S4C

Navigation

Roedd hi’n ddechrau campus i’r tymor i’r Fflint y penwythnos diwethaf gyda Michael Wilde yn sgorio ddwywaith i’w glwb newydd yn erbyn Met Caerdydd. Roedd ‘na fuddugoliaethau i Gei Connah ac i’r Seintiau Newydd hefyd ar benwythnos agoriadol y tymor newydd. 

Nos Wener, 20 Awst 

Cei Connah v Aberystwyth | Nos Wener – 19:45 

Efallai bod Cei Connah wedi colli profiad Michael Wilde yn eu llinell flaen, ond fe brofodd y capten George Horan ei fod yntau yr un mor bwysig i’r Nomadiaid gan i’r amddiffynnwr 39 oed serennu yn erbyn Derwyddon Cefn nos Wener diwethaf. 

Chwaraeodd Horan ran allweddol yn y gôl gyntaf, cyn sgorio’r ail gôl, a bu’n hynod anlwcus i beidio rhwydo un, os nad dwy arall, wrth fod yn fygythiad cyson o giciau gosod a thafliadau hir. 

Cafodd Aberystwyth y dechrau perffaith i’w tymor gan guro’r Barri am y tro cyntaf ers 2003 diolch i gic rydd hyfryd Matthew Jones yn y funud olaf. 

Dyw Cei Connah heb golli dim un o’u saith gêm ddiwethaf yn erbyn Aberystwyth (ennill 6, cyfartal 1), a dyw’r Gwyrdd a’r Duon heb ennill yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy ers Hydref 2015. 

 

Hwlffordd v Met Caerdydd | Nos Wener – 19:45 

Bydd Christian Edwards yn mynnu gwell perfformiad gan y myfyrwyr nos Wener wedi iddo ddweud ei bod hi’n edrych fel petae rhywun wedi chwistrellu ‘rubbish dust’ dros ei dîm yn eu colled o 1-5 yn erbyn Y Fflint ddydd Sadwrn. 

Doedd dim llawer o fflach yn chwarae Hwlffordd chwaith gyda’r Adar Gleision yn colli 2-0 yn erbyn Caernarfon y penwythnos diwethaf. 

Mae Met Caerdydd wedi ennill eu dwy gêm flaenorol yn erbyn Hwlffordd yn cynnwys eu buddugoliaeth swmpus o 6-1 ar Gampws Cyncoed ym mis Ebrill. 

 

Dydd Sadwrn, 21 Awst 

Pen-y-bont v Y Drenewydd | Dydd Sadwrn – 14:30 

Roedd Rhys Griffiths yn fodlon gyda pwynt yn dilyn eu gêm gyfartal yn erbyn Y Bala brynhawn Sadwrn, ac fe ddangosodd Pen-y-bont eu bod yn bwriadu cystadlu gyda’r goreuon unwaith eto eleni. 

Chafodd Y Drenewydd ddim gystal lwc wrth golli 1-4 yn erbyn Y Seintiau Newydd ar Barc Latham ddydd Sul. 

Ond mae’r Robiniaid wedi ennill eu dwy gêm ddiwethaf yn erbyn Pen-y-bont, yn cynnwys eu buddugoliaeth o 0-1 yn Stadiwm Gwydr SDM yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle ym mis Mai. 

 

Y Fflint v Derwyddon Cefn | Dydd Sadwrn – 14:30 

Efallai mae dim ond un gêm sydd wedi ei chwarae, ond teg dweud y byddai Neil Gibson wedi bod yn ddyn hapus wrth weld enw’r Fflint ar frig y tabl yr wythnos hon. 

Bydd Niall McGuinness yn dychwelyd i Gae-y-Castell am y tro cyntaf ers cael ei ddiswyddo fel rheolwr Y Fflint ‘nôl ym mis Rhagfyr, ac er mae colli oedd hanes y Derwyddon y penwythnos diwethaf, roedd McGuinness yn llawn canmoliaeth am ei chwaraewyr, roddodd gêm galed i Gei Connah ar y Graig. 

Sgoriodd Y Fflint 11 gôl mewn dwy gêm yn erbyn y Derwyddon wedi’r hollt y tymor diwethaf (FFL 5-0 CEFN, CEFN 0-6 FFL), a dim ond 38 gôl sgoriodd Y Fflint drwy’r tymor cyfan, felly daeth 34% o’u goliau cynghrair yn y ddwy gêm honno yn erbyn y Derwyddon. 

 

Y Seintiau Newydd v Caernarfon | Dydd Sadwrn – 14:30 

Ar ôl ennill eu gemau agoriadol y penwythnos diwethaf, bydd Y Seintiau Newydd a Chaernarfon yn gobeithio am driphwynt arall brynhawn Sadwrn i aros tua’r copa. 

Bydd hi’n gêm arbennig i amddiffynnwr newydd Caernarfon, Steve Evans, enillodd saith pencampwriaeth gyda’r Seintiau Newydd, cyn treulio pedair blynedd fel is-reolwr i’r clwb. 

Collodd Y Seintiau Newydd dim un o’u pedair gêm yn erbyn Caernarfon y tymor diwethaf (ennill 3, cyfartal 1), ond roedd y gêm ddi-sgôr gostus honno ar Neuadd y Parc ym mis Ebrill yn sicr yn teimlo fel colled, yn enwedig gan i’r Cofis orffen y gêm gyda dim ond naw dyn. 

 

Y Barri v Y Bala | Dydd Sadwrn – 17:15 

Chafodd y ddau dîm yma ddim y dechrau delfrydol i’r tymor wrth fethu â churo clybiau orffennodd yn îs na nhw’r tymor diwethaf. 

Cyfartal oedd hi rhwng Y Bala a Phen-y-bont, a collodd Y Barri yn erbyn Aberystwyth ar ôl ennill eu wyth gêm ddiwethaf yn erbyn y Gwyrdd a’r Duon. 

Enillodd Y Bala dair o’u pedair gêm yn erbyn Y Barri’r tymor diwethaf gyda enillydd yr Esgid Aur, Chris Venables yn rhwydo hatric mewn dwy o’r gemau rheiny. 

Ond mae’n debyg na fydd capten Y Bala, Chris Venables ar gael ddydd Sadwrn ar ôl gweld cerdyn coch ddydd Sadwrn am ymladd. 

 

Bydd uchafbwyntiau gemau’r penwythnos i’w gweld ar ein gwefannau cymdeithasol ac ar Sgorio nos Lun am 5:30. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?