S4C

Navigation

Ar gyfartaledd, mae 31 pwynt wedi bod yn ddigon i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf ers ffurfio’r fformat presennol yn 2010, ac mae’r Seintiau Newydd eisoes wedi croesi’r trothwy hwnnw, a bydd Cei Connah yn gobeithio gwneud yr un fath nos Wener.

 

Nos Wener, 27 Hydref

Cei Connah (2il) v Caernarfon (3ydd) | Nos Wener – 19:45

Sgoriodd Jordan Davies unwaith yn rhagor brynhawn Sadwrn ym muddugoliaeth Cei Connah o dair i ddim ym Mhontypridd, gan ddod yn hafal ag Aaron Williams ar frig rhestr prif sgorwyr y gynghrair (11 gôl).

Dyw Cei Connah heb golli yn eu 11 gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth (ennill 9, cyfartal 2), ac mae hogiau Neil Gibson yn hynod debygol o fod yn cystadlu am le’n Ewrop eto eleni.

Mae Caernarfon mewn safle ffafriol hefyd, yn 3ydd yn y tabl ar ôl rhoi crasfa o 5-1 i Met Caerdydd, ac yn sicr wedi cryfhau ers gorffen y tymor diwethaf dim ond bedwar pwynt uwchben safleoedd y cwymp.

Ond mae Cei Connah eisoes wedi curo Caernarfon ddwywaith y tymor hwn gan sgorio pedair gôl yn y ddwy gêm, a dyw’r Nomadiaid heb golli yn eu 13 gornest ddiwethaf yn erbyn y Caneris (ennill 10, cyfartal 3).

Record cynghrair diweddar:

Cei Connah: ✅➖͏➖✅✅

Caernarfon: ✅✅❌✅❌

 

Pen-y-bont (7fed) v Aberystwyth (12fed) | Nos Wener – 19:45

Ar ôl gohiriadau’r penwythnos diwethaf oherwydd y glaw, bydd Pen-y-bont ac Aberystwyth yn awyddus i ail-gydio ynddi nos Wener ar ôl cyfnodau caled ar y cae.

Mae Pen-y-bont wedi syrthio i’r hanner isaf am y tro cyntaf ers dwy flynedd ar ôl colli tair gêm gynghrair yn olynol gan ildio 11 gôl yn y broses.

Aberystwyth sydd ar waelod y tabl ar ôl ennill dim ond un o’u 12 gêm gynghrair hyd yma ac mae’r Gwyrdd a’r Duon mewn perygl o golli eu record fel clwb sydd wedi bod yn holl-bresennol yn Uwch Gynghrair Cymru ers 1992.

Pen-y-bont fydd y ffefrynnau ar ôl ennill eu pum gêm flaenorol yn erbyn Aberystwyth, gan sgorio cyfartaledd o dair gôl y gêm.

Record cynghrair diweddar:

Pen-y-bont: ❌❌❌✅✅

Aberystwyth: ❌➖❌✅❌

 

Dydd Sadwrn, 28 Hydref

Bae Colwyn (11eg) v Y Barri (10fed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Mae hon yn gaddo i fod yn gêm allweddol yn y frwydr i osgoi’r cwymp rhwng y ddau dîm esgynnodd i’r uwch gynghrair dros yr haf.

Dim ond un pwynt sy’n gwahanu Bae Colwyn yn safleoedd y cwymp, a’r Barri yn niogelwch y 10fed safle, ond mae gan y Gwylanod o’r gogledd ddwy gêm wrth gefn wedi’r gohiriadau diweddar.

Dyw Bae Colwyn ond wedi ennill un gêm gartre’n y gynghrair ers eu dyrchafiad (vs Aberystwyth), a dyw’r Barri ond wedi ennill un pwynt allan o 18 posib yn eu gemau oddi cartref, gyda’r pwynt hwnnw’n dod wedi gêm gyfartal yn erbyn Y Seintiau Newydd.

1-1 oedd hi’n y gêm gyfatebol ar Barc Jenner ym mis Awst gyda Tom Creamer yn sgorio gôl gyntaf Bae Colwyn yn yr uwch gynghrair gyda foli ryfeddol o’r cylch canol.

