S4C

Navigation

Mae Cwpan Her Yr Alban yn ôl am dymor arall gyda’r Seintiau Newydd a Caernarfon yn cynrychioli Cymru yn y gwpan y tro yma.

Fe ennillodd Y Seintiau yr hawl i lê yn y gwpan ar ôl ennill y Cymru Premier JD y tymor diwethaf ac fe hawliodd Y Cofis eu lle gyda buddugoliaeth yn erbyn Y Fflint ar Yr Oval mewn gêm ail gyfle ar ôl methu allan ar bêl-droed Ewropeaidd.

Raith Rovers â ennillodd y gwpan hon y tymor diwethaf gyda buddugoliaeth o dair gôl i un yn erbyn Queen of the South ond dim ond timau o’r Alban oedd yn cymeryd rhan oherwydd Covid19.

Nôs Wener, 23 Medi

Y Seintiau Newydd v Dundee FC | Nos Wener – 20:00  

Bydd Y Seintiau Newydd yn mynd i mewn i’r gêm hon yn llawn hyder ar ôl taro saith heibio Met Caerydd ar y penwythnos. Cafodd Adrian Cieslewicz dair gôl yn y gêm honno felly fydd angen i amddiffynwyr Dundee gadw llygad barcud ar yr ymosodwr nôs Wener.

Bydd record cartref Y Seintiau hefyd yn rhoi hwb mawr iddynt ar gyfer y gêm hon. Y gêm diwethaf i’r Seintiau golli yn Neuadd y Parc oedd yn ôl yn mis Mawrth yn erbyn Y Drenewydd o un gôl i ddim.

Mae Dundee yn bumed yn ail haen pêl-droed Yr Alban ar ôl saith gêm gyda dwy fuddugoliaeth yn eu pump gêm diwethaf (Colli 2, Cyfartal 1).

Dydd Sadwrn, 24 Medi

Clyde v Caernarfon Town | Dydd Sadwrn – 15:00

 

Fe ennillwyd y Cofis eu gem diwethaf yn y gynghrair gyda buddugoliaeth dda yn erbyn Hwlffordd o ddwy gôl i un.

Mae’r Cofis wedi ennill bob un o’u gemau cartref yn y Cymru Premier JD y tymor yma ond wedi cael problemau oddi cartref gyda dwy golled yn erbyn Y Drenewydd a Hwlffordd.

Stori wahanol iawn sydd o Clyde o’r drydedd haen yn Yr Alban gyda dechrau siomedig iawn i’w tymor nhw. Mae Clyde wedi ildio 13 gôl yn eu pedwar gêm diwethaf yn cynnwys colled trwm o bum gôl i ddim ar y penwythnos yn erbyn Airdrieonians.

Meilyr Williams

Author Meilyr Williams

More posts by Meilyr Williams
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?