S4C

Navigation

Bae Colwyn (11eg) v Pen-y-bont (7fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Yn yr unig gêm gynghrair y penwythnos hwn bydd Bae Colwyn yn croesawu Pen-y-bont mewn gêm sydd wedi cael ei hail-threfnu wedi i’r ornest wreiddiol gael ei gohirio ar 21 Hydref oherwydd y glaw trwm. 

 

Er gwaethaf eu buddugoliaeth o 3-0 oddi cartref ym Mhontypridd brynhawn Sadwrn diwethaf, mae Bae Colwyn yn dal yn gyfartal ar bwyntiau gydag Aberystwyth ar waelod y tabl. 

 

Roedd y Gwylanod wedi mynd ar rediad o saith gêm gynghrair heb ennill cyn curo Pontypridd yn gyfforddus, a byddai triphwynt arall y penwythnos hwn yn codi tîm Steve Evans o’r ddau isaf. 

 

Wrth i hanner cynta’r tymor ddod i ben, byddai Pen-y-bont ddim wedi disgwyl bod yn hanner isa’r tabl, ond byddai triphwynt iddyn nhw ddydd Sadwrn yn eu codi i’r Chwech Uchaf gyda chwe gêm i fynd tan yr hollt.  

 

Mae blaenwr 38 mlwydd oed Pen-y-bont, Chris Venables wedi sgorio 11 gôl mewn 13 ymddangosiad yn y gynghrair ers ymuno â’i glwb newydd, a byddai gôl arall yn ei roi’n hafal ag Aaron Williams (Y Drenewydd) ar frig rhestr prif sgorwyr y gynghrair. 

 

Mae Venables wedi sgorio gôl gynghrair yn erbyn bob un o clybiau presennol Uwch Gynghrair Cymru yn ystod ei yrfa, oni bai am Bae Colwyn, a bydd yntau a Rhys Griffiths eisiau talu’r pwyth yn ôl i’r Gwylanod a enillodd o 1-0 ym Mryntirion nôl ym mis Medi trwy gôl hwyr Alex Downes. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Bae Colwyn: ͏✅❌➖❌❌ 

Pen-y-bont: ➖✅❌❌❌ 

 

 Bydd uchafbwyntiau’r gêm ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio. 

 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?