S4C

Navigation

Y Fflint sy’n parhau i osod y safon yn y Cymru Premier JD ar ôl ennill eu dwy gêm agoriadol gan sgorio naw o goliau. Dim syndod mae Cei Connah a’r Seintiau Newydd yw’r unig ddau glwb arall sydd â record 100% yn y gynghrair. 

Nos Wener, 27 Awst 

Caernarfon v Y Drenewydd | Nos Wener – 19:45 

13 wythnos ers i’r Drenewydd drechu Caernarfon yn rownd derfynol gemau ail gyfle Cymru Premier JD 2020/21 a bydd y clybiau’n cwrdd eto ar yr Oval y penwythnos hwn. 

Roedd Caernarfon o fewn trwch blewyn i gyrraedd Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes – ar y blaen 3-2 yn erbyn Y Drenewydd gyda 10 munud yn weddill cyn ildio tair gôl o fewn chwe munud i golli’r cyfle, a cholli’r gêm 5-3. 

A dyna oedd y sgôr terfynol y penwythnos diwethaf hefyd wrth i Gaernarfon roi gêm galed i’r Seintiau Newydd yn Neuadd y Parc, ond yn cael eu cosbi ar ôl ildio pedair gôl o giciau gosod. 

Un pwynt sydd gan y Robiniad wedi eu dwy gêm agoriadol – colli yn erbyn y Seintiau cyn cael gêm gyfartal ym Mhen-y-bont ddydd Sadwrn, felly triphwynt fydd y nod i dîm Chris Hughes ar yr Oval. 

 

Dydd Sadwrn, 28 Awst 

Derwyddon Cefn v Y Barri | Dydd Sadwrn – 14:30 

Mae’r Derwyddon druan wedi dechrau’r tymor newydd fel y gorffennon nhw’r tymor diwethaf gan golli eu dwy gêm agoriadol. 

Mae hogiau’r Graig ar rediad o 12 colled yn olynol ers mis Ebrill, ac ar ôl methu a sgorio yn eu saith gêm ddiwethaf mae’n anodd gweld y Derwyddon yn osgoi tymor hir arall tua’r gwaelodion. 

Bydd Y Barri’n ffyddiog o sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf o’r tymor ar ôl ennill chwech o’u saith gêm ddiwethaf yn erbyn y Derwyddon. 

 

Hwlffordd v Y Seintiau Newydd | Dydd Sadwrn – 14:30 

Bydd Y Seintiau Newydd yn anelu i barhau â’u dechrau perffaith oddi cartref yn erbyn Hwlffordd, sydd yn dal heb ganfod y rhwyd y tymor yma. 

Ond colli 2-1 oedd hanes y Seintiau ar eu taith ddiwethaf i Ddôl y Bont ym mis Mawrth, ac hynny ar ôl mynd ar rediad o 18 gêm heb golli yn erbyn yr Adar Gleision. 

Oni bai am Cei Connah, Hwlffordd oedd yr unig glwb i guro’r Seintiau y tymor diwethaf, ond mae’r clwb o Groesoswallt wedi edrych yn hynod beryglus yn eu dwy gêm agoriadol, yn enwedig o giciau gosod (6 o’u 9 gôl wedi dod o giciau gosod).  

 

Y Bala v Met Caerdydd | Dydd Sadwrn – 14:30 

Wedi dwy gêm gyfartal yn erbyn Pen-y-bont a’r Barri, mae’r Bala bedwar pwynt y tu ôl i’r ceffylau blaen ac angen buddugoliaeth brynhawn Sadwrn os am fygwth tua’r copa’r tymor yma. 

Yn dilyn eu gêm ddi-sgôr yn erbyn Hwlffordd nos Wener ddiwethaf, mae Met Caerdydd yn un o bedwar clwb sydd â dim ond un pwynt wedi eu dwy gêm agoriadol. 

Roedd Met Caerdydd wedi ennill tair gêm yn olynol ar Faes Tegid cyn i’r Bala eu curo’n gyfforddus o 4-1 yn eu gêm ddiwethaf gyda Chris Venables yn sgorio ddwywaith a Will Evans hefyd yn rhwydo yn erbyn ei gyn-glwb. 

 

Y Fflint v Aberystwyth | Dydd Sadwrn – 14:30 

Bydd y Fflint yn gobeithio ei gwneud hi’n dair buddugoliaeth mewn tair gêm wrth groesawu Aberystwyth i Gae-y-Castell ddydd Sadwrn. 

Ar ôl ennill gwobr ‘Chwaraewr y Tymor’ ar ddiwedd y tymor diwethaf, mae Michael Wilde wedi parhau gyda’i berfformiadau llachar gan sgorio pum gôl mewn dwy gêm i’r Fflint a chodi i’r trydydd safle yn rhestr prif sgorwyr holl hanes y gynghrair (211 gôl). 

Mae Aberystwyth wedi methu a sgorio yn eu tair gêm ddiwethaf yn erbyn Y Fflint, ond bydd y Gwyrdd a’r Duon yn ysu i fyrstio swigen y Dynion Sidan! 

 

Pen-y-bont v Cei Connah | Dydd Sadwrn – 17:15 

Mae Cei Connah yn dychwelyd i Stadiwm Gwydr SDM ble y coronwyd y Nomadiaid yn bencampwyr ar benwythnos ola’r tymor diwethaf yn dilyn buddugoliaeth o 2-0 yn erbyn tîm Rhys Griffiths. 

Pen-y-bont oedd yr unig glwb i ennill oddi cartref yng Nglannau Dyfrdwy y tymor diwethaf, ac honno oedd colled cyntaf Cei Connah gartref yn y gynghrair ers dwy flynedd (26 gêm – ennill 21, cyfartal 5). 

Cei Connah ydi’r unig dîm sy’n dal heb ildio gôl y tymor yma, ac ar ôl ennill y bencampwriaeth am y ddau dymor diwethaf mae’r Nomadiaid wedi cael y dechrau gorau posib i’w tymor newydd. 

 

Bydd uchafbwyntiau gemau’r penwythnos i’w gweld ar ein gwefannau cymdeithasol ac ar Sgorio nos Lun am 5:30. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?