Cei Connah (8fed) v Y Bala (7fed) | Nos Wener – 19:45
Mae’r ddrama’n parhau yn y ras am y Chwech Uchaf, a bron i wythnos ers yr oedd y gynghrair i fod i hollti yn wreiddiol rydyn ni’n dal i aros i weld pwy fydd yn cyrraedd yr hanner uchaf ar gyfer ail ran y tymor.
Ar ôl sawl gohiriad yn Y Bala gan bod cae Maes Tegid wedi rhewi fe gafodd rhan gynta’r tymor ei ymestyn at nos Fawrth, ac ar y noson olaf cyn yr hollt bu rhaid gohirio’r ornest dyngedfennol rhwng Cei Connah a’r Bala oherwydd y niwl trwchus ar Gae-y-Castell.
Roedd awr o’r gêm wedi ei chwarae pan ddaeth y penderfyniad terfynol i ohirio’r gêm yn llwyr gyda Cei Connah 3-0 ar y blaen bryd hynny diolch i ddwy gôl arbennig gan Rhys Hughes a gôl i’w rwyd ei hun gan Nathan Peate.
Ar ôl cyfarfod fore Mercher daeth datganiad gan Fwrdd y Gynghrair yn cyhoeddi bod rhaid ail-chwarae’r gêm yn gyfan, ac hynny nos Wener yma.
Yn sgîl hynny mae clwb Cei Connah wedi rhyddhau datganiad yn nodi bod nifer o’u tîm cyntaf am fod yn absennol y penwythnos hwn gan eu bod wedi trefnu gwyliau ymlaen llaw, a bydd y Nomadiaid yn gorfod chwarae nifer o’u chwaraewyr ieuenctid yn eu lle.
Dyw hyn ddim yn newyddion da i’r Barri gan yr oedden nhw yn credu eu bod nhw wedi gwneud digon i gyrraedd y Chwech Uchaf trwy gael gêm gyfartal yn erbyn Hwlffordd nos Fawrth.
Ond bellach byddai pwynt i’r Bala nos Wener yn eu codi uwchben Y Barri ac yn sicrhau eu lle yn y Chwech Uchaf, tra ei bod hi’n amhosib i Gei Connah gyrraedd y nod gan fod Y Barri bedwar pwynt uwch eu pennau.
Mae Cei Connah wedi gorffen yn y ddau safle uchaf mewn pump o’r chwe tymor diwethaf (colli 18pt yn nhymor 2021/22), ond ar ôl canlyniadau nos Fawrth mae’r Nomadiaid wedi methu a chyrraedd y Chwech Uchaf eleni.
Gorffennodd Cei Connah yn 9fed yn nhymor 2021/22 ar ôl derbyn 18 pwynt o gosb am chwarae chwaraewr anghymwys, ond oni bai am hynny mae’r Nomadiaid wedi cyrraedd y Chwech Uchaf ar bob achlysur ers gorffen yn 7fed yn 2014/15.
Mae’r Bala wedi sicrhau lle’n y Chwech Uchaf am 10 tymor yn olynol, ac fel Cei Connah mae’r clwb wedi cystadlu’n gyson yn Ewrop dros y degawd diwethaf.
Mae’r gemau diweddar rhwng y ddau glwb yma wedi bod yn rhai tynn tu hwnt gyda nifer fach iawn o goliau’n cael eu sgorio.
Mae’r ddwy ornest ddiwethaf rhwng y timau wedi gorffen yn ddi-sgôr, ac wrth edrych ‘nôl at ddechrau’r tymor diwethaf mae cyfartaledd isel o 0.8 gôl wedi cael ei sgorio yn y chwe gêm flaenorol rhwng y ddau glwb (Bala 0-0 Cei, Cei 0-0 Bala, Cei 1-0 Bala, Bala 1-0 Cei, Cei 1-1 Bala, Bala 1-0 Cei).
Bydd y gynghrair yn cael ei hollti’n ddwy ar ddiwedd y noson ac am weddill y tymor bydd y Chwech Uchaf yn cystadlu am y bencampwriaeth, ac yn paratoi am y gemau ail gyfle i gyrraedd Ewrop.
Bydd clybiau’r Chwech Isaf yn brwydro i aros yn y gynghrair, ac yn anelu am y 7fed safle er mwyn cipio’r tocyn olaf yn y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor.
Mae’r Seintiau Newydd, Pen-y-bont, Hwlffordd, Caernarfon a Met Caerdydd wedi cadarnhau eu lle yn y Chwech Uchaf, ond ai’r Barri yntau’r Bala fydd yn ymuno â nhw?
Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ͏✅➖✅❌❌
Y Bala: ➖✅✅➖❌
Bydd uchafbwyntiau’r gêm ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.