Mae clybiau’r uwch gynghrair yn ymuno â Chwpan Cymru JD ar gyfer ail rownd y gystadleuaeth, a bydd y deiliad Cei Connah yn croesawu Cegidfa o’r ail haen i Gae-y-Castell ddydd Sul.
Nos Wener, 18 Hydref
Penydarren v Pontypridd
Goytre v Draconiaid Caerdydd
Hotspur Caergybi v Caernarfon
Pen-y-bont v Met Caerdydd
Y Fflint v Gresffordd
Y Bala v Llanrhaeadr
Y Seintiau Newydd v Llangollen
Bydd y cyffro’n cychwyn nos Wener gyda saith o gemau’n cael eu cynnal, a chwech o glybiau’r uwch gynghrair yn ei chanol hi.
Yn yr unig gêm rhwng dau o glybiau’r brif haen bydd Pen-y-bont yn herio Met Caerdydd am yr eildro o fewn tridiau wedi’r gêm gyfartal 1-1 ar Gampws Cyncoed nos Fawrth.
Er i’r myfyrwyr daro’n hwyr yn erbyn ceffylau blaen y gynghrair yng nghanol wythnos, dyw Pen-y-bont heb golli mewn chwe gêm yn erbyn Met Caerdydd (ennill 3, cyfartal 3).
Wedi dwy golled yn olynol gartref ar yr Oval, bydd Caernarfon yn gobeithio am well lwc oddi cartref yn erbyn Hotspur Caergybi o’r drydedd haen.
Bydd Y Fflint, Y Bala a’r Seintiau Newydd yn disgwyl curo clybiau o’r ail haen a’r drydedd haen er mwyn camu ‘mlaen i’r rownd nesaf.
Dydd Sadwrn, 19 Hydref
Caersws v Y Rhyl 1879
Trefynwy v Y Pîl
Bwcle v Bae Colwyn
New Inn v Llansawel
Penrhyncoch v Yr Wyddgrug
Trefelin v Corinthiaid Casnewydd
Bangor 1876 v Llai
Llanilltud Fawr v Morriston
Y Barri v Caerau Trelai
Dinbych v Llangefni
Dyffryn Aber v Prifysgol Abertawe
Llannefydd v Bae Trearddur
Warriors Bae Caerdydd v Rogerstone
Llanrwst v Cerrigydrudion
Corinthiaid Caerdydd v Lido Afan
Cei Connah v Cegidfa
Hwlffordd v Adar Gleision Trethomas
Cambrian v Goytre Utd
Porthmadog v Airbus UK
Clwb Cymric v Llanelli
Treffynnon v Rhuthun
Aberystwyth v Rhydaman
Llanuwchllyn v Y Drenewydd
Penrhiwceiber v Caerfyrddin
Llandudno v Bae Cinmel
Adar Gleision Trethomas sy’n eistedd ar frig Cynghrair y De, ac mi fyddan nhw’n anelu i guro Adar Gleision Hwlffordd am yr eildro o fewn dwy flynedd ar ôl achosi dipyn o sioc yn Hydref 2022 (Tre 2-1 Hwl).
Wedi dechrau digon simsan i’r tymor bydd Aberystwyth a Chei Connah yn benderfynol o beidio baglu yn erbyn Rhydaman a Chegidfa o’r ail haen.
Bydd Y Barri hefyd yn herio clwb o Gynghrair y De, ac mae’r dair gêm ddiwethaf rhwng Y Barri a Chaerau Trelai wedi gorffen yn gyfartal.
Mae’r Drenewydd yn wynebu taith i Lanuwchllyn o’r drydedd haen, tra bydd Llansawel yn ysu i osgoi embaras yn erbyn New Inn o’r bedwaredd haen.
Warriors Bae Caerdydd a Clwb Cymric yw’r unig ddau glwb o’r bumed haen sy’n dal i fod yn y gystadleuaeth, a bydd Clwb Cymric yn croesawu enillwyr Cwpan Cymru 2010/11, Llanelli i’r brif ddinas brynhawn Sadwrn.