S4C

Navigation

Roedd hi’n ddechrau rhwystredig i’r tymor i’r ddau glwb newydd, a bydd Y Barri a Bae Colwyn yn mynd benben ddydd Sadwrn yn y gobaith o gael ennill eu pwyntiau cyntaf ers eu dyrchafiad. 

 

 

Nos Wener, 18 Awst 

Caernarfon v Y Drenewydd | Nos Wener – 19:45 

Cafodd Caernarfon y dechrau delfrydol i’w tymor newydd gyda buddugoliaeth gyfforddus oddi cartref ym Mae Colwyn (Bae 0-4 Cfon). 

Roedd hi’n brynhawn cadarnhaol i’r Cofis gyda’r ddau flaenwr newydd, Adam Davies a Zack Clarke yn cyfuno’n effeithiol i sgorio tair o’r bedair gôl, a’r hen ben Darren Thomas hefyd yn rhwydo i brofi ei fod yn dal yn chwaraewr gwerthfawr ac yntau bellach yn 36 mlwydd oed. 

Doedd hi ddim yn ddechrau cystal i’r Drenewydd wrth iddyn nhw golli 3-1 gartref yn erbyn Pen-y-bont gan ildio un gôl echrydus i’w rhwyd eu hun. 

Roedd yna ambell i bwynt positif i dîm Chris Hughes, a’r mwyaf o rheiny oedd gôl hwyr Jason Oswell, gyda enillydd Esgid Aur 2016/17 yn sgorio’r gôl gynta’n y gynghrair ers 2017. 

Er y golled y penwythnos diwethaf bydd Y Drenewydd yn hyderus gan eu bod wedi ennill pob un o’u wyth gêm ddiwethaf yn erbyn Caernarfon, ac heb golli ar yr Oval ers Mawrth 2020. 

Cei Connah v Aberystwyth | Nos Wener – 19:45 

Mae Cei Connah yn dechrau’r penwythnos wrth waelod y tabl ar ôl ildio chwech yn erbyn Y Seintiau Newydd nos Wener diwethaf. 

Roedd y Nomadiaid wedi mynd ar y blaen ddwywaith yn Neuadd y Parc, ond dangosodd y pencampwyr eu dannedd yn yr ail hanner i ennill 6-2 a gosod eu marc yn gynnar yn y tymor. 

Bu Aberystwyth yn agos i syrthio o’r uwch gynghrair y tymor diwethaf, ac fe ddechreuodd y tymor newydd gyda colled gartref yn erbyn Met Caerdydd. 

Sgoriodd Eliot Evans unig gôl y gêm i’r ymwelwyr wedi 34 munud, cyn iddo dderbyn cerdyn coch yn yr ail hanner, ond er i Aberystwyth chwarae’r chwarter awr olaf gyda dyn yn ychwanegol fe fethon nhw a churo amddiffyn taer y myfyrwyr. 

Enillodd Aberystwyth o 2-1 gartref yn erbyn Cei Connah fis Medi diwethaf, ond honno yw eu hunig buddugoliaeth mewn 13 gêm yn erbyn y Nomadiaid, ac Hydref 2015 oedd y tro diwethaf i’r Gwyrdd a’r Duon ennill oddi cartref yn erbyn Cei Connah. 

Bydd hi’n noson nodedig i’r Nomadiaid wrth iddyn nhw gynnal gêm yng Nghae y Castell am y tro cyntaf ers gadael eu cartref blaenorol, Stadiwm Glannau Dyfrdwy. 

 

Pen-y-bont v Hwlffordd | Nos Wener – 19:45 

Chris Venables oedd yr arwr i Ben-y-bont brynhawn Sadwrn, yn sgorio dwy gôl i’w glwb newydd yn eu buddugoliaeth o 3-1 oddi cartref yn Y Drenewydd. 

Di-sgôr oedd gêm agoriadol Hwlffordd yn erbyn Pontypridd nos Wener gyda’r golwr dawnus Zac Jones yn serennu i’r Adar Gleision unwaith yn rhagor. 

Mae’r ddau glwb wedi cael blas ar bêl-droed Ewropeaidd dros yr haf, a dyna fydd y nod unwaith eto’r tymor hwn. 

