S4C

Navigation

Y Bala v Y Seintiau Newydd | Nos Fercher – 19:45

Ar ôl cynrychioli Cymru yng Nghwpan Her yr Alban dros y penwythnos bydd Y Bala a’r Seintiau Newydd yn cyfarfod mewn gêm gynghrair ar Faes Tegid nos Fercher.

Enillodd Y Seintiau Newydd yn gyfforddus o 3-0 oddi cartref yn erbyn Hibernian B, ond colli 3-0 oedd hanes Y Bala gartref yn erbyn Queen’s Park.

Dyma’r unig ddau dîm sydd heb golli’n y gynghrair y tymor yma, ac mae’r Seintiau Newydd yn parhau ar frig y tabl gyda gêm wrth gefn.

Dyw’r Seintiau Newydd heb golli dim un o’u 15 gêm flaenorol yn erbyn Y Bala (ennill 11, cyfartal 4) ac roedd eu buddugoliaeth ddiwethaf yn un hanesyddol wrth i’r Seintiau roi crasfa o 6-0 i’r Bala yn rownd derfynol Cwpan Cymru, y fuddugoliaeth fwyaf mewn ffeinal ers 1931.

Record cynghrair diweddar:

Y Bala: ✅➖✅➖✅

Y Seintiau Newydd: ✅✅➖✅✅

Bydd uchafbwyntiau’r gêm ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?