S4C

Navigation

Ras am yr Esgid Aur

Mae’r ras am yr Esgid Aur yn gwbl agored eleni gydag un gôl yn unig yn gwahanu pum chwaraewr a dim ond dwy rownd o gemau ar ôl i’w chwarae.

Rhys Hughes Cei Connah 14
Louis Lloyd Caernarfon 14
James Crole Pen-y-bont 13
Ollie Hulbert Y Barri 13
Aramide Oteh Y Seintiau Newydd 13
Ben Ahmun Hwlffordd 11
Aaron Williams Y Drenewydd 11
Jordan Williams Y Seintiau Newydd 10

 

Rhys Hughes o Gei Connah yw un o’r prif sgorwyr, a gyda’r Nomadiaid yn wynebu’r Barri ac Aberystwyth yn eu gemau olaf mae disgwyl i’r gŵr 23 mlwydd oed ychwanegu at ei 14 gôl gynghrair cyn diwedd y tymor.

Bydd Cei Connah yn herio’r Barri brynhawn Sul, tîm sydd m’ond wedi cadw un llechen lân yn eu 23 gêm ddiwethaf, cyn wynebu Aberystwyth, sef y clwb sydd wedi ildio’r nifer fwyaf o goliau’n y gynghrair y tymor hwn.

Mae Hughes wedi ennill gwobr Gôl y Mis ddwywaith y tymor hwn ac wedi cyrraedd y rhestr fer ar ddau achlysur arall, felly mae ei gyfraniad wedi bod yn arbennig i’r Nomadiaid ers iddo ymuno dros yr haf.

Louis Lloyd o Gaernarfon sy’n gydradd brif sgoriwr ar y funud, ond mae gemau caled o flaen y Cofis yn erbyn Pen-y-bont a Met Caerdydd a bydd hi’n her i’r gŵr 21 mlwydd oed ganfod y rhwyd yn erbyn yr elît.

Wedi dweud hynny mae Lloyd wedi taro tair gôl yn ei ddwy gêm ddiwethaf a bydd yr hyder yn uchel a dim pwysau ar y Cofis yn eu dwy gêm olaf.

James Crole o Ben-y-bont yw prif gyfrannydd goliau’r gynghrair hyd yma gyda 13 o goliau a saith ‘assist’.

Daeth tair o’r goliau rheiny yn erbyn Y Seintiau Newydd, yn cynnwys gôl wych i ennill y gêm bythefnos yn ôl, a’r canlyniad yn sicrhau bod Pen-y-bont yn cadarnhau’r ail safle.

Bydd Pen-y-bont yn wynebu Caernarfon a’r Bala yn eu dwy gêm olaf, ac mae Crole eisoes wedi sgorio chwe gôl mewn chwe gêm yn erbyn y clybiau rheiny y tymor hwn.

Bydd Ollie Hulbert yn un i’w wylio yn y ddwy gêm olaf wrth i brif sgoriwr Y Barri geisio arwain ei dîm i’r gemau ail gyfle.

Mae’r Barri yn herio Cei Connah a Llansawel nesaf, ac mae Hulbert eisoes wedi sgorio pum gôl mewn chwe gêm yn erbyn y clybiau rheiny y tymor hwn.

Un arall sydd wedi disgleirio yw blaenwr Y Seintiau Newydd, Aramide Oteh sydd wedi sgorio 13 gôl ers ymuno â’r pencampwyr o Walsall dros yr haf.

Ond gyda dim ond un gôl yn ei bedair gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth, dyw’r momentwm ddim ar ochr Oteh.

Mae Ben Ahmun yn mwynhau ei hun ers ymuno â Hwlffordd dros yr haf gyda 11 gôl y tymor hwn, ond mae gemau heriol o flaen yr Adar Gleision yn erbyn Met Caerdydd a’r Seintiau Newydd.

Mae ymosodwr Y Drenewydd, Aaron Williams ymysg y prif sgorwyr unwaith eto’r tymor hwn, ac ar ôl taro 16, 17 ac 19 o goliau yn ei dri tymor diwethaf, mae’n sicr yn fygythiad yn y frwydr am yr Esgid Aur, er bod y Robiniaid mewn safle siomedig.

Brad Young oedd enillydd yr Esgid Aur y tymor diwethaf, yn rhwydo 22 o goliau i’r Seintiau Newydd cyn symud i Sawdi Arabia dros yr haf.

Does dim un chwaraewr o un o glybiau’r de wedi ennill yr Esgid Aur ers i Rhys Griffiths gipio’r tlws am y 7fed tymor yn olynol yn 2011/12 tra roedd gyda Llanelli.

19 o goliau oedd cyfanswm Griffiths yn 2011/12, sef y swm isaf gan enillydd yr Esgid Aur yn holl hanes y gynghrair, ond mae’n ymddangos y bydd cyfanswm llai na hynny yn ddigon i gipio’r wobr y tymor hwn.

 

Enillwyr Blaenorol (cyfnod fformat 12-tîm)

2010/11 Rhys Griffiths Llanelli 25
2011/12 Rhys Griffiths Llanelli 19
2012/13 Michael Wilde Y Seintiau Newydd 25
2013/14 Chris Venables Aberystwyth 24
2014/15 Chris Venables Aberystwyth 28
2015/16 Chris Venables Aberystwyth 20
2016/17 Jason Oswell Y Drenewydd 22
2017/18 Greg Draper Y Seintiau Newydd 22
2018/19 Greg Draper Y Seintiau Newydd 27
2019/20 Chris Venables Y Bala 22
2020/21 Chris Venables Y Bala 24
2021/22 Declan McManus Y Seintiau Newydd 24
2022/23 Declan McManus Y Seintiau Newydd 26
2023/24 Brad Young Y Seintiau Newydd 22
Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?