S4C

Navigation

Mae rhan gynta’r tymor wedi dod i ben felly dyma gyfle i edrych ar bwy sydd wedi dod i’r brig o ran siartiau’r ystadegau.

 

PRIF SGORWYR

Dau chwaraewr ifanc sy’n arwain y ffordd gyda 10 gôl yr un sef Rhys Hughes o Gei Connah a Louis Lloyd o Gaernarfon.

Ar ôl arwyddo i Gei Connah o Tranmere dros yr haf, mae Rhys Hughes yn sicr wedi dal y llygad gyda 10 gôl, ac mae’r gŵr 23 mlwydd oed wedi creu tair gôl hefyd sy’n ei roi ymhlith y chwaraewyr sydd wedi cyfrannu’r nifer fwyaf o goliau y tymor hwn.

Mae Louis Lloyd wedi dechrau’r tymor yn gryf a bydd y Cofi Army yn cofio ei gôl fuddugol oddi cartref yn erbyn Y Seintiau Newydd am flynyddoedd i ddod.

Mae pedair o goliau Lloyd wedi dod o’r smotyn, ac mae eto i greu gôl y tymor hwn, ond yn sicr mae mwy i ddod gan yr asgellwr 21 mlwydd oed.

Un arall sydd wedi disgleirio yw blaenwr Y Seintiau Newydd, Aradime Oteh sydd wedi sgorio naw gôl ers ymuno â’r pencampwyr o Walsall dros yr haf, er iddo ddechrau dim ond naw gêm gynghrair yn rhan gynta’r tymor.

 

Rhestr Fer

RHYS HUGHES                                      CEI CONNAH                                         10

LOUIS LLOYD                                        CAERNARFON                                       10

ARAMIDE JAY OTEH                              Y SEINTIAU NEWYDD                            9

BEN AHMUN                                        HWLFFORDD                                        8

ZACK CLARKE                                        CAERNARFON                                       8

OLLIE HULBERT                                     Y BARRI                                                8

JORDAN WILLIAMS                               Y SEINTIAU NEWYDD                            8

 

Y CREUWYR

Mae un chwaraewr ymhell ar y blaen ar restr y creuwyr a Zeli Ismail o’r Drenewydd yw hwnnw, sydd wedi creu 13 o goliau i’r Robiniaid hyd yma.

Daeth 12 o’r 13 ‘assist’ rheiny cyn diwedd mis Hydref, ac felly bydd angen i Ismail ail-ddarganfod ei safon blaenorol os am helpu’r Drenewydd i osgoi’r cwymp eleni.

James Crole o Ben-y-bont a Jake Phillips o’r Fflint sydd nesaf ar y rhestr gyda’r ddau wedi creu saith gôl yr un yn rhan gynta’r tymor.

 

Rhestr Fer

ZELI ISMAIL                                          Y DRENEWYDD                                     13

JAMES CROLE                                       PEN-Y-BONT                                         7

JAKE PHILLIPS                                       Y FFLINT                                               7

NATHAN WOOD                                   PEN-Y-BONT                                         6

OSEBI ABADAKI                                    Y BALA                                                 6

BEN CLARK                                           Y SEINTIAU NEWYDD                            6

 

LLECHEN LÂN 

Zac Jones o Hwlffordd sy’n arwain y ras am y Faneg Aur gan i’r golwr 24 oed o Seland Newydd gadw 12 llechen lân mewn 22 gêm yn rhan gynta’r tymor gan godi’r clwb i’r Chwech Uchaf am y tro cyntaf yng nghyfnod y 12-Disglair.

Joel Torrance o’r Bala sy’n ail ar y rhestr ar ôl cadw 10 llechen lân hyd yma, sy’n cynnwys pum gêm ddi-sgôr yn rhan gynta’r tymor.

 

Rhestr Fer

ZAC JONES                                            HWLFFORDD                                        12

JOEL TORRANCE                                   Y BALA                                                 10

ADAM PRZYBEK                                    PEN-Y-BONT                                         9

GEORGE RATCLIFFE                               CEI CONNAH                                         6

CONNOR ROBERTS                               Y SEINTIAU NEWYDD                            6

 

CYFRANIAD GOLIAU

Gyda 14 cyfraniad gôl mae James Crole o Ben-y-bont ar frig y rhestr, yn hafal gyda Zeli Ismail sydd hefyd ar y copa ar ôl creu cymaint o goliau.

Mae James Crole, 20 oed, wedi sgorio a chreu saith gôl i Ben-y-bont y tymor hwn ac wedi bod yn allweddol yn eu llwyddiant eleni.

Mae Zack Clarke hefyd ymysg yr enwau ar frig y rhestr sy’n profi pam fod Y Seintiau Newydd wedi bod mor awyddus i’w ddenu o Gaernarfon i Groesoswallt.

Bydd Y Fflint yn sicr yn gweld colli’r ymosodwr Florian Yonsian sydd wedi gadael Cae-y-Castell ym mis Ionawr ond sydd eto i arwyddo â chlwb newydd.

 

 

Enw Clwb Goliau Creu Cyfraniad Goliau
James Crole PEN 7 7 14
Zeli Ismail DRE 1 13 14
Rhys Hughes CEI 10 3 13
Aramide Oteh YSN 9 4 13
Jordan Williams YSN 8 4 12
Florian Yonsian FFL 7 5 12
Zack Clarke YSN 8 3 11
Ben Ahmun HWL 8 3 11
Ben Clark YSN 5 6 11
Louis Lloyd CFON 10 0 10
Ollie Hulbert BARR 8 2 10
Ryan Reynolds MET 6 4 10
Sion Bradley YSN 6 4 10
Nathan Wood PEN 4 6 10

 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?