Ras am yr Esgid Aur
Mae’r ras am yr Esgid Aur yn gwbl agored eleni gyda dim ond dwy gôl yn gwahanu naw chwaraewr.
Rhys Hughes | Cei Connah | 10 |
Louis Lloyd | Caernarfon | 10 |
Ben Ahmun | Hwlffordd | 9 |
Ollie Hulbert | Y Barri | 9 |
Aramide Oteh | Y Seintiau Newydd | 9 |
Chris Venables | Pen-y-bont | 8 |
Aaron Williams | Y Drenewydd | 8 |
Zack Clarke | Y Seintiau Newydd | 8 |
Jordan Williams | Y Seintiau Newydd | 8 |
Rhys Hughes o Gei Connah yw un o’r prif sgorwyr, a gyda’r Nomadiaid yn cystadlu’n y Chwech Isaf, bydd y chwaraewr canol cae ymosodol yn ffyddiog o allu parhau i serennu yn ail ran y tymor.
Wedi dweud hynny, mae Cei Connah wedi mynd ar rediad o bedair gêm gynghrair heb ennill am y tro cyntaf ers dros 11 mlynedd, felly bydd angen i Hughes ysgogi’r garfan gyda’i goliau os yw’r Nomadiaid am gystadlu am y 7fed safle.
Louis Lloyd o Gaernarfon sy’n gydradd brif sgoriwr ar y funud, ond mae gemau caled o flaen y Cofis yn ail ran y tymor a bydd hi’n her i’r gŵr 21 mlwydd oed ganfod y rhwyd yn erbyn yr elît.
Mae pedair o goliau Lloyd wedi dod o’r smotyn, ond ar ôl methu cic o’r smotyn yn ei gêm ddiwethaf yn erbyn Y Fflint tybed a fydd yr asgellwr wedi colli ei hawl i gymryd cyfrifoldeb dros y ciciau.
Mae Ben Ahmun yn mwynhau ei hun ers ymuno â Hwlffordd dros yr haf gyda naw gôl y tymor hwn a pedair o rheiny wedi dod ym mis Ionawr, felly mae’r momentwm yn sicr gan yr ymosodwr tal.
Bydd Ollie Hulbert yn un i’w wylio yn ail ran y tymor gan iddo ddechrau’r ymgyrch ar dân cyn dioddef anaf, ond ar ôl rhwydo’i gôl gyntaf ers mis Medi yn erbyn Aberystwyth dros y penwythnos bydd blaenwr Y Barri yn bendant yn arf peryglus yn y Chwech Isaf.
Un arall sydd wedi disgleirio yw blaenwr Y Seintiau Newydd, Aradime Oteh sydd wedi sgorio naw gôl ers ymuno â’r pencampwyr o Walsall dros yr haf, er iddo ddechrau dim ond naw gêm gynghrair yn rhan gynta’r tymor.
Bydd gan Oteh fwy o gystadleuaeth am ei le yn nhîm y Seintiau yn ail ran y tymor gan i Zack Clarke ymuno â’r pencampwyr o Gaernarfon ar ôl taro wyth gôl i’r Cofis yn rhan gynta’r tymor.
Yn ogystal ag Oteh a Clarke, mae Jordan Williams yn chwaraewr sydd yn dueddol o fynd o dan y radar yng Nghroesoswallt er iddo gyfrannu’n gyson o’r esgyll, ac mae wedi rhwydo wyth gôl unwaith eto eleni.
Mae ymosodwr Y Drenewydd, Aaron Williams ymysg y prif sgorwyr unwaith eto’r tymor hwn, ac ar ôl taro 16, 17 ac 19 o goliau yn ei dri tymor diwethaf, mae’n sicr yn fygythiad yn y frwydr am yr Esgid Aur, er bod y Robiniaid mewn safle siomedig.
A peidiwch a di-ystyru y pen profiadol, Chris Venables, sydd wedi ennill yr Esgid Aur ar bump achlysur yn y gorffennol gyda’r diweddaraf yn dod yn 2020/21.
Mae Venables yn drydydd ar restr prif sgorwyr holl hanes y gynghrair gyda 243 o goliau mewn 569 ymddangosiad, ac er ei fod yn 39 mlwydd oed erbyn hyn mae’n dal i brofi ei werth i Ben-y-bont sy’n brwydro am y bencampwriaeth.
Brad Young oedd enillydd yr Esgid Aur y tymor diwethaf, yn rhwydo 22 o goliau i’r Seintiau Newydd yn symud i Sawdi Arabia dros yr haf.
Cyn hynny, roedd Declan McManus wedi hawlio’r tlws am ddwy flynedd yn olynol, ond dim ond pedair gôl sydd gan yr Albanwr i’w enw y tymor hwn.
Does dim un chwaraewr o un o glybiau’r de wedi ennill yr Esgid Aur ers i Rhys Griffiths gipio’r tlws am y 7fed tymor yn olynol yn 2011/12 tra roedd gyda Llanelli.
19 o goliau oedd cyfanswm Griffiths yn 2011/12, sef y swm isaf gan enillydd yr Esgid Aur yn holl hanes y gynghrair, ond efallai bydd swm llai na hynny yn ddigon i gipio’r wobr y tymor hwn.