S4C

Navigation

Gemau mawr yng nghanol wythnos yn Uwch Gynghrair Cymru yn cynnwys yr ornest rhwng y ceffylau blaen, Y Seintiau Newydd a Chei Connah yn fyw ar Facebook a Youtube nos Fawrth am 19:45.

Nos Fawrth, 13 Hydref

Y Seintiau Newydd v Cei Connah | Nos Fawrth – 19:45

Gêm allweddol yn y ras am y bencampwriaeth rhwng y ddau dîm sydd wedi gosod y safon dros y tymhorau diwethaf.

Y pencampwyr Cei Connah sy’n arwain y pac ar ôl ennill chwe gêm gynghrair yn olynol am y tro cyntaf erioed yn yr uwch adran.

Cei Connah oedd yn fuddugol yn y gêm ddiwethaf rhwng y timau – Craig Curran yn sgorio unig gôl y gêm yn y gwynt ar Lannau Dyfrdwy ac mae’n bosib dadlau mae hon oedd y gôl enillodd y Bencampwriaeth i’r Nomadiaid.

Ond dyw’r Nomadiaid heb gael llawer o lwc yn Neuadd y Parc dros y blynyddoedd gan nad yw Cei Connah heb ennill oddi cartref yn erbyn y Seintiau Newydd ers 25 mlynedd (Hydref 1995).

Record Cei Connah dan Andy Morrison yn Neuadd y Parc – Chwarae 8: Ennill 0, Cyfartal 1, Colli 7 – Sgorio 2, Ildio 16.

Mae’r Seintiau Newydd yn benderfynol i adennill tlws y cynghrair ac ar ôl ennill eu chwe gêm agoriadol gan sgorio 25 gôl a pheidio ildio unwaith mae tîm Scott Ruscoe yn sicr ar y trywydd cywir.

Record cynghrair diweddar:

Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅

Cei Connah: ✅✅✅✅✅

Nos Fercher, 14 Hydref

Y Bala v Y Barri | Nos Fercher – 19:45

Mae’r Bala dair gêm ar ei hôl hi yn Uwch Gynghrair Cymru yn dilyn gohiriadau ond ar ôl taro pump yn erbyn Aberystwyth nos Sadwrn mae Colin Caton yn benderfynol o gau’r bwlch ar y ceffylau blaen.

Fel Y Bala, dyw’r Barri ond wedi colli unwaith y tymor hwn ac mae tîm Gavin Chesterfield yn dynn ar sodlau’r ddau uchaf.

Mae’r ddwy gêm ddiwethaf rhwng y timau wedi gorffen yn gyfartal, ond mae gan Y Barri record dda ym Maes Tegid ac heb golli dim un o’u tair gêm ddiwethaf yno (ennill 2, cyfartal 1).

Record cynghrair diweddar:

Y Bala: ➖✅✅❌✅

Y Barri: ✅✅✅✅✅

Bydd uchafbwyntiau’r gemau i’w gweld ar gyfryngau cymdeithasol Sgorio brynhawn Iau.

Sion Richards

Author Sion Richards

More posts by Sion Richards
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?