Mae’n benwythnos trydedd rownd Cwpan Cymru JD a bydd 10 o glybiau’r uwch gynghrair ynghŷd â 22 o glybiau’r adrannau îs yn brwydro am le yn y bedwaredd rownd.
Nos Wener, 11 Tachwedd
Y Seintiau Newydd v Caernarfon | Nos Wener – 19:45
Y Seintiau Newydd yw deiliaid Cwpan Cymru ar ôl codi’r tlws am yr wythfed tro yn eu hanes y tymor diwethaf.
Ond cael a chael oedd hi i gewri Croesoswallt yn y rownd ddiwethaf gyda’r Seintiau yn gorfod dibynnu ar giciau o’r smotyn i guro’r Waun wedi i’r gêm orffen yn 1-1 wedi 90 munud.
Ers y gêm honno yn yr ail rownd mae tîm Craig Harrison wedi ennill pum gêm gynghrair yn olynol gan sgorio 17 o goliau ac ildio dim ond unwaith.
Enillodd Caernarfon yn gyfforddus yn erbyn Mynydd y Fflint yn yr ail rownd (Myn 0-4 Cfon), ac ar ôl cyrraedd y rownd gynderfynol bum gwaith yn eu hanes bydd y Cofis yn awyddus i fynd gam ymhellach eleni a sicrhau eu lle yn y rownd derfynol am y tro cyntaf erioed.
Ond dyw’r Canerîs heb ennill dim un o’u naw gêm ddiwethaf yn erbyn Y Seintiau Newydd (colli 8, cyfartal 1) a dyw’r Seintiau heb golli gêm ddomestig yn Neuadd y Parc ers mis Mawrth.
Dydd Sadwrn, 12 Tachwedd
Cei Connah v Bae Colwyn | Dydd Sadwrn – 12:45 (S4C)
Am yr ail flwyddyn yn olynol bydd Bae Colwyn o’r ail haen yn ceisio achosi sioc a gyrru Cei Connah o’r uwch gynghrair allan o Gwpan Cymru.
Llynedd fe lwyddodd Gwylanod y Bae i gyrraedd y rownd gynderfynol ar ôl curo Met Caerdydd a Chei Connah, ond bydd y Nomadiaid, enillodd y gwpan yn 2018, yn awyddus i dalu’r pwyth yn ôl eleni.
Mae Cei Connah wedi ennill pob un o’u 15 gêm gystadleuol yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy ers y golled honno yn erbyn Bae Colwyn ‘nôl ym mis Chwefror (Cei 0-2 Bae), gan ildio dim ond dwy gôl mewn 15 gêm gartref.
Mae’r Nomadiaid yn mwynhau cyfnod arbennig ar hyn o bryd, ac ar ôl buddugoliaeth o 5-0 ym Mhontypridd dros y penwythnos mae tîm Neil Gibson bellach wedi ennill 10 gêm yn olynol ym mhob cystadleuaeth.
Ond mae Bae Colwyn yn gallu brolio record hyd yn oed gwell gan bod tîm Steve Evans, sydd ar frig Cynghrair Gogledd Cymru wedi ennill eu 12 gêm ddiwethaf, ac heb golli mewn 17 gêm, ers rownd gynderfynol Cwpan Cymru y tymor diwethaf (YSN 1-0 Bae).
Yn yr ail rownd fe enillodd Cei Connah oddi cartref yn Ninbych (Din 1-5 Cei) ac fe seliodd Bae Colwyn eu lle yn y drydedd rownd gyda buddugoliaeth yn Bow Street (Bow 1-4 Bae).
Aberystwyth v Y Drenewydd | Dydd Sadwrn – 14:00
Yn narbi’r canolbarth bydd Aberystwyth a’r Drenewydd yn cyfarfod yng Nghwpan Cymru am y tro cyntaf ers rownd gynderfynol 2017/18 ble enillodd Aber o 2-1 diolch i goliau Declan Walker gan gyrraedd y ffeinal am y pedwerydd tro yn eu hanes.
Ond unwaith yn unig mae’r Gwyrdd a’r Duon wedi codi’r tlws, ac hynny yn 1900, sydd yn dal yn fwy diweddar na’r tro diwethaf i’r Drenewydd ennill y gwpan (1879 ac 1895).
Mae Aberystwyth yn lwcus o fod wedi cyrraedd y drydedd rownd yn dilyn gêm ddi-sgôr yn erbyn Pencoed o’r bedwaredd haen yn y rownd ddiwethaf, ond fe enillodd tîm Anthony Williams ar giciau o’r smotyn i osgoi embaras.
Gwnaeth Y Drenewydd yn sicr ddim dal yn ôl yn erbyn Corries Caerdydd o’r bedwaredd haen yn yr ail rownd gyda’r Robiniaid yn dinistrio’r tîm o’r adran îs gan sgorio saith gôl yn yr hanner cyntaf (Corr 1-8 Dre).
