S4C

Navigation

Mae’n benwythnos pedwaredd rownd Cwpan Cymru JD a brynhawn Sadwrn bydd saith o glybiau’r uwch gynghrair, wyth o glybiau’r ail haen ac un tîm o’r drydedd haen yn cystadlu am le yn rownd yr wyth olaf. 

 

Dydd Sadwrn, 14 Ionawr 

 Cegidfa v Treffynnon | Dydd Sadwrn – 14:00 

 

Yn yr unig gêm rhwng dau o glybiau cynghrair y Cymru North JD, bydd Cegidfa, sy’n 8fed yn y tabl, yn croesawu’r tîm sy’n 3ydd, sef Treffynnon. 

 

Mae’r timau eisoes wedi cyfarfod yn y gynghrair y tymor yma gyda Treffynnon yn ennill 1-2 oddi cartref ar Glos Mytton ‘nôl ym mis Medi. 

 

Bydd Cegidfa yn gobeithio cyrraedd rownd yr wyth olaf am yr ail flwyddyn yn olynol, tra bydd Treffynnon yn awyddus i ail-adrodd campau 2013/14 pan lwyddon nhw i gyrraedd y rownd gynderfynol cyn colli yn erbyn Aberystwyth.  

 

Mae Cegidfa wedi curo Penycae a Goytre Utd i gyrraedd y bedwaredd rownd eleni, tra bod Treffynnon ar rediad arbennig o 11 buddugoliaeth yn olynol ym mhob cystadleuaeth sy’n cynnwys eu buddugoliaethau yn erbyn Llanuwchllyn a Hakin Utd yng Nghwpan Cymru. 

 

 Cwmbrân Celtaidd v Penydarren | Dydd Sadwrn – 14:00 

 

Penydarren yw’r unig glwb o’r drydedd haen sydd wedi llwyddo i gyrraedd y bedwaredd rownd eleni, ac mi fydd y tîm o gynghrair Ardal De Ddwyrain Cymru yn anelu i achosi sioc ar Barc Celtaidd yn erbyn y clwb o’r ail haen. 

 

Mae Penydarren eisoes wedi trechu Ynyshir a Phrifysgol Abertawe o’r ail haen yng Nghwpan Cymru y tymor hwn, yn osgystal â churo Clwb Sparta, Pontyclun ac Adar Gleision Trethomas. 

 

Chwaraeodd Penydarren yn erbyn Bangor yn rownd yr wyth olaf ‘nôl yn 2018, ac hynny pan oedd y clwb yn y bumed haen, ac mae’r clwb yn amlwg wedi mynd o nerth i nerth gan sicrhau dau ddyrchafiad ers y golled honno o 7-0 yn Nantporth. 

 

Mae Cwmbrân Celtaidd wedi goresgyn yn erbyn tri o glybiau Cynghrair y De – Rhydaman, Llanilltud Fawr a Chaerfyrddin i gyrraedd y bedwaredd rownd, a’r nod bellach fydd hawlio lle yn rownd yr wyth olaf am y tro cyntaf ers tymor 2015/16. 

 

Penydarren oedd y clwb diwethaf i guro Cwmbrân Celtaidd yng Nghwpan Cymru, ac hynny yn y rownd gyntaf y tymor diwethaf (Pen 1-0 Cwm), felly bydd y tîm o’r drydedd haen yn ofni dim cyn teithio i Barc Celtaidd brynhawn Sadwrn. 

 

Gresffordd v Pen-y-bont | Dydd Sadwrn – 14:00 

 

Ar ôl cyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes y tymor diwethaf, bydd Pen-y-bont yn gobeithio mynd gam ymhellach eleni a chodi’r tlws. 

Mae bechgyn Rhys Griffiths wedi ennill saith o’u wyth gêm ddiwethaf yng Nghwpan Cymru gyda’r unig golled yn dod yn erbyn Y Seintiau Newydd yn y rownd derfynol llynedd (Pen 2-3 YSN). 

Mae Gresffordd wedi curo Llanidloes, Llanrug a’r Barri i sicrhau eu lle yn y bedwaredd rownd am y tro cyntaf ers tymor 2014/15. 

Wedi dechrau araf i’r tymor mae’r clwb o ardal Wrecsam bellach yn 11eg yng Nghynghrair y Gogledd ar ôl ennill tair o’u pedair gêm ddiwethaf.  