Record cynghrair diweddar:

Bae Colwyn: ͏❌➖❌❌✅

Y Barri: ❌✅❌❌❌✅

 

Pontypridd (9fed) v Met Caerdydd (6ed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Roedd Pontypridd a Met Caerdydd i fod i gyfarfod yn rownd wyth olaf Cwpan Nathaniel MG nos Fawrth ond cafodd y gêm honno ei gohirio gan swyddogion y gynghrair.

Colli bu hanes y ddau glwb dros y penwythnos, Pontypridd yn ildio tair gartref yn erbyn Cei Connah, a Met Caerdydd yn cael crasfa ar yr Oval (Cfon 5-1 Met).

Pontypridd sydd wedi sgorio’r nifer lleiaf o goliau hyd yma (4 gôl mewn 13) gyda’r tîm yn sgorio cyfartaledd siomedig o 0.3 gôl y gêm yn y gynghrair.

Mae Met Caerdydd wedi ennill eu pum gêm flaenorol yn erbyn Pontypridd, heb ildio mewn pedair, ac heb golli yn erbyn y clwb o’r Rhondda ers 2007.

Record cynghrair diweddar:

Pontypridd: ❌❌✅❌❌

Met Caerdydd: ❌✅✅➖➖

 

Y Drenewydd (4ydd) v Hwlffordd (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Daeth rhediad rhagorol Y Drenewydd i ben yn eu gêm ddiwethaf wrth i’r Robiniaid golli am y tro cyntaf ers mis Awst oddi cartref ym Met Caerdydd.

Roedd Y Drenewydd wedi ennill wyth gêm yn olynol ym mhob cystadleuaeth cyn colli 2-1 ar Gampws Cyncoed, a bydd Chris Hughes yn awyddus i gael ei dîm yn ôl ar y trywydd cywir ddydd Sadwrn.

Dyw’r Drenewydd heb golli gartref ers eu gêm gyntaf y tymor yma pan gollon nhw ar giciau o’r smotyn yn erbyn Cegidfa yng Nghwpan Nathaniel MG.

Roedd Tony Pennock yn feirniadol iawn o’i garfan yn dilyn eu colled o 2-0 yn erbyn Y Bala’r penwythnos diwethaf a bydd angen i Hwlffordd ddangos gwell cysondeb os am geisio cyrraedd y Chwech Uchaf.

Enillodd Y Drenewydd o 4-0 oddi cartref yn Hwlffordd fis diwethaf, ond yr Adar Gleision oedd yn fuddugol ar eu hymweliad diwethaf â Pharc Latham gyda tîm Tony Pennock yn curo’r Robiniaid ar giciau o’r smotyn yn rownd derfynol y gemau ail gyfle ym mis Mai gan selio eu lle’n Ewrop.

Record cynghrair diweddar:

Y Drenewydd: ❌✅✅✅✅

Hwlffordd: ❌✅❌✅➖

 

Y Seintiau Newydd (1af) v Y Bala (5ed) | Dydd Sadwrn – 17:15 (Yn fyw arlein)

Ar ôl curo Gresffordd o 9-0 yng nghanol wythnos i selio eu lle yn rownd gynderfynol Cwpan Nathaniel MG, mae’r Seintiau Newydd bellach ar rediad o 18 gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth (ennill 16, cyfartal 2).

Yn ystod y cyfnod hwnnw, Y Bala a’r Barri ydi’r unig ddau dîm i gymryd pwyntiau oddi ar y penncampwyr gyda’r gêm gyfatebol rhwng y clybiau yma’n gorffen yn ddi-sgôr ar Faes Tegid pan welodd Adrian Cieslewicz, Oliver Shannon, Ryan Valentine a Craig Harrison i gyd gardiau coch yn dilyn ffrwgwd ar ochr y cae.

Wedi pedair gêm heb golli mae’r Bala wedi dringo ‘nôl i’r 5ed safle ac yn gobeithio hawlio eu lle yn y Chwech Uchaf am y 10fed tymor yn olynol.

Ond dyw’r Seintiau Newydd heb golli dim un o’u 16 gêm flaenorol yn erbyn Y Bala (ennill 11, cyfartal 5), a dyw tîm Colin Caton erioed wedi ennill oddi cartref yn Neuadd y Parc.

Record cynghrair diweddar:

Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅

Y Bala: ✅➖✅❌❌

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 10:05.

Sgorio

Author Sgorio

More posts by Sgorio
Can't find what you're looking for?