Airbus UK v Trefelin | Dydd Sadwrn – 14:00
Mae Cwpan Cymru wedi rhoi rheswm prin i Airbus gael dathlu eleni gyda’u hunig buddugoliaeth y tymor yma yn dod yn y rownd ddiwethaf yn erbyn Queen’s Park (QP 0-3 Air).
Mae Trefelin yn 10fed yng Nghynghrair De Cymru ac wedi trechu Llandrindod (5-0) ac Aberfan (1-5) i gyrraedd y drydedd rownd.
Yn 2015/16 fe lwyddodd Airbus i gyrraedd y rownd derfynol am y tro cyntaf erioed cyn colli 2-0 yn erbyn Y Seintiau Newydd ar y Cae Ras.
Cyrhaeddodd Trefelin y drydedd rownd llynedd cyn colli 4-0 gartref yn erbyn Cei Connah yn eu gêm fyw gyntaf erioed ar S4C.
Conwy v Pen-y-bont | Dydd Sadwrn – 14:00
Tymor diwethaf fe lwyddodd Pen-y-bont i gyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes, a bydd tîm Rhys Griffiths yn gobeithio ail-adrodd y gamp eleni.
Mae Pen-y-bont yn hafal ar bwyntiau â’r Bala yn y 3ydd safle yn y Cymru Premier JD ar ôl colli dim ond un o’u wyth gêm gynghrair ddiwethaf.
Wedi rhediad o bum buddugoliaeth yn olynol, yn cynnwys buddugoliaethau yng Nghwpan Cymru yn erbyn Bae Cinmel ac Y Felinheli, mae Conwy bellach wedi colli dwy gêm yn olynol gan lithro i’r 12fed safle yng Nghynghrair y Gogledd.
Hon fydd y gêm gyntaf erioed rhwng y ddau glwb, ac ar ôl curo Rhisga yn rhwydd yn y rownd ddiwethaf (Rhis 1-5 Pen) bydd y tîm o’r uwch gynghrair yn ffyddiog o allu camu ‘mlaen i’r bedwaredd rownd brynhawn Sadwrn.
Rhuthun v Pontypridd | Dydd Sadwrn – 14:00
Bydd Rhuthun, sy’n 8fed yng Nghynghrair Gogledd Cymru yn croesawu Pontypridd o’r uwch gynghrair i’r Caeau Coffa ddydd Sadwrn.
Mae Pontypridd yn yr 11eg safle yn y Cymru Premier JD, ac ar ôl colli 5-0 gartref yn erbyn Cei Connah y penwythnos diwethaf bydd tîm Andrew Stokes yn benderfynol am well perfformiad ddydd Sadwrn.
Enillodd Rhuthun o 2-0 oddi cartref yn erbyn Y Rhyl 1879 yn y rownd ddiwethaf a bydd y clwb o Sir Ddinbych yn anelu i gyrraedd y bedwaredd rownd am y tro cyntaf ers tymor 2017/18 pan gollon nhw 4-3 wedi amser ychwanegol yn erbyn Llandudno yn fyw ar S4C.
Y Bala v Y Fflint | Dydd Sadwrn – 14:00
Bydd enillwyr Cwpan Cymru 2017, Y Bala, yn croesawu enillwyr Cwpan Cymru 1954, Y Fflint, i Faes Tegid brynhawn Sadwrn mewn un o dair o gemau rhwng dau dîm o’r uwch gynghrair.
Mae’r Bala wedi ennill wyth o’u 10 gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth, gyda’r unig golled yn ystod y rhediad hwnnw yn dod yn erbyn y pencampwyr, Y Seintiau Newydd.
Ar ôl ennill eu dwy gêm agoriadol mae’r Fflint wedi stryffaglu gyda dim ond dwy fuddugoliaeth mewn 11 gêm gynghrair, a’r ddwy yn erbyn Airbus UK sydd ar waelod y tabl.
Dim ond tair blynedd sydd wedi pasio ers i’r Fflint guro’r Bala yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru 2019/20, ond ers hynny dyw tîm Colin Caton heb golli dim un o’u wyth gêm yn erbyn y Sidanwyr (ennill 7, cyfartal 1).
Sicrhaodd Y Bala eu lle yn y drydedd rownd eleni gyda buddugoliaeth gyfforddus ym Mhenarlâg (Pen 1-6 Bala), ond roedd hi’n gêm dipyn agosach rhwng Caersws a’r Fflint yn y rownd ddiwethaf (Csws 0-1 Ffl).
Gemau eraill:
Nos Wener: Penydarren v Adar Gleision Trethomas
Dydd Sadwrn: Bwcle v Prestatyn, Cegidfa v Goytre Utd, Cwmbrân Celtaidd v Caerfyrddin, Derwyddon Cefn v Llanelli, Hakin v Treffynnon, Pontardawe v Pill, Y Barri v Gresffordd, Yr Wyddgrug v Llansawel
Bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 9:30.