S4C

Navigation

Mae’r freuddwyd Ewropeaidd ar ben i Gei Connah a Phen-y-bont, ond mae’r antur yn parhau i Hwlffordd ac i’r Seintiau Newydd wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer cymal cyntaf ail rownd ragbrofol Cyngres Europa. 

Ar ôl colli yn erbyn BK Häcken yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr, mae’r Seintiau Newydd yn cael ail gyfle i argyhoeddi yn Ewrop yn erbyn pencampwyr Lwcsembwrg, Swift Hesperange. 

Ac er mae Hwlffordd oedd â’r her fwyaf ar bapur, fe lwyddodd yr Adar Gleision i guro KF Shkëndija ar giciau o’r smotyn i sicrhau eu lle hwythau yn ail rownd ragbrofol Cyngres Europa. 

Colli 4-0 dros ddau gymal oedd hanes Cei Connah yn erbyn KA Akureyri o Wlad yr Iâ, ac er i Ben-y-bont frwydro’n ddewr yn eu hymddangosiad cyntaf yn Ewrop, fe gollon nhw wedi amser ychwanegol yn erbyn Santa Coloma o Andorra (3-1 dros y ddau gymal). 

Pe bae’r Seintiau Newydd neu Hwlffordd yn ennill y rownd hon, yna mi fyddan nhw’n camu ymlaen i’r drydedd rownd ragbrofol, ac ar ôl hynny dim ond gêm ail gyfle fyddai rhwng y clybiau a rownd grwpiau Cyngres Europa. 

 

Y Seintiau Newydd v Swift Hesperange (Lwcsembwrg) | Nos Fawrth, 25 Gorffennaf – 19:00 – Arlein

(Neuadd y Parc, Croesoswallt – Cymal Cyntaf Ail Rownd Ragbrofol Cyngres Europa 2023/24)  

Roedd hi wastad am fod yn her i’r Seintiau Newydd yn erbyn pencampwyr Sweden, ac er bod BK Häcken yn gwneud eu hymddangosiad cyntaf erioed yng Nghynghrair y Pencampwyr ar ôl ennill cynghrair Allsvenskan Sweden am y tro cyntaf yn eu hanes, roedd y gwahaniaeth mewn safon yn glir yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr. 

Felly, yn dilyn y golled o 5-1 dros y ddau gymal mae’r Seintiau Newydd wedi syrthio i Gyngres Europa ble cawn nhw ail gyfle i adael eu marc yn Ewrop eleni. 

Fel BK Häcken, mae Swift Hesperange wedi ennill eu cynghrair cenedlaethol am y tro cyntaf yn eu hanes, ac fel Y Seintiau Newydd, mae’r clwb o Lwcsembwrg yn syrthio i Gyngres Europa ar ôl colli yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr. 

Roedd Swift Hesper wedi achosi dipyn o sioc yn y cymal cyntaf gan gael gêm gyfartal 1-1 yn erbyn pencampwyr Slofacia, Slovan Bratislava. 

Ond ar ôl methu cic o’r smotyn yn hanner cyntaf yr ail gymal, bu’n rhaid i Swift dalu’r pris wrth i Slovan Bratislava sgorio ddwywaith wedi’r egwyl i ennill 3-1 dros y ddau gymal. 

Cyn y tymor yma, doedd Swift Hesper ond wedi chwarae dwy rownd yn Ewrop gan golli yn erbyn Legia Warsaw o Wlad Pwyl yn 1990, ac yna colli eto yn erbyn Domžale o Slofenia yn 2021. 

Dyw Swift Hesper felly erioed wedi ennill rownd, na chwaith wedi ennill gêm yn Ewrop, a bydd hynny’n hwb mawr i hyder Y Seintiau Newydd. 

Ers 1996 mae’r Seintiau Newydd wedi chwarae 76 o gemau yn Ewrop gan ennill 17 o rheiny (22%), ac mewn 39 rownd Ewropeaidd mae’r clwb wedi camu ‘mlaen ar naw achlysur (23%). 

Swift Hesper fydd y clwb cyntaf o Lwcsembwrg i wynebu’r Seintiau Newydd yn Ewrop, ac ar ôl colli eu pedair rownd diwethaf bydd pencampwyr Cymru yn benderfynol o greu argraff yn y cymal cyntaf. 

 

B36 Tórshavn (Ynysoedd Ffaröe) v Hwlffordd | Nos Iau, 27 Gorffennaf – 19:00 

(Gundadalur, Tórshavn – Cymal Cyntaf Ail Rownd Ragbrofol Cyngres Europa 2023/24)  

Mae carfan Hwlffordd wedi creu hanes drwy ennill rownd Ewropeaidd am y tro cyntaf erioed a sicrhau eu lle yn ail rownd ragbrofol Cyngres Europa. 

