Tair colled ac un gêm gyfartal oedd hi i bedwar clwb Cymru yng nghymal cyntaf rowndiau rhagbrofol Ewrop yr wythnos ddiwethaf, ond dyw hi ddim drosodd o bell ffordd wrth i’r timau baratoi ar gyfer yr ail gymal.
Pen-y-bont yw’r clwb sy’n y safle gorau o’r pedwar yn dilyn eu gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Santa Coloma o Andorra, a bydd Hwlffordd yn fwy na bodlon o fod wedi ildio dim ond un gôl yng Ngogledd Macedonia.
Bydd Cei Connah yn siomedig o fod wedi colli 2-0 yng Ngwlad yr Iâ, ac mae’r Seintiau Newydd 3-1 ar ei hôl hi cyn wynebu pencampwyr Sweden, BK Häcken yn yr ail gymal nos Fawrth.
Y Seintiau Newydd (1) v (3) BK Häcken | Nos Fawrth, 18 Gorffennaf – 19:00 (S4C)
(Neuadd y Parc, Croesoswallt – Ail Gymal Rownd Ragbrofol Gyntaf Cynghrair y Pencampwyr 2023/24)
Roedd hi wastad am fod yn her i’r Seintiau Newydd oddi cartref yn erbyn pencampwyr Sweden, ac er bod BK Häcken yn chwarae eu gêm gyntaf erioed yng Nghynghrair y Pencampwyr ar ôl ennill cynghrair Allsvenskan Sweden am y tro cyntaf yn eu hanes, roedd y gwahaniaeth mewn safon yn glir o’r gic gyntaf.
Chymerodd hi ond saith munud i BK Häcken fynd ar y blaen yn Gothenburg nos Fercher, gyda’r asgellwr chwim o Ghana, Ibrahim Sadiq yn gwasgu foli heibio i Connor Roberts o ongl dynn.
Ac wedi 13 munud roedd hi’n 2-0 i’r tîm cartref wedi i Mikkel Rygaard orffen symudiad slic, ac roedd hi’n ymddangos fel bod y rownd ar ben ac y byddai’n noson hir i bencampwyr Cymru.
Ond wedi 32 o funudau daeth gobaith i’r Seintiau Newydd wrth i Declan McManus benio’n daclus i hanneru’r fantais yn dilyn gwaith gwych gan Jordan Williams i lawr yr asgell chwith.
Hon oedd gôl gyntaf Declan McManus yng Nghynghrair y Pencampwyr, ond ei 7fed yn Ewrop wrth iddo ddringo i frig rhestr prif sgorwyr chwaraewyr Uwch Gynghrair Cymru yn Ewrop.
Ni barodd y dathliadau’n hir gan i BK Häcken adfer eu dwy gôl o fantais bedair munud yn ddiweddarach gyda chwaraewr rhyngwladol Norwy, Even Hovland (29 cap) yn penio’n gywir o gic rydd, ac er yr honiadau am gamsefyll roedd VAR yn hapus i ganiatau’r gôl.
Fel yna yr arhosodd hi, a bu’n rhaid i golwr y Seintiau, Connor Roberts wneud ambell i arbediad adweithiol yn yr ail hanner i gadw’i dîm yn y rownd gan sicrhau bod llygedyn o obaith cyn yr ail gymal ar Neuadd y Parc.
Bydd yr enillwyr yn wynebu unai Kí Klaksvík (Ynysoedd Ffaro) neu Ferencvárosi TC (Hwngari) yn yr ail rownd ragbrofol, tra bydd y collwyr yn syrthio i Gyngres Europa i herio Slovan Bratislava (Slofacia) neu Swift Hesper (Lwcsembwrg).
Santa Coloma (1) v (1) Pen-y-bont | Nos Iau, 20 Gorffennaf – 16:00
(Estadi Comunal, Andorra la Vella – Ail Gymal Rownd Ragbrofol Gyntaf Cyngres Europa 2023/24)
Roedd y rheolwr, Rhys Griffiths yn hynod falch o berfformiad ei chwaraewyr wrth i Ben-y-bont sicrhau gêm gyfartal yn eu hymddangosiad cyntaf erioed yn Ewrop.
O flaen torf o 1,400 ar Gae’r Bragdy roedd Pen-y-bont yn croesawu Santa Coloma, sef y clwb mwyaf llwyddiannus yn holl hanes y Primera Divisio yn Andorra.
Doedd dim llawer yn gwahanu’r ddau dîm am y 35 munud agoriadol tan i’r ymwelwyr ennill cic rydd ar yml y cwrt cosbi.
Ac er i ymdrech Mario Mourelo guro’r mur amddiffynnol bydd golwr newydd Pen-y-bont, Alex Harris yn teimlo y dylai fod wedi gwneud yn well wedi i’r bêl sleifio dan ei gorff ac i mewn i’r gôl.
