S4C

Navigation

Bydd yr ornest rhwng Cei Connah a’r Bala yn cael ei chwarae nos Fawrth yma wedi i’r gêm wreiddiol gael ei gohirio fis diwethaf oherwydd trafferthion gyda pibell ddŵr yn Sir y Fflint. 

Nos Fawrth, 2 Medi 

Cei Connah (6ed) v Y Bala (5ed) | Nos Fawrth – 19:45 

Wedi dechrau’r tymor ychydig yn araf, mae Cei Connah wedi dringo i’r hanner uchaf ar ôl dwy fuddugoliaeth yn olynol yn erbyn Y Fflint a Pen-y-bont. 

Er i rai amau y byddai’r Bala’n stryffaglu eleni yn dilyn ymadawiad Colin Caton, mae Hogiau’r Llyn yn eistedd yn y 5ed safle gyda gêm wrth gefn. 

Tîm Steve Fisher sydd â’r record amddiffynnol orau’n y gynghrair (ildio 0.75 gôl y gêm), ond tydyn nhw heb fod yn sgorio llawer chwaith (3 gôl mewn 4 gêm).  

Roedd y gêm hon i fod i gael ei chwarae’n wreiddiol ar nos Wener, 15 Awst, ond gohirwyd yr ornest gan fod pibell ddŵr wedi byrstio yn Sir y Fflint, a bod dim dŵr ar gael ar Gae y Castell. 

Cafwyd gemau dadleuol rhwng y timau yma’r tymor diwethaf yn y cyfnod cyn yr hollt, ac hynny’n bennaf oherwydd y tywydd. 

Roedd Cei Connah yn curo’r Bala o 3-0 yng Nghae y Castell ar y penwythnos olaf cyn yr hollt, ond bu rhaid gohirio’r gêm wedi awr o chwarae oherwydd niwl trwchus. 

Ail-chwaraewyd yr ornest dridiau yn ddiweddarach, ac fe enillodd Y Bala o 2-0 gan gipio’r safle olaf yn y Chwech Uchaf ar draul Y Barri. 

Mae hynny’n golygu nad yw Cei Connah wedi sgorio yn eu tair gêm swyddogol ddiwethaf yn erbyn Y Bala, a dyw’r Nomadiaid heb ennill dim un o’r chwe gêm gynghrair ddiwethaf rhwng y clybiau (cyfartal 3, colli 3). 

Mae gan y ddau record hafal yn y gynghrair, a byddai buddugoliaeth i’r naill dîm neu’r llall yn eu codi i’r ail safle, dim ond pwynt y tu ôl i’r ceffylau blaen, Caernarfon 

 

Record cynghrair diweddar:  

Cei Connah: ➖❌✅✅ 

Y Bala: ➖✅❌✅ 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?