Hwlffordd oedd yn fuddugol yn y gêm gystadleuol ddiwethaf rhwng y timau ym mis Rhagfyr (Hwl 2-1 Pen), ond dyna’r unig dro mewn chwe gêm i’r Adar Gleision guro Pen-y-bont yn yr uwch gynghrair. 

 

Dydd Sadwrn, 19 Awst 

Met Caerdydd v Y Bala | Dydd Sadwrn – 14:30 

Triphwynt a llechen lân, fedrwch chi ddim gofyn am fwy na hynny, a dyna gafodd Met Caerdydd a’r Bala ar y penwythnos agoriadol. 

Er i’r sgoriwr Eliot Evans gael ei anfon o’r maes am y tro cyntaf yn y Cymru Premier JD, fe lwyddodd y myfyrwyr i ddal eu gafael a cipio’r fuddugoliaeth ar Goedlan y Parc. 

Bu rhaid i’r Bala aros 92 munud cyn i’r eilydd Iwan Roberts rwydo yn ei gêm gyntaf yn y gynghrair i sicrhau triphwynt mewn gêm galed yn erbyn Y Barri. 

Fe wnaeth y clybiau yma gyfarfod ar bump achlysur y tymor diwethaf ac roedd y record benben yn hafal (Met ennill 2, Bala ennill 2, cyfartal 1), ond dyw’r Bala heb ennill ar Gampws Cyncoed ers Rhagfyr 2017. 

 

Pontypridd v Y Seintiau Newydd | Dydd Sadwrn – 14:30 

Ar ôl gêm gyfartal yn Hwlffordd ar y penwythnos agoriadol, bydd Pontypridd yn croesawu’r pencampwyr i’r Rhondda brynhawn Sadwrn. 

Mae’r Seintiau Newydd wedi saethu’n syth i frig y tabl ar ôl chwalu Cei Connah 6-2 nos Wener. 

Dechreuodd Declan McManus yr ymgyrch fel y gorffennodd yr un ddiwethaf gan sgorio ddwywaith a chreu un gôl wrth i’r Albanwr anelu am ei drydedd Esgid Aur yn olynol. 

Enillodd Y Seintiau Newydd o 2-0 yn eu dwy gêm gynghrair yn erbyn Pontypridd y tymor diwethaf a nhw’n amlwg fydd y ffefrynnau clir eto ddydd Sadwrn. 

 

Y Barri v Bae Colwyn | Dydd Sadwrn – 17:15 (S4C) 

Roedd hi’n brynhawn rhwystredig i’r Barri ym Maes Tegid y penwythnos diwethaf gyda’r capten Kayne McLaggon yn cael ei hel o’r maes cyn i’r Bala rwydo’n hwyr i ennill y gêm. 

Nid y dechrau fyddai’r rheolwr newydd Steve Jenkins wedi dymuno ei gael, ond ni fydd wedi di-galoni gormod yn ei gêm gyntaf wrth y llyw i’r Dreigiau. 

Roedd hi’n fedydd tân go iawn i Fae Colwyn wrth iddyn nhw golli 4-0 gartref yn erbyn Caernarfon, a bydd Steve Evans yn disgwyl ymateb gan ei chwaraewyr ddydd Sadwrn. 

Ar nodyn cadarnhaol, roedd yna 1,411 yn y dorf ar Ffordd Llanelian ar gyfer gêm gyntaf Bae Colwyn yn y Cymru Premier JD, ac mae disgwyl y bydd swm uchel eto yn heidio i Barc Jenner y penwythnos yma. 

Ac mi ddylai hi fod yn gêm fwy cystadleuol na’r un ddiwethaf rhwng y timau ‘nôl ym mis Ebrill pan orffennodd hi’n 6-0 i’r Barri yn rownd derfynol Cwpan Gwasanaethau Gwaed Cymru ar Barc Latham (cwpan yr ail haen). 

Chwaraeodd y Bae eu tîm ieuenctid yn y gêm honno yn dilyn dryswch ynglyn â dyddiad y gêm, ond serch hynny bydd y Gwylanod yn edrych ymlaen i gael talu’r pwyth yn ôl. 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 9:35. 

 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?