 

Ar ôl ennill gemau ail gyfle Uwch Gynghrair Cymru mae’r Adar Gleision yn cystadlu’n Ewrop am y tro cyntaf ers 19 mlynedd, ac wedi i’r enwau gael eu dethol y teimlad cyffredinol oedd bod dim llawer o obaith gan Hwlffordd yn erbyn KF Shkëndija o Ogledd Macedonia, clwb oedd wedi curo’r Seintiau Newydd yn 2018. 

 

Er gorffen yn 7fed yn y tabl, fe lwyddodd Hwlffordd i drechu Met Caerdydd (4ydd) a’r Drenewydd (6ed) ar giciau o’r smotyn yn y gemau ail gyfle i hawlio’r tocyn olaf i Ewrop gyda Zac Jones yn serennu rhwng y pyst i’r gwŷr o’r gorllewin. 

 

A Zac Jones oedd yr arwr unwaith yn rhagor nos Iau, gyda’r golwr ifanc o Seland Newydd yn arbed ddwywaith o’r smotyn wedi amser ychwanegol i yrru cefnogwyr Hwlffordd yn orffwyll yn Stadiwm Dinas Caerdydd. 

 

Roedd tîm Tony Pennock ar ei hôl hi o 1-0 wedi’r cymal cyntaf yng Ngogledd Macedonia, ac roedd hi’n ymddangos fel bod Hwlffordd ar eu ffordd allan o’r gystadleuaeth nes i ergyd Lee Jenkins wyro i gefn y rhwyd wedi 89 munud yn yr ail gymal. 

 

Ac er i Dan Hawkins a Ben Fawcett fethu’r targed o’r smotyn, roedd ciciau cywir Jazz Richards, Jack Wilson a Kai Whitmore, ynghŷd a doniau arbennig y golwr Jones yn ddigon i achosi canlyniad mwyaf annisgwyl o flaen torf o 1,716 yng nghartref tîm rhyngwladol Cymru. 

 

Yn eu hunig ymddangosiad blaenorol yn Ewrop, fe gollodd Hwlffordd 4-1 dros ddau gymal yn erbyn Fimleikafélag Hafnarfjarðar (Gwlad yr Iâ) yn 2004 gyda Tim Hicks yn sgorio unig gôl yr Adar Gleision yn y cymal cartref ar Barc Ninian, Caerdydd. 

 

A’r amddiffynnwr ifanc, 21 oed, Lee Jenkins felly yw dim ond yr ail chwaraewr i sgorio i Hwlffordd yn Ewrop gan sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf erioed mewn gêm Ewropeaidd. 

 

Ond nawr mae tasg anos yn wynebu Hwlffordd gyda B36 Tórshavn yn disgwyl yn yr ail rownd ragbrofol. 

 

B36 Tórshavn yw un o’r clybiau mwyaf llwyddiannus yn holl hanes Ynysoedd Ffaröe ar ôl ennill eu pencampwriaeth ar 11 achlysur. 

 

Ers 1992 mae B36 wedi chwarae 34 rownd yn Ewrop gan ennill 10 o rheiny (29%), ond wrth edrych ar eu record diweddar yn unig mae’r ystadegau yn dipyn cryfach. 

 

Ers 2018 mae’r clwb wedi ennill wyth o’u 12 rownd yn Ewrop, yn cynnwys buddugoliaeth ar giciau o’r smotyn yn erbyn Y Seintiau Newydd yn 2020. 

 

Roedd YSN wedi curo B36 yn gyfforddus dros ddau gymal yn 2015, sy’n profi bod y clwb o Ynysoedd Ffaröe wedi cryfhau’n sylweddol yn y tymhorau diweddar. 

 

Er hynny, wedi gêm ddi-sgôr gartref yn erbyn Paide Linnameeskond yn y cymal cyntaf bythefnos yn ôl, roedd angen amser ychwanegol ar B36 i guro’r clwb o Estonia yn rownd ragbrofol gyntaf Cyngres Europa. 

 

Chwaraeodd B36 yng Nghwpan Intertoto 1997 gan golli eu pedair gêm yn y grŵp, ond ers newid y fformat Ewropeaidd dyw’r clwb o Tórshavn erioed wedi cyrraedd rownd y grwpiau. 

 

Cynghrair yr Haf yw’r Betri deildin menn (Uwch Gynghrair Ynysoedd Ffaröe), ac mae B36 eisoes wedi chwarae 16 gêm gynghrair y tymor hwn ac yn eistedd yn 2il yn y tabl y tu ôl i KÍ. 

 

Bydd rhai’n honni bod hynny’n rhoi mantais i B36, ond fe brofodd Hwlffordd yn y rownd ragbrofol gyntaf ac yng ngemau ail gyfle Uwch Gynghrair Cymru bod eu lefelau ffitrwydd yn uchel a’u bod yn barod i frwydro am 120 o funudau os oes angen, gan wybod bod ‘Super Zac Jones’ yn y gôl yn aros i achub y dydd unwaith yn rhagor. 

 

 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?