Ond bydd Pen-y-bont, sy’n 4ydd yn yr uwch gynghrair yn wrthwynebwyr styfnig gan eu bod wedi cadw saith llechen lân yn eu 10 gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth. 

Hon fydd trydedd gêm oddi cartref Pen-y-bont yn y gwpan y tymor yma yn dilyn eu buddugoliaethau cyfforddus yn Rhisga a Chonwy yn yr ail a’r drydedd rownd. 

 

 Llansawel v Bwcle | Dydd Sadwrn – 14:00 

 

Bydd hi’n frwydr ddiddorol ar Hen Heol Llansawel rhwng y tîm sy’n 2il yng nghynghrair y Cymru South JD a’r tîm sy’n 5ed yn y Cymru North JD. 

 

Mae Llansawel wedi ennill naw o’u 11 gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth ac yn cadw’r pwysau ar Y Barri yn y ras am y bencampwriaeth yn y de. 

 

Mae Bwcle hefyd wedi perfformio’n gadarn yn ddiweddar gan ennill saith o’u naw gêm ddiwethaf, a churo Llandudno Albion a Phrestatyn i gyrraedd pedwaredd rownd Cwpan Cymru am yr ail dymor yn olynol. 

 

Ar ôl trechu Croesyceiliog, a chymodogion Bwcle, Yr Wyddgrug, mae Llansawel wedi llwyddo i gyrraedd y bedwaredd rownd am y tro cyntaf ers i’r clwb gael ei ffurfio yn 2009. 

 

 Pontardawe v Airbus UK | Dydd Sadwrn – 14:00 

 

Mae Cwpan Cymru wedi rhoi rheswm prin i Airbus gael dathlu eleni gyda’u hunig buddugoliaethau y tymor yma yn dod yn y gystadleuaeth hon yn erbyn Queen’s Park a Threfelin. 

 

Ond ar ôl trechu Dreigiau Baglan, Cambrian a Clydach a Pîl, tybed os all Pontardawe achosi sioc ar Barc Ynysderw a gyrru’r clwb sydd ar waelod yr uwch gynghrair allan o’r cwpan. 

 

Yn 2015/16 fe lwyddodd Airbus i gyrraedd y rownd derfynol am y tro cyntaf erioed cyn colli 2-0 yn erbyn Y Seintiau Newydd ar y Cae Ras. 

 

Fe gyrhaeddodd Pontardawe y bedwaredd rownd yn 2019/20 cyn colli 2-0 yn erbyn Derwyddon Cefn, a sgoriwr y ddwy gôl i’r Derwyddon y diwrnod hwnnw oedd neb llai na rheolwr presennol Airbus, Jamie Reed.  

 

 Y Bala v Pontypridd | Dydd Sadwrn – 14:00 

 

Am y trydydd tro mewn 11 diwrnod bydd Y Bala yn wynebu Pontypridd gyda’r ddau glwb yn ysu i gael camu ymlaen i rownd wyth olaf Cwpan Cymru JD. 

 

Enillodd Pontypridd o 2-1 yn erbyn Y Bala mewn gêm gynghrair ar y 3ydd o Ionawr, ond bedwar diwrnod yn ddiweddarach criw Colin Caton oedd yn dathlu ar ôl ennill 3-0 ar Faes Tegid yn y gêm gyfatebol. 

 

Mae’r Bala wedi chwarae eto ers yr ornest honno mewn gêm ddi-sgôr yn erbyn Cei Connah nos Fawrth, ac mae eu record gartref yn rhagorol gyda 10 buddugoliaeth a 10 llechen lân yn eu 13 gêm ddiwethaf ar Faes Tegid ym mhob cystadleuaeth. 

 

Ar 30 Ebrill 2017, fe sicrhaodd Y Bala eu buddugoliaeth orau erioed gan drechu’r Seintiau Newydd o 2-1 yn rownd derfynol Cwpan Cymru yn Nantporth, Bangor gan godi’r tlws am yr unig dro yn eu hanes. 

 

Kieran Smith sgoriodd y ddwy gôl i’r Bala ar y diwrnod hanesyddol hwnnw, a gan i Smith sgorio dwy gôl mewn dwy gêm yn erbyn Pontypridd yr wythnos diwethaf mi fydd y chwaraewr canol-cae yn un i’i wylio ddydd Sadwrn. 

