Nos Fercher, 30 Hydref
Cei Connah (9fed) v Y Seintiau Newydd (3ydd) | Nos Fercher – 19:45
Gyda tair gêm wrth gefn, fe all Y Seintiau Newydd ddringo i’r ail safle pe bae nhw’n curo Cei Connah nos Fercher.
Dyw pethau heb fynd yn berffaith i’r pencampwyr ar ddechrau’r tymor, ond ar ôl rhediad o bum buddugoliaeth yn olynol ym mhob cystadleuaeth mae’n ymddangos fel bod cyfnod sigledig y Seintiau wedi dod i ben.
Mae Cei Connah yn dal i fod yn y 9fed safle, ond dyw’r Nomadiaid heb golli yn eu pedair gêm gynghrair ddiwethaf gan ildio dim ond unwaith yn ystod y rhediad hwnnw.
Hon fydd y gêm gyntaf rhwng y clybiau ers i Gei Connah guro’r Seintiau Newydd o 2-1 yng Nghasnewydd yn rownd derfynol Cwpan Cymru JD 2023/24.
Ond dyw’r Nomadiaid heb guro’r Seintiau Newydd mewn gêm gynghrair ers Ebrill 2021 gyda’r Seintiau’n ennill wyth a chael tair gêm gyfartal yn yr 11 gornest ddiwethaf rhwng y timau yn y Cymru Premier JD.
Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ͏❌✅➖➖✅
Y Seintiau Newydd: ✅❌✅✅✅
Bydd uchafbwyntiau’r gêm ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.