Yn yr ail hanner, daeth yr awr i’r gŵr profiadol Chris Venables, oedd yn chwarae ei gêm gystadleuol gyntaf i Ben-y-bont ers ymuno o’r Bala.
Gyda 66 munud ar y cloc anelodd y tîm cartref gic rydd hir tuag at gwrt y gwrthwynebwyr, ac wedi peniad ymlaen gan yr eilydd Dan Jefferies fe lwyddodd Venables i reoli a chodi’r bêl dros golwr rhyngwladol Andorra i unioni’r sgôr.
Hon oedd trydedd gôl Venables mewn 20 o gemau Ewropeaidd, a byddai gôl arall nos Iau yn anrheg penblwydd perffaith cyn iddo droi’n 38 oed yr wythnos nesaf.
Roedd hi’n berfformiad calonogol i Ben-y-bont fydd yn teimlo bod ganddynt gyflw gwirioneddol i gamu ymlaen i ail rownd ragbrofol Cyngres Europa i wynebu unai FK Sutjeska (Montenegro) neu SS Cosmos (San Marino).
Cei Connah (0) v (2) KA Akureyri | Nos Iau, 20 Gorffennaf – 19:00
(Neuadd y Parc, Croesoswallt – Ail Gymal Rownd Ragbrofol Gyntaf Cyngres Europa 2023/24)
Dywedodd rheolwr Cei Connah, Neil Gibson ei fod yn hynod siomedig a rhwystredig ar ôl y golled o 2-0 yn Reykjavik nos Iau.
Mae Cei Connah yn hen bennau ar gystadlu’n Ewrop bellach ar ôl chwarae 19 gêm (ennill 4) a chamu ‘mlaen ar ddau achlysur yn dilyn buddugoliaethau yn erbyn Stabaek yn 2016/17 a Kilmarnock yn 2019/20.
Mae KA Akureyri ar y llaw arall wedi cyrraedd Ewrop am y tro cyntaf ers 20 mlynedd ac erioed wedi ennill rownd Ewropeaidd, ac felly roedd y Nomadiaid yn teimlo bod ganddynt gyfle i gamu ymlaen yn y gystadleuaeth.
Roedd hi’n ddi-sgôr yng Ngwlad yr Iâ wedi awr o’r gêm cyn i Hallgrímur Mar Steingrímsson yrru ergyd anhygoel o du allan y cwrt cosbi ar yr hanner foli i gornel ucha’r rhwyd.
A daeth yr ail gôl o gic rydd Steingrímsson wedi 83 o funudau, gyda’r bêl yn syrthio’n garedig i lwybr Daníel Hafsteinsson a’i ergyd isel nerthol yn curo Andy Firth.
Ac felly mi fydd hi’n dipyn o her i Gei Connah yn Neuadd y Parc, ond mae’r Nomadiaid yn griw ‘styfnig ac mi fyddan nhw’n benderfynol o droi’r gêm i rownd nos Iau.
Bydd yr enillwyr yn camu ‘mlaen i wynebu unai Dundalk (Iwerddon) neu Bruno’s Magpies (Gibraltar) yn ail rownd ragbrofol Cyngres Europa.
Hwlffordd (0) v (1) KF Shkëndija | Nos Iau, 20 Gorffennaf – 19:45 (Arlein)
(Stadiwm Dinas Caerdydd – Ail Gymal Rownd Ragbrofol Gyntaf Cyngres Europa 2023/24)
Wedi 19 mlynedd o aros mae Hwlffordd yn ôl yn Ewrop, a wnaethon nhw ddim siomi mewn gêm galed yn erbyn KF Shkëndija.
Mae Klubi i Futbollit Shkëndija wedi ennill 12 allan o’u 26 rownd blaenorol yn Ewrop (46%) yn cynnwys buddugoliaeth o 5-4 dros ddau gymal yn erbyn Y Seintiau Newydd yn 2018.
Mae Shkëndija wedi ennill pencampwriaeth Gogledd Macedonia ar bedwar achlysur gyda’r diweddaraf o rheiny yn 2020/21, ac roedd ‘na amheuaeth y byddai Hwlffordd yn cael crasfa yn y cymal cyntaf yng Ngogledd Macedonia.
Ond fe ddaliodd yr Adar Gleision eu tir tan yr egwyl, a dau funud i fewn yr ail hanner fe sgoriodd Shkëndija unig gôl y gêm gyda Adenis Shala yn rhwydo o groesiad peryglus Ardian Limani.
Roedd hi’n brofiad arbennig i chwaraewr Hwlffordd yn y Toše Proeski Arena, Skopje, sef stadiwm rhyngwladol Gogledd Macedonia – a bydd hi’n noson gofiadwy arall nos Iau yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Bydd yr enillwyr yn wynebu unai B36 Tórshavn (Ynysoedd Ffaro) neu Paide Linnameeskond (Estonia) yn ail rownd ragbrofol Cyngres Europa.