Caernarfon (5ed) v Y Seintiau Newydd (1af) | Nos Fawrth – 19:45
Yn dilyn eu buddugoliaeth gyfforddus o 4-0 yn erbyn Pen-y-bont ddydd Sadwrn, mae’r Seintiau Newydd wedi torri chwe phwynt yn glir ar frig y tabl, a byddai ennill eu gêm wrth gefn yn erbyn Caernarfon nos Fawrth yn rhoi tîm Craig Harrison mewn safle hynod o gryf i gipio’r bencampwriaeth am y pedwerydd tymor o’r bron.
Ers cael eu gyrru allan o Ewrop ym mis Rhagfyr mae’r Seintiau Newydd wedi ennill saith gêm gynghrair yn olynol gyda’r blaenwr Aradime Oteh yn rhwydo yn eu pedair gêm ddiwethaf.
Oteh yw cydradd brif sgoriwr y gynghrair bellach gydag 11 o goliau, yn hafal â Louis Lloyd o Gaernarfon, sydd wedi sgorio yn ei dair gêm ddiwethaf yn erbyn Y Seintiau Newydd.
Collodd Caernarfon o 5-2 gartref yn erbyn y Seintiau ar ddydd San Steffan, ond ers hynny mae’r Cofis wedi mynd ar rediad addawol o bedair gêm heb golli (ennill 3, cyfartal 1).
Ond mi fydd hi’n her i Gaernarfon sydd wedi colli eu ymosodwr, Zack Clarke sydd wedi arwyddo i’r Seintiau Newydd ar ôl sgorio wyth a chreu tair gôl i’r Caneris yn rhan gynta’r tymor.
Bydd y Cofis ddim yn dal dîg gyda chewri Croesoswallt gan eu bod wedi cael benthyg tri o’u chwaraewyr am weddill y tymor, sef Blaine Hudson, Josh Lock a Jake Canavan, ond ni fydd y tri ar gael i chwarae yn erbyn y Seintiau nos Fawrth.
Y Seintiau Newydd sydd ar frig y tabl gydag wyth gêm ar ôl i’w chwarae, ond mae criw Croesoswallt wedi colli pum gêm gynghrair yn barod y tymor hwn, sef y nifer fwyaf iddyn nhw ei golli ers tymor 2019/20 pan orffennon nhw’n 2il y tu ôl i Gei Connah.
Caernarfon oedd un o’r clybiau i’w curo yn rhan gynta’r tymor, yn ennill o 2-1 yn Neuadd y Parc ym mis Hydref, ond fe dalodd y pencampwyr y pwyth yn ôl ar ddydd San Steffan gan ennill o 5-2 ar yr Oval gyda Jack Bodenham a Ben Clark yn taro ddwywaith yr un i’r Seintiau.
Hydref 2019 oedd y tro diwethaf i’r Caneris ennill gartref yn erbyn y Seintiau, ac ers hynny mae’r pencampwyr wedi ennill wyth gêm yn olynol ar yr Oval.
Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ❌✅✅✅➖
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅
Bydd uchafbwyntiau’r gêm ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.