eu buddugoliaeth gyntaf (cyfartal 3, colli 1).
Fydd hi’n her a hanner i Ben-y-bont sydd wedi colli pob un o’u saith gêm flaenorol yn erbyn Y Seintiau Newydd.
Y Bala v Hwlffordd | Dydd Sadwrn – 14:30
Roedd hi’n brynhawn hanesyddol i glwb Y Bala ddydd Sadwrn diwethaf wrth i dîm Colin Caton ennill 17-1 yn erbyn Brymbo, sef y fuddugoliaeth fwyaf yng Nghwpan Cymru ers tymor 1894/95.
Sgoriodd Chris Venables bum gôl i’r Bala ar ei ymddangosiad cyntaf ers ei waharddiad, a bydd yn ysu i ddechrau dringo rhestr prif sgorwyr y gynghrair a chystadlu am ei 6ed Esgid Aur.
Mae Hwlffordd ymlaen i rownd nesaf y gwpan ar ôl ennill 6-0 yn erbyn Aberhonddu, a nawr bydd yr Adar Gleision yn llygadu eu buddugoliaeth gyntaf yn y gynghrair (cyfartal 1, colli 3).
Hwlffordd oedd yr unig dîm o’r Chwech Isaf i ennill ar Faes Tegid yn rhan gynta’r tymor diwethaf gyda Jack Wilson yn sgorio’n hwyr i ddwyn y pwyntiau ym mis Hydref (Bala 1-2 Hwl).
Y Barri v Cei Connah | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae’r Barri a Chei Connah ymlaen i drydedd rownd Cwpan Cymru ar ôl curo Goetre (2-0) ac Y Rhyl 1879 (5-0) o’r drydedd a’r bedwaredd haen.
Ac er bod pencampwyr Cymru, Cei Connah yn dal heb golli gêm ddomestig y tymor yma, bydd Andy Morrison yn siomedig bod ei dîm bedwar pwynt y tu ôl i’r Seintiau Newydd wedi pedair gêm yn dilyn gemau cyfartal yn erbyn Pen-y-bont a Chaernarfon.
Ond bydd hyder y Nomadiaid yn uchel gan nad yw Cei Connah wedi colli dim un o’u 10 gêm ddiwethaf yn erbyn Y Barri (ennill 6, cyfartal 4).
Y Fflint v Y Drenewydd | Dydd Sadwrn – 14:30
Roedd system dethol y gwpan wedi gweithio o blaid y ddau glwb yma hefyd oedd yn chwarae gartref yn erbyn gwyrthwynebwyr o’r drydedd haen, gyda’r Fflint yn ennill 5-0 yn erbyn Penrhyndeudraeth, a’r Drenewydd yn curo Aberriw 6-1.
Daeth dechrau perffaith Y Fflint i ben yn eu gêm gynghrair ddiwethaf gan golli 1-0 yn erbyn y Seintiau Newydd, ac mae gan Y Drenewydd gyfle i godi uwchben tîm Neil Gibson y penwythnos hwn.
Yn eu gêm gyntaf yn ôl yn Uwch Gynghrair Cymru fe enillodd Y Fflint 1-0 gartref yn erbyn Y Drenewydd ar benwythnos agoriadol y tymor diwethaf, ond wedi hynny, y Robinaid enillodd y dair gêm ganlynol rhwng y ddau dîm.
Aberystwyth v Met Caerdydd | Dydd Sadwrn – 17:15
Wedi dechrau digon simsan i’r tymor mae Met Caerdydd bellach ar rediad o bedair gêm heb golli, yn cynnwys eu buddugoliaeth o un i ddim yn erbyn Pontardawe yng Nghwpan Cymru.
Mae Aberystwyth ar y llaw arall wedi colli tair gêm gynghrair yn olynol ar ôl buddugoliaeth gampus yn erbyn Y Barri ar y penwythnos agoriadol.
Sgoriodd Aberystwyth naw gôl yn erbyn Cwm Aber o’r bedwaredd haen ddydd Sadwrn, ond dyw’r Gwyrdd a’r Duon ond wedi ennill un o’u wyth gêm gartref yn erbyn Met Caerdydd (cyfartal 2, colli 5).
Dyw Met Caerdydd heb golli dim un o’u pum gêm ddiwethaf yn erbyn Aberystwyth (ennill 3, cyfartal 2) ac fe ddioddefodd criw Ceredigion eu colled mwyaf o’r tymor y tro diwethaf i’r timau gwrdd ym mis Ebrill (Met 5-1 Aber).
Bydd uchafbwyntiau gemau’r penwythnos i’w gweld ar ein gwefannau cymdeithasol ac ar Sgorio nos Lun am 5:30.