Roedd hi’n noson fawr i Gymru nos Wener wrth iddyn nhw herio’r Weriniaeth Tsiec, a hynny heb y seren Gareth Bale sydd wedi sgorio 36 o goliau mewn 99 o gemau dros ei wlad.
Roedd cannoedd o gefnogwyr Cymru wedi gallu teithio i Brâg nos Wener, a hynny gan fod amodau a rheolau Covid-19 yn caniatáu iddynt wneud hynny am y tro cyntaf ers 2019.
Fe ddechreuodd y chwarae yn addawol gan Gymru gyda Kieffer Moore yn methu cyfle euraidd i roi Cymru ar y blaen yn fuan yn yr hanner cyntaf.
Fe ddaeth gôl gyntaf y gêm gan Aaron Ramsey wedi 36 munud o’r chwarae, a rhoi Cymru ar y blaen 0-1.
Llai na funud yn ddiweddarach, fe gollodd Cymru’r fantais wedi i Jakub Pešek unioni’r sgôr i’r tîm cartref.
Sgôr ar yr hanner amser Gweriniaeth Tsiec 1-1 Cymru.
Fe ddechreuodd yr ail hanner yn wael i Gymru wedi camgymeriad ofnadwy gan Danny Ward yn y gôl, gan adael y bêl i mewn i’w rwyd ei hun gan roi’r Weriniaeth Tsiec ar y blaen.
Ond fe gododd momentwm Cymru yn dilyn camgymeriad Ward ac fe greodd pas ardderchog gan Harry Wilson gyfle arbennig i Dan James, asgellwr chwim Leeds United, i orffen y symudiad yn wych, gan unioni’r sgôr unwaith eto, roedd tîm Rob Page yn ôl yn y gêm.
Wedi ail gôl Cymru, fe gododd tempo’r gêm, gyda’r ddau dîm yn dod ag eilyddion ymlaen i’r cae, ond roedd yn rhaid i Gymru fodloni ar bwynt yn unig, gan na lwyddodd y naill dîm i sicrhau’r gôl dyngedfennol.
Mae Cymru yn sicr o’u lle yn y gemau ail-gyfle ym mis Mawrth oherwydd eu bod wedi ennill ei grŵp yng Nghynghrair y Cenhedloedd, ond byddai sicrhau’r ail safle yn y grŵp yn sicrhau gêm gartref yn y gemau ail gyfle yn hytrach na chwarae oddi cartref.
Mae’r pwynt nos Wener yn hwb i garfan Rob Page, ond mae Cymru’n parhau yn y trydydd safle yng Ngrŵp E gydag wyth pwynt, tra bod y Weriniaeth Tsiec hefyd ar wyth pwynt ond yn parhau yn yr ail safle ar sail gwahaniaeth goliau, er hyn mae gan Gymru gêm mewn llaw. Mae Gwlad Belg yn parhau ar frig y grŵp.
Erthygl Newyddion S4C