 

Mae’r Bala wedi curo Penarlâg a’r Fflint yn y gwpan y tymor yma, ac ar ôl gyrru Pontypridd allan o’r gystadleuaeth y tymor diwethaf, bydd Hogiau’r Llyn yn awyddus i ail-adrodd hynny ddydd Sadwrn. 

 

Mae Pontypridd wedi trechu Casgwent a Rhuthun i ddod cyn belled yn y gystadleuaeth, a bydd Andrew Stokes yn benderfynol o arwain ei dîm i rownd yr wyth olaf am y tro cyntaf ers 1996. 

 

 Y Seintiau Newydd v Y Drenewydd | Dydd Sadwrn – 14:00  

 

Am y pumed tro mewn wyth tymor bydd Y Drenewydd yn gorfod wynebu cewri Croesoswallt yng Nghwpan Cymru. 

 

A’r Seintiau Newydd sydd wedi bod yn fuddugol yn y bedair gêm gwpan flaenorol rhwng y clybiau, yn gyrru’r Robiniaid allan o’r gystadleuaeth yn 2019/20, 2016/17, 2015/16 ac yn eu curo yn y rownd derfynol yn 2014/15. 

 

Y Seintiau Newydd yw deiliaid presennol Cwpan Cymru ar ôl codi’r tlws am yr wythfed tro yn eu hanes y tymor diwethaf yn dilyn y fuddugoliaeth yn erbyn Pen-y-bont yn Stadiwm Dinas Caerdydd.  

 

Mae’r Robiniaid wedi ennill y gwpan ar ddau achlysur, ond mae canrif a chwarter wedi pasio ers i’r tlws ddod i’r Drenewydd (1879 ac 1895). 

 

Mae’r clybiau wedi cyfarfod ddwywaith y tymor hwn gyda’r Seintiau Newydd yn ennill 4-1 yn Neuadd y Parc ym mis Medi ar ôl gêm ddi-sgôr ym Mharc Latham ar ddechrau’r tymor. 

 

Ers y golled o 0-3 yn erbyn Dundee yng Nghwpan Her yr Alban ym mis Medi, dyw’r Seintiau Newydd heb golli mewn 17 o gemau ym mhob cystadleuaeth (ennill 15, cyfartal 2), yn cynnwys eu buddugoliaethau yn erbyn Y Waun a Chaernarfon yng Nghwpan Cymru. 

 

Ond mae’r Drenewydd yn mwynhau cyfnod llewyrchus hefyd, ac ond wedi colli un o’u 10 gêm ddiwethaf (ennill 8, cyfartal 1) gan drechu Corries Caerdydd ac Aberystwyth i gyrraedd pedwaredd rownd Cwpan Cymru. 

 

 Llanelli v Cei Connah | Dydd Sadwrn – 17:15 (S4C) 

 

Ar Barc Stebonheath bydd enillwyr Cwpan Cymru 2011, Llanelli yn ceisio achosi sioc yn erbyn enillwyr Cwpan Cymru 2018, Cei Connah. 

 

Mae’r Nomadiaid wedi curo Dinbych a Bae Colwyn yn y gystadleuaeth eleni ac yn anelu i gyrraedd rownd yr wyth olaf am yr wythfed tymor yn olynol. 

 

Mae Cei Connah ar rediad anhygoel o 20 gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth (ennill 15, cyfartal 5), a gyda rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG i ddod cyn diwedd y mis mae cyfle gwirioneddol i Neil Gibson gael ei ddwylo ar dlws neu ddau yn ei dymor cyntaf wrth y llyw i’r Nomadiaid. 

 

Ar ôl ennill chwech o’u saith gêm ddiwethaf mae Llanelli yn 3ydd yng Nghynghrair y De, ac wedi cyrraedd pedwaredd rownd y gwpan drwy drechu Goytre, Canton Liberal a Derwyddon Cefn. 

 

Dyw’r clybiau heb gyfarfod ers tymor 2018/19 pan sgoriodd Cei Connah 13 o goliau dros ddwy gêm yn erbyn Llanelli (Cei 6-0 Llan, Llan 0-7 Cei), gyda’r Cochion yn gorffen y tymor ar waelod yr uwch gynghrair gan syrthio i’r ail haen. 

 

 Bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 